Mae pob math o fusnesau'n gweithredu ar y Sul. Mae siopau a busnesau hamdden yn enghreifftiau amlwg, ond mae cwmnïau eraill megis cwmnïau'r prif wasanaethau, cludiant neu adloniant hefyd yn gorfod gwneud gwaith ar y Sul.
Dylech edrych yn eich contract cyflogaeth neu yn eich datganiad telerau ac amodau ysgrifenedig i weld a oes rhaid i chi weithio ar y Sul neu a oes rhaid i chi os gofynnir i chi wneud. Os yw eich contract yn dweud hynny, bydd rhaid i chi weithio ar y Sul. Os nad yw'n dweud hynny, yna'r unig ffordd o'ch gorfodi i weithio ar y diwrnod hwnnw yw trwy newid eich contract. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwyr gytuno arno fel arfer, neu byddai eich gorfodi i weithio ar y Sul yn dor-contract.
Mae rheolau arbennig ar gyfer gweithwyr siopau a hapchwarae - edrychwch isod.
Os ydych chi'n Gristion pybyr, mae'n bosibl bod gennych deimladau cryf am weithio ar y Sul. Mae gan bawb yr hawl i beidio â chael neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu crefydd neu eu cred (neu oherwydd nad oes ganddynt grefydd neu gred).
Mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr ac esbonio pa mor bwysig yw hi i chi gael y Sul yn rhydd i ddilyn eich crefydd. Fel arfer, bydd cyflogwyr yn ceisio ymateb i geisiadau o'r fath (ee drwy newid patrwm shifft).
Mater i chi a'ch cyflogwyr yw penderfynu a gewch chi fwy o dâl am weithio ar y Sul ai peidio. Does dim hawliau statudol yn y maes hwn, felly mae'n dibynnu ar eich contract.
Bydd llawer o fusnesau'n dewis gwobrwyo'u gweithwyr sy'n gweithio y tu allan i'r oriau gweithio arferol. Bydd rhai'n talu amser-a-hanner neu amser dwbl, tra bydd eraill yn rhoi mwy o amser o'r gwaith.
Os ydych chi'n gweithio mewn siop neu yn y diwydiant hapchwarae (naill ai mewn siop hapchwarae sydd ar agor i'r cyhoedd neu i fwci mewn achlysur chwaraeon) bydd gennych hawliau arbennig. Fe gewch ddewis peidio â gorfod gweithio ar y Sul hyd yn oed os yw eich contract yn dweud bod rhaid i chi. Rhaid i'ch cyflogwyr ddweud wrthych am yr hawl hwn o fewn dau fis i chi gael eich cyflogi.
Ni fydd yr hawliau hyn yn berthnasol os cewch eich cyflogi i weithio ar y Sul yn unig.
Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu at eich cyflogwyr gan roi tri mis o rybudd ysgrifenedig iddynt eich bod yn dymuno rhoi'r gorau i weithio ar y Sul.
Os penderfynwch chi ddewis peidio â gweithio ar y Sul, does dim rhaid i'ch cyflogwyr gynnig gwaith ychwanegol i chi ar ddiwrnodau eraill yn lle hynny. Rydych chi'n debygol o golli'r cyflog yr oeddech chi'n arfer ei ennill drwy weithio ar y Sul.
Peidiwch â phoeni am sut y bydd dewis peidio â gweithio ar y Sul yn effeithio ar sicrwydd eich swydd. Dan yr hawl hwn, ni chaiff eich cyflogwyr eich trin yn anffafriol (er enghraifft, gwrthod rhoi goramser neu ddyrchafiad i chi) na'ch diswyddo'n deg am wrthod gweithio ar y Sul. Gall Tribiwnlys Cyflogaeth roi iawndal i chi os bydd eich cyflogwyr yn torri'r rheolau.
Os ydych chi wedi bod yn gweithio ers tro mewn siop neu yn y diwydiant hapchwarae, rydych chi wedi'ch gwarchod eisoes. Os ydych chi'n gweithio mewn siop, mae hyn yn berthnasol os ydych chi wedi bod yn gweithio i'r un cyflogwyr ers 25 Awst 1994. Os ydych chi'n gweithio yn y diwydiant hapchwarae, 2 Ionawr 1995 yw'r dyddiad. Os ydych chi'n dod o dan unrhyw un o'r categorïau hyn, y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw dweud wrth eich cyflogwyr nad ydych chi'n gweithio ar y Sul. Nid yw'r warchodaeth ychwanegol hon yn berthnasol yn yr Alban.
Os ydych chi'n hapus i weithio ar y Sul, gallwch roi nodyn 'dewis gwneud' i'ch cyflogwyr sy'n dweud eich bod yn barod i weithio ar y Sul. Yna, rhaid i chi gytuno'n union pa waith ar y Sul rydych chi'n fodlon ei wneud neu ar ba ddydd Sul yn arbennig.
Mae hawl gan weithwyr mewn siop neu yn y diwydiant hapchwarae sy'n dewis gweithio ar y Sul newid eu meddwl yn y dyfodol a dewis peidio â gweithio (ar yr amod eu bod yn rhoi'r rhybudd angenrheidiol).
Os ydych chi'n poeni bod rhywun yn mynd i ofyn i chi weithio ar y Sul, dylech gael sgwrs anffurfiol gyda'ch cyflogwyr gyntaf. Os ydych chi'n gweithio mewn siop neu yn y diwydiant hapchwarae, penderfynwch a ydych am gyflwyno rhybudd eich bod am ddewis peidio gweithio.
Os ydych chi'n gweithio mewn siop neu yn y diwydiant hapchwarae, a'ch bod yn teimlo i chi gael eich trin yn wael oherwydd i chi ddewis peidio gweithio ar y Sul, dylech ddilyn y camau a nodir yn yr erthygl am ddatrys problemau yn y gwaith.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.