Dylai eich oriau gweithio arferol fod yn eich contract cyflogaeth. Heblaw eich bod yn dewis gweithio mwy na 48 awr yr wythnos (neu eich bod yn gweithio mewn sector sydd â'i reolau arbennig ei hun) ni ddylech orfod gweithio mwy o oriau na hynny ar gyfartaledd.
Dylai eich telerau cyflogaeth ddweud pa oriau a pha batrymau gweithio sy'n berthnasol i'ch swydd. Mae'n bosibl nad oes gennych gontract ysgrifenedig, ond rhaid i weithwyr gael manylion ysgrifenedig o'u prif delerau ac amodau - gan gynnwys yr oriau gweithio - o fewn y ddau fis cyntaf.
Ni ddylai'r rhan fwyaf o weithwyr orfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, yn ôl y Rheoliadau Amser Gweithio. Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi hawliau i chi gael gwyliau â thâl, cyfnodau egwyl a chyfyngiadau ar weithio yn y nos.
Fel arfer, cyfrifir eich oriau gweithio cyfartalog dros gyfnod o 17 wythnos. Gallwch weithio mwy na 48 awr mewn un wythnos ar yr amod bod yr oriau cyfartalog yn llai na 48.
Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai gweithwyr, megis gweithwyr ifanc, meddygon dan hyfforddiant a gweithwyr teithiol yn y diwydiant cludiant.
Os ydych chi dan 18 oed ond dros oedran gadael yr ysgol (mae hynny'n golygu tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n troi 16) rydych chi'n weithiwr ifanc.
Fel arfer, ni chaiff gweithwyr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Does dim modd trefnu i'r oriau hyn fod yn gyfartaledd dros gyfnod hwy. Ond, mae rhai eithriadau i'r rheolau hyn.
Yn ogystal â gwneud eich dyletswyddau arferol, mae eich wythnos waith yn cynnwys:
Nid yw eich wythnos waith yn cynnwys:
Os ydych yn 18 oed neu drosodd ac eisiau gweithio mwy na 48 awr yr wythnos, gallwch ddewis i eithrio o’r terfyn 48 awr. Mae’n rhaid i hyn fod yn wirfoddol ac yn ysgrifenedig. Ni all fod yn gytundeb gyda’r gweithlu ac ni ddylech gael eich diswyddo neu’n ddarostyngedig i afles (er enghraifft, cael eich gwrthod am ddyrchafiad neu oramser ) oherwydd eich bod yn gwrthod arwyddo am eithrio.
Os ydych yn arwyddo am eithrio, mae gennych yr hawl i ganslo’r cytundeb ar unrhyw amser drwy rhoi rhwng wythnos a thri mis o rybudd. Gallwch gytuno ar yr amser rhybudd gyda’ch cyflogwr pan yr ydych yn arwyddo’r eithrio. Gallwch ganslo eithrio hyd yn oed os mae’n rhan o gontract yr ydych wedi arwyddo.
|
Enghraifft o gytundeb eithrio Yr wyf i (enw) yn cytuno y caf weithio am fwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Os byddaf yn newid fy meddwl, byddaf yn rhoi (yr amser - hyd at dri mis) o rybudd ysgrifenedig i derfynu'r cytundeb hwn. Llofnod...................... Dyddiad:................................ |
|---|
Os byddwch yn gweithio mewn ambell sector, chewch chi ddim dewis peidio â chydymffurfio â'r terfyn 48-awr hwn ar yr wythnos weithio.
Nid yw eich wythnos waith yn dod dan y Rheoliadau Amser Gweithio os ydych chi'n gweithio yn y meysydd canlynol:
Mae rheolau arbennig ar gyfer meddygon dan hyfforddiant a gweithwyr symudol yn y diwydiant cludiant (naill ai ar y ffordd, ar y rheilffordd, yn yr awyr neu ar y môr).
Os ydych yn credu eich bod yn cael eich amddifadu o’ch hawl i weithio dim mwy na 48 awr yr wythnos (40 os ydych dan 18 oed) cysylltwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 08453 450 055. Gallwch hefyd gysylltu â’r Adran Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth am oriau gweithio i yrwyr/criwiau Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a gyrwyr Cerbydau Cludo Teithwyr (PSV), ffoniwch yr Asiantaeth Safonau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ar 08706 060 440.