Yn gyffredinol, bydd
Nid oes hawl gyfreithiol i dalu am weithio oriau ychwanegol, ac nid oes isafswm statudol o dâl goramser, ond ni chaiff eich cyfradd tâl gyfartalog ddisgyn islaw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dylai eich contract cyflogaeth gynnwys manylion y cyfraddau tâl goramser, a sut y cânt eu llunio.
Bydd cyfraddau goramser yn amrywio o gyflogwr i gyflogwr; bydd rhai'n talu mwy am weithio goramser ar benwythnos neu tyl Banc, ond mae'n bosibl na fydd pawb.
Yn lle rhoi tâl am oramser, bydd rhai cyflogwyr yn cynnig amser i ffwrdd o'r gwaith yn lle. Bydd angen i chi a'ch cyflogwr gytuno ar hyn, a bydd unrhyw amser y byddwch yn ei gymryd o'r gwaith yn gweddu'r cyflogwr, fel rheol. Mae gan rai cwmnïau reolau ynghylch pryd y caniateir amser o'r gwaith, ond bydd eraill yn trefnu amser i ffwrdd ar sail pob achos yn unigol.
Dylai eich contract cyflogaeth gynnwys yr amodau ar gyfer gweithio goramser. Dim ond os bydd eich contract yn dweud hynny y bydd rhaid i chi weithio goramser. Hyd yn oed os bydd yn dweud hynny, ni ellir eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel arfer. Os bydd gofyn i chi weithio mwy na hyn ond nad ydych chi eisiau, dylech godi'r mater gyda'ch cyflogwr yn gyntaf.
Oni fydd eich contract yn gwarantu goramser, gall eich cyflogwr eich atal rhag gweithio goramser. Ond ni chaiff eich cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn, na'ch bwlio, drwy adael i eraill weithio goramser ond eich atal chi rhag gwneud hynny.
Dylai eich contract cyflogaeth ddweud beth yw eich oriau a dyddiau gweithio cyffredin, a gall hyn gynnwys gweithio ar ddydd Sul neu beidio. Eich contract cyflogaeth fydd yn pennu a fydd hyn yn cyfrif fel gweithio goramser. Gall gweithwyr mewn adeiladau betio a siopau adwerthu ddewis peidio â gweithio ar ddydd Sul.
Oni fydd yn dweud yn wahanol yn eu contract cyflogaeth, ni fydd cyflogwyr yn talu goramser i weithwyr rhan-amser fel arfer, oni bai eu bod yn gweithio:
Mae'n ofyniad cyfreithiol na ddylid trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol na'r staff llawn-amser.
Mae'n bosibl y bydd angen i'ch cyflogwr newid amodau neu batrymau gwaith ar sail ffactorau busnes neu economaidd. Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi a'ch cyflogwr yn cytuno arno y gellir newid eich contract cyflogaeth. Mae newid eich amodau gwaith heb eich caniatâd yn dor-contract.
Yn gyntaf, dylech wirio'ch contract cyflogaeth am fanylion y ffordd y caiff goramser ei lunio, a beth y dylai'r cyfraddau tâl fod. Os nad oes gennych gontract ysgrifenedig, efallai bydd yr erthygl argontractau cyflogaeth yn gymorth. Cofiwch, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi telerau ac amodau ysgrifenedig i chi o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.