Pan fyddwch yn cymryd eich gwyliau gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi'r rhybudd cywir - a dylai'ch cyflogwr wneud yn siŵr ei fod yn eich talu'n gywir.
Rhaid i chi roi rhybudd ymlaen llaw i'ch cyflogwr eich bod am gymryd gwyliau. Dylai'r rhybudd hwn fod o leiaf ddwywaith y cyfnod o wyliau yr ydych yn bwriadu ei gymryd (e.e. dylech roi pythefnos o rybudd ar gyfer wythnos o wyliau).
Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am wyliau cyn belled ag y byddant yn rhoi rhybudd sydd o leiaf yr un mor hir â'r gwyliau y gofynnwyd amdano (felly i wrthod cais am wythnos o wyliau, byddai'n rhaid iddynt ddweud wrthych wythnos ymlaen llaw).
Gall eich contract bennu rheolau eraill ynghylch pryd y cewch gymryd eich gwyliau. Caniateir hyn ar yr amod nad yw'r rheolau'n eich atal rhag cymryd gwyliau o gwbl.
Gall eich cyflogwr benderfynu pryd y cewch gymryd peth neu'r cyfan o'ch gwyliau. Er enghraifft, mae'n bosib y bydd yn gofyn i chi gymryd rhywfaint o'ch gwyliau dros wyliau banc, neu efallai y bydd am i'r cwmni cyfan gymryd gwyliau dros y Nadolig.
Gall hyn fod yn eich contract cyflogaeth, neu gall fod yn arferiad sydd wedi datblygu dros amser. Bydd yn rhaid i gyflogwyr roi'r un faint o rybudd a chi.
Gallai eich gwyliau blynyddol gynnwys rhan-ddiwrnodau (er enghraifft, 9.6 diwrnod i rywun sy'n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos). Mae angen i chi ofyn i'ch cyflogwr sut mae arno eisiau i chi drin y rhan-ddiwrnodau hyn. Ni ellir eu talgrynnu i lawr, ond nid oes angen eu talgrynnu i'r diwrnod llawn agosaf - ond gall cyflogwr ddewis gwneud hynny os yw'n dymuno. Neu, gallai eich cyflogwr awgrymu eich bod yn cymryd diwrnod llawn o wyliau a dim ond cael eich talu am y rhan o'r diwrnod sy'n ddyledus i chi; gellid cymryd y rhan-ddiwrnod o sifft diwrnod, fel eich bod yn gadael yn gynnar neu'n cyrraedd yn hwyr; neu gellid trosglwyddo'r rhan-ddiwrnod i'ch blwyddyn wyliau nesaf.
Mae gennych hawl i gael eich talu yn ystod gwyliau blynyddol a gwyliau blynyddol dan gontract. Bydd eich tâl gwyliau yr un fath â'ch cyflog wythnosol (heb gynnwys goramser anwarantedig). Os yw eich tâl yn amrywio o wythnos i wythnos, dylech gael tâl gwyliau sy'n gyfystyr â'ch cyflog wythnosol cyfartalog dros y 12 wythnos flaenorol.
Yn dilyn dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ym mis Mawrth 2006, dylai tâl gwyliau gael ei dalu am y cyfnod y byddwch yn cymryd eich gwyliau. Ni chaiff eich cyflogwr gynnwys eich tâl gwyliau yn eich cyfradd fesul awr (a elwir yn dâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr). Os yw'ch contract presennol yn dal yn cynnwys tâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr, dylech chi a'ch cyflogwr ei drafod.
Os byddwch chi'n sâl yn ystod eich gwyliau, nid oes hawl awtomatig i newid eich gwyliau yn absenoldeb oherwydd salwch, er y gallai eich cyflogwr fod yn gefnogol (a bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrifau meddygol yn ôl y gofyn).
Os byddwch yn absennol oherwydd salwch am gyfnod hir, chewch chi ddim hawlio tâl gwyliau ar yr un pryd.
Yn dilyn achosion llys, ar hyn o bryd, mae'n aneglur pa effaith y mae absenoldeb salwch hirdymor yn ei chael ar eich gwyliau blynyddol. Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch ar y mater hwn cysylltwch ag Acas am gyngor.
Pan fyddwch yn gadael swydd - am ba bynnag reswm - cewch gymryd y gwyliau statudol yr ydych wedi'i gronni erbyn yr amser y byddwch yn gadael yn ystod eich cyfnod o rybudd, cyn belled â'ch bod yn rhoi rhybudd cywir a bod eich cyflogwr yn cytuno.
Hefyd, bydd gennych yr hawl i gael eich talu am unrhyw wyliau statudol yr ydych wedi'u cronni ond nas cymerwyd.
Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau nag yr ydych wedi'u cronni, ni ddylai eich cyflogwr dynnu arian o'ch cyflog terfynol, onid yw hynny wedi'i gytuno arno o flaen llaw. Edrychwch yn eich contract i weld a oes unrhyw gytundeb o'r fath.
Os ydych wedi bod yn sâl drwy gydol y flwyddyn wyliau, ni fydd gennych hawl gyfreithiol i gael unrhyw dâl gwyliau pan fyddwch yn gadael.
Mae gwyliau'n hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ei rhoi i chi. Os bydd gennych broblemau yna darllenwch yr wybodaeth am eich hawl sylfaenol i wyliau.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth' neu 'cyflwyniad i undebau llafur'.