Mae'r gyfraith yn rhoi gwarchodaeth arbennig i ferched beichiog yn y gwaith. Mae ganddynt hawl i gael amser o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol, absenoldeb mamolaeth statudol, ac efallai y cânt dâl mamolaeth neu lwfans mamolaeth. Cânt hefyd eu gwarchod rhag triniaeth annheg.
Mae gan gyflogeion beichiog bedair prif hawl:
Mae gan gyflogwyr hefyd ddyletswyddau penodol i sicrhau iechyd a diogelwch eu cyflogeion beichiog.
Gallwch gael help personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb mamolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Dylech hefyd ddweud wrthynt pryd yr hoffech ddechrau eich absenoldeb mamolaeth a chael Tâl Mamolaeth Statudol.
Ond mae'n syniad da dweud wrth eich cyflogwr yn fuan, oherwydd bydd yn gallu cynllunio o gwmpas eich absenoldeb mamolaeth a chyflawni'i ddyletswyddau cyfreithiol tuag atoch chi. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes unrhyw faterion iechyd a diogelwch yn codi. Allwch chi ddim cymryd amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau cynenedigol tan i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog.
Mae gan bob cyflogai beichiog, ni waeth ers pryd y maent wedi bod yn eu swyddi, hawl i amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol. Rhaid i chi dderbyn tâl yn ôl eich cyfradd cyflog arferol am unrhyw amser o'r gwaith. Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr wrthod rhoi amser rhesymol i chi o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol neu wrthod talu i chi ar eich cyfradd cyflog arferol.
Gall gofal cynenedigol gynnwys dosbarthiadau ymlacio a magu babis yn ogystal ag archwiliadau meddygol, os caiff y rhain eu hargymell gan eich meddyg. Os oes modd, ceisiwch osgoi cymryd amser o'r gwaith pan allwch, o fewn rheswm, drefnu dosbarthiadau neu archwiliadau y tu allan i oriau gwaith.
Rhaid i bob cyflogwr ddarparu amgylchedd gwaith iach a diogel i chi. Mae gwarchodaeth ychwanegol ar gael os ydych yn feichiog, sy'n rheswm da dros roi gwybod i'ch cyflogwr yn gynnar eich bod yn feichiog.
Rhaid i'ch cyflogwr gynnal asesiad risg o'ch swydd i ganfod unrhyw risgiau posib i chi a'r baban yn y groth. Gallai'r risgiau hyn gael eu hachosi gan y canlynol:
Rhaid i'ch cyflogwr wedyn naill ai gael gwared ar y risg neu eich symud chi fel nad ydych yn agored i'r risg (er enghraifft, drwy gynnig gwaith arall addas i chi). Os nad yw'r naill na'r llall yn bosib, dylai eich cyflogwr eich atal o'r gwaith gyda chyflog llawn.
Os ydych yn meddwl eich bod yn agored i risg, a'ch cyflogwr ddim yn cytuno, dylech siarad yn gyntaf â'ch cynrychiolydd iechyd a diogelwch neu swyddog undeb llafur. Gallwch hefyd fynd yn syth at eich cyflogwr i esbonio'ch pryderon. Os ydy'ch cyflogwr yn dal i wrthod gweithredu, dylech siarad â'ch meddyg neu ffonio llinell gymorth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os ydych yn absennol o'r gwaith gyda salwch oherwydd beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn dyddiad geni tebygol y babi, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau'n awtomatig, ni waeth beth a benderfynwyd yn flaenorol gyda'ch cyflogwr.
Hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol, mae'n rhaid i chi gymryd pythefnos ar ôl i'r babi gyrraedd, neu bedair wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri. Gelwir hyn yn 'absenoldeb mamolaeth gorfodol'.
Os yw cyflogwyr yn trin merched yn llai ffafriol oherwydd eu beichiogrwydd neu oherwydd iddynt gymryd absenoldeb mamolaeth, yna mae hynny yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Mae triniaeth o'r fath yn cynnwys pethau fel:
Ni chaiff eich cyflogwr newid telerau ac amodau eich gwaith yn ystod eich beichiogrwydd heb eich cytundeb chi. Os gwna, bydd yn torri'r contract.
Os gwedir eich hawliau i chi, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i ddechrau. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os byddwch chi'n dal yn anhapus, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.