Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Gwyliau blynyddol

Cewch yma'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am eich hawl i wyliau blynyddol â thâl, sut mae cyfrifo eich hawl i hwyliau yn ôl eich patrwm gweithio, cronni eich gwyliau a'i drosglwyddo i'r flwyddyn nesaf, a chymryd eich gwyliau.

Gwyliau: eich hawliau

Mae gan bob gweithiwr hawl i isafswm o 5.6 wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ond fe allai eich cyflogwr gynnig mwy. Cewch yma wybod sut mae mynd ati i gyfrifo'ch hawl i wyliau, gan gynnwys eich hawliau yng nghyswllt gwyliau banc.

Cyfrifo eich hawl i wyliau

Bydd eich hawl i wyliau yn dibynnu ar eich cyflogwr, ond bydd faint yn union o ddiwrnodau hefyd fod yn dibynnu ar eich oriau gwaith neu ar eich patrwm gweithio. Dilynwch y ddolen isod i gyfrifo beth yw'ch lwfans gwyliau.

Cronni gwyliau a throsglwyddo gwyliau o un flwyddyn i'r llall

Efallai y bydd gan gyflogwyr 'system groniadau' ar gyfer hawl gwyliau.  Fel arall, bydd ganddo flwyddyn wyliau sy'n nodi'r cyfnod pryd ddylech chi gymryd eich gwyliau. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut mae'r cynlluniau hyn yn gweithio.

Cymryd eich gwyliau

Pan fyddwch wedi cyfrifo eich hawl i wyliau, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn rhoi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr. Mae'n bosib y bydd rhai contractau'n nodi pryd y dylech gymryd rhywfaint o'ch gwyliau. Dylai eich cyflogwr sicrhau ei fod yn eich talu'n gywir am eich gwyliau.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU