Mae treial gan reithgor yn rhan hollbwysig o'n system gyfreithiol a'n ffordd ddemocrataidd o fyw. Mae Gwasanaethu ar Reithgor yn ddyletswydd bwysig i bob dinesydd.
Os ydych chi wedi'ch galw i wasanaethu ar reithgor, rhaid i'ch cyflogwyr roi amser o'r gwaith i chi ar gyfer hyn. Os na fyddan nhw'n gwneud hyn, fe allen nhw fod yn euog o ddirmyg llys. Os ydych chi'n gyflogai, bydd gennych yr hawl i beidio â chael eich trin yn annheg (er enghraifft, peidio â chael eich ystyried ar gyfer dyrchafiad) oherwydd i chi gael eich galw.
Does dim rhaid i'ch cyflogwyr eich talu yn ystod eich gwasanaeth rheithgor. Ond fe allwch hawlio am gostau teithio a bwyd a cholli enillion gan y llys.
Rhaid i'ch cyflogwyr lenwi Tystysgrif Colli Enillion er mwyn i chi hawlio am hynny. Dim ond hyn a hyn y cewch ei hawlio.
Gallwch ofyn am gael gohirio'ch gwasanaeth rheithgor. Dim ond unwaith y cewch chi wneud hyn ac ni chewch ei ohirio y tu hwnt i 12 mis ar ôl y dyddiad gwreiddiol.
Os ydych chi am gael eich esgusodi'n llwyr rhag gwasanaethu ar reithgor, rhaid i chi ysgrifennu at y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn nodi'ch rhesymau. Fodd bynnag, oni bai eich bod wedi gwasanaethu fel rheithiwr/wraig yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, go brin y cewch eich esgusodi.
Os hoffech gael eich esgusodi rhag gwasanaethu ar reithgor yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gysylltu â Thîm Rheoli'r Rheithgor.
Fel arfer, bydd gwasanaeth rheithgor yn para 10 diwrnod, ond bydd rhai achosion yn hwy na hynny. Fel arfer, rhybuddir rheithwyr ymlaen llaw os disgwylir i'r achos bara'n hir.
Os cewch chi'ch diswyddo am eich bod wedi'ch galw i wneud gwasanaeth rheithgor neu am i chi wasanaethu ar reithgor, cewch ddwyn achos diswyddo annheg. Fodd bynnag, os dywedodd eich cyflogwyr wrthych y byddai eich absenoldeb yn cael effaith ddifrifol ar eu busnes ac na wnaethoch chi ofyn am ohirio eich gwasanaeth neu am gael eich esgusodi, mae'n debyg y bydd y diswyddo'n cael ei ystyried yn deg.
Os cawsoch eich galw i wasanaethu ar reithgor, dylech:
Os bydd eich cyflogwyr yn eich cam-drin am eich bod yn cyflawni gwasanaeth rheithgor, dylech yn y lle cyntaf ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth.
Ceir mwy o wybodaeth ynghylch beth i'w ddisgwyl wrth wasanaethu ar reithgor yn adran Troseddu, Cyfiawnder a'r Gyfraith Directgov. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth a gweld fideo ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y gwasanaeth rheithgor, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Reithgorau Ganolog ar 0845 3555567. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaethu ar reithgor yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Thîm Rheoli'r Rheithgor ar 028 7126 1329.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.