Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithio yn y nos

Gall gweithio yn y nos beri problemau penodol i weithwyr. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod bod yna warchodaeth gyfreithiol ychwanegol i weithwyr nos, bod yna eithriadau i'r rheolau hyn a beth y gallwch eu gwneud os ydych chi'n anhapus ynghylch eich hawliau fel gweithiwr nos.

Cyfyngiadau ar waith nos

Dim ond am hyn a hyn o oriau y cewch chi weithio yn y nos. Dan y Rheoliadau Amser Gweithio, diffinnir 'nos' fel y cyfnod rhwng 11.00pm a 6.00am. Rydych chi'n weithiwr nos os byddwch chi'n gweithio'n rheolaidd am o leiaf dair awr yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi hawliau i chi gael gwyliau â thâl, cyfnodau egwyl a chyfyngiadau ar eich wythnos waith.

Fel gweithiwr nos, ni ddylech weithio mwy nag wyth awr ar gyfartaledd ym mhob cyfnod o 24-awr (ac eithrio goramser). Cyfrifir y cyfartaledd hwn dros gyfnod o 17 wythnos. Chewch chi ddim dewis peidio â chydymffurfio â'r terfyn hwn.

Os bydd eich gwaith nos yn golygu peryglon arbennig neu straen corfforol neu feddyliol sylweddol, chaiff neb eich gorfodi i weithio mwy nag wyth awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr. Mae hyn yn cynnwys goramser.

Gweithwyr ifanc

Os ydych chi dan 18 oed ond dros oedran gadael yr ysgol (mae hynny'n golygu tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n troi 16) rydych chi'n weithiwr ifanc. Dan y gyfraith, chewch chi ddim gweithio yn y nos (fel arfer rhwng 10.00 pm a 6.00 am, ond fe gewch gytuno i newid hwn i 11.00 pm tan 7.00 am). Mae ambell eithriad i hyn (er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn ysbyty neu mewn gwesty). Fe gewch 30 munud o egwyl os ydych chi'n gweithio mwy na phedair awr a hanner ar unwaith.

Eithriadau

Ni fydd y terfynau ar waith nos yn berthnasol:

  • os oes rhaid i chi deithio ymhell o'ch cartref i gyrraedd y gwaith neu os byddwch chi'n gweithio mewn mannau gwahanol o hyd
  • os ydych chi'n gwneud gwaith diogelwch neu waith seiliedig ar wyliadwriaeth
  • os ydych yn gweithio mewn diwydiant sy'n cael cyfnodau brig prysur, megis amaethyddiaeth, manwerthu neu dwristiaeth
  • os digwydd argyfwng neu ddamwain
  • os oes angen staffio'r gwaith bedair awr ar hugain y dydd (er enghraifft, gwaith ysbyty)
  • os ydych wedi'ch cyflogi yn y diwydiant rheilffyrdd a'ch bod yn gweithio ar drenau neu fod eich gweithgareddau'n afreolaidd neu'n gysylltiedig â sicrhau bod y trenau'n rhedeg mewn pryd

Os ydych chi'n gwneud gwaith nos mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn, mae gennych yr hawl i gael egwyl yn lle'r amser ychwanegol yn y gwaith.

A fyddwch chi'n cael rhagor o gyflog os byddwch chi'n gwneud gwaith nos?

Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwyr yn penderfynu'ch gwobrwyo am weithio oriau anghymdeithasol (er enghraifft, fe allech gael cludiant neu fwyd am ddim neu dâl ychwanegol). Dim ond os yw eich contract yn nodi hynny y bydd gennych yr hawl gyfreithiol i unrhyw un o'r rhain, ond mae'n arfer da i gyflogwyr eu cynnig.

Newidiadau i'ch contract

Os nad oes rhaid i chi wneud gwaith nos dan eich contract, fel arfer bydd angen i'ch cyflogwyr gael eich cytundeb cyn newid eich oriau. Gall y contract fod yn ysgrifenedig neu'n gytundeb llafar.

Eich hawliau iechyd fel gweithiwr nos

Oherwydd bod risg i'ch iechyd ynghlwm wrth waith nos, mae'n rhaid i'ch cyflogwyr gynnig asesiad iechyd am ddim i chi cyn i chi ddechrau gwneud gwaith nos ac yna'n rheolaidd ar ôl hynny. Os byddwch yn llenwi holiadur a bod eich atebion yn peri pryder, dylai eich cyflogwyr eich cyfeirio at feddyg.

Os bydd meddyg yn dweud wrthych fod gennych broblemau iechyd oherwydd eich bod yn gwneud gwaith nos, rhaid i'ch cyflogwyr eich trosglwyddo i waith dydd - os oes modd.

Gwaith nos a beichiogrwydd

Os byddwch yn mynd yn feichiog neu os ydych chi'n fam newydd, a'ch bod yn poeni am risgiau gwaith nos, dylech gael sgwrs â'ch cyflogwyr a gofyn am gael symud i wneud gwaith yn ystod y dydd.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gweithio mwy o oriau yn y nos nag a ganiateir:

  • mae'n bosibl bod eich cyflogwyr yn torri'r contract
  • fe allai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gymryd camau yn erbyn eich cyflogwyr

Os ydych chi'n meddwl nad ydych chi'n derbyn hawliau eraill fel gweithiwr nos, gallwch:

  • sgwrsio gyda'ch rheolwr i geisio datrys pethau'n gyflym - cofiwch fod rhaid i'ch cyflogwyr gadw cofnod o'r oriau rydych chi wedi'u gweithio iddyn nhw
  • cysylltu â'ch undeb llafur neu'ch cynrychiolydd iechyd a diogelwch (os oes gennych un) i gael cyngor
  • fe allwch naill ai drafod y mater yn anffurfiol neu ddilyn y drefn gwyno yn eich contract

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar faterion Iechyd a Diogelwch gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.  Gallwch hefyd ffonio’r Llinell gwybodaeth Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (8.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Neu, allwch siarad â’ch adran Iechyd yr Amgylchedd lleol yn swyddfeydd eich cyngor.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU