Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfnodau egwyl

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yr hawl i gymryd egwyl, ond telerau eich contract fydd yn pennu a gewch eich talu amdanynt ai peidio. Mae rheolau arbennig am gyfnodau egwyl ar gyfer rhai mathau o weithwyr - yn enwedig y rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth.

Mathau o egwyl

Fel arfer bydd gennych amryw o wahanol fathau o egwyl o'ch gwaith. Gellir rhannu'r rhain yn dri chategori:

  • 'cyfnodau egwyl' - amser cinio, amser paned, a thoriadau byr eraill yn ystod y dydd.
  • 'gorffwys dyddiol' - y cyfnod rhwng gorffen un diwrnod o waith a dechrau'r un nesaf (dros nos rhwng dyddiau'r wythnos yw hyn i'r rhan fwyaf o bobl)
  • 'gorffwys wythnosol' - dyddiau llawn pan na fyddwch yn dod i'r gwaith (y penwythnos fydd hyn i lawer o bobl)

Ni dderbynnir tâl am yr ail a'r trydydd math o doriad bron byth (oni bai bod rhaid i chi aros 'ar alw'). Derbynnir tâl am y math cyntaf yn aml, oni ddywedir hynny yn eich contract.

Faint o gyfnodau egwyl fyddwch chi'n eu cael?

Fel arfer, cytunir ar y cyfnodau o egwyl a gewch gyda'ch cyflogwr. Gall fod yn drefn ysgrifenedig, neu'n rhan o arferion safonol eich cyflogwr.

Mae'r gyfraith yn gosod gofynion ar gyfnodau egwyl mewn dwy ffordd:

  • mae isafswm o gyfnodau egwyl wedi'u pennu yn y Rheoliadau Amser Gweithio
  • o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • Nid yw pawb yn dod dan y Rheoliadau Amser Gweithio - yn bennaf y rhai hynny sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth (gweler isod am fwy o fanylion).

Rhaid i'ch cyflogwr roi o leiaf y cyfnodau egwyl sy'n ofynnol yn ôl y Rheoliadau Amser Gweithio i chi, ond rhaid iddo hefyd sicrhau nad yw eich iechyd na'ch diogelwch mewn perygl. Golyga hyn efallai y bydd rhaid i'ch cyflogwr roi cyfnodau egwyl hwy na'r hyn a bennir yn y rheoliadau i chi, os bydd hyn yn lleihau perygl iechyd a diogelwch.

Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur

Os ydych chi'n defnyddio offer sgriniau arddangos - cyfrifiaduron, er enghraifft - dylai eich cyflogwr gynllunio'ch gwaith gan sicrhau fod gennych gyfnodau rheolaidd o egwyl oddi wrth y sgrîn.

Rheoliadau amser gwaith

Nodir y cyfnodau sylfaenol o amser egwyl yn y Rheoliadau Amser Gwaith. Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o weithwyr, ond mae rhai eithriadau (gweler isod am fwy o fanylion).

Mae'r rheoliadau hefyd yn rhoi hawliau i chi gael gwyliau â thâl, cyfyngiadau ar eich wythnos waith, a chyfyngiadau ar waith nos.

Cyfnodau egwyl - egwyl yn ystod eich diwrnod gwaith

Os ydych chi'n weithiwr oedolyn (dros 18 oed), fel arfer bydd gennych hawl i gael 20 munud o egwyl os bydd disgwyl i chi weithio am gyfnod hwy na chwe awr.

Gall eich cyfnod egwyl fod dros ginio neu i gael paned. Mae'n bosib y bydd eich contract cyflogaeth yn pennu egwyliau ychwanegol. Nid oes hawl statudol i 'egwyl ysmygu'.

Os ydych chi dan 18 oed ond dros oedran gadael yr ysgol (mae hynny'n golygu tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n troi 16) rydych chi'n weithiwr ifanc. Caniateir i weithiwr ifanc gael 30 munud o egwyl os bydd disgwyl iddynt weithio am gyfnod hwy na phedair awr a hanner.

Y gofynion yw:

  • ni cheir rhannu'r egwyl yn nifer o egwyliau bychain
  • ni cheir defnyddio'r egwyl cyn dechrau nac ar ôl gorffen diwrnod gwaith - rhaid iddo fod rywle yn y canol
  • cewch fynd oddi wrth eich man gwaith yn adeilad y cyflogwr yn ystod eich egwyl
  • gall eich cyflogwr ddweud wrthych pryd y cewch gymryd egwyl, cyn belled ag y bydd yn cwrdd â'r gofynion hyn

Gorffwys dyddiol - egwyl rhwng diwrnodau gwaith

Fel arfer, os ydych chi'n weithiwr oedolyn, bydd gennych hawl i gael egwyl o 11 awr o leiaf rhwng pob diwrnod gwaith. Caniateir i weithiwr/wraig ifanc gael egwyl o 12 awr o leiaf rhwng pob diwrnod gwaith.

Gorffwys wythnosol - y ‘penwythnos’

Fel arfer, os ydych chi'n weithiwr/wraig dros 18 oed, bydd gennych hawl i gael 24 awr yn rhydd o waith bob wythnos neu 48 awr yn rhydd o waith bob pythefnos.

Os ydych yn weithiwr/wraig ifanc (gweler uchod), rhaid i chi gael o leiaf 48 awr yn rhydd o waith bob wythnos. Os bydd natur y swydd yn gwneud hynny'n amhosibl, e.e. os byddwch yn gweithio shifftiau rhanedig, yna gellir gostwng hyn i 36 awr yr wythnos, cyn belled ag y rhoddir amser i ffwrdd yn hwyrach fel iawndal.

Eithriadau i'r rheoliadau

Bydd hawliau egwyl yn wahanol i chi:

  • os oes rhaid i chi deithio cryn bellter o'ch cartref i gyrraedd y gwaith neu'ch bod yn gweithio mewn llefydd gwahanol yn gyson ac mae hynny'n gwneud gweithio i batrwm penodol yn anodd
  • os ydych chi'n gwneud gwaith diogelwch neu waith seiliedig ar wyliadwriaeth
  • os ydych yn gweithio mewn diwydiant sy'n cael cyfnodau brig prysur, megis amaethyddiaeth, manwerthu neu dwristiaeth
  • os digwydd argyfwng neu fod perygl o ddamwain
  • os oes angen staffio'r gwaith bedair awr ar hugain y dydd (e.e. gwaith ysbyty)
  • os ydych wedi'ch cyflogi yn y diwydiant rheilffyrdd a'ch bod yn gweithio ar drenau neu fod eich gweithgareddau'n afreolaidd neu'n gysylltiedig â sicrhau bod y trenau'n rhedeg mewn pryd

Yn lle cael cyfnodau egwyl cyffredin, bydd gennych chi'r hawl i gyfnod o 'orffwys i wneud iawn' ac, yn ddelfrydol, dylid cymryd y cyfnod hwnnw ar yr un diwrnod gwaith neu'r diwrnod canlynol. Yr egwyddor yw bod pawb yn cael 90 awr yr wythnos o egwyl ar gyfartaledd, er y bydd rhai pobl yn cael egwyl yn hwyrach nag eraill.

Mae rheolau arbennig ar wahân ar gyfer gweithwyr teithiol ym maes cludiant yn yr awyr, ar y môr ac ar y ffyrdd. Mae'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a'r heddlu wedi'u heithrio dan rai amgylchiadau.

Oes rhaid i chi gymryd egwyl?

Argymhellir eich bod yn cymryd eich cyfnodau egwyl, gan eu bod yno i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch. Gall eich cyflogwr eich gorfodi i gymryd egwyl os yw eich contract yn caniatáu iddynt wneud hynny.

Beth i'w wneud os gwrthodir cyfnod o egwyl i chi

Os yw'ch swydd yn golygu nad oes modd i chi gymryd egwyl, neu os nad yw'ch cyflogwr yn caniatáu i chi eu cymryd, dylech godi'r mater yn gyntaf gyda'ch bos. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith, megis swyddog undeb llafur neu gynrychiolydd iechyd a diogelwch, fe allen nhw godi'r mater ar eich rhan. Yn y pen draw gallwch gyflwyno'ch achos i Dribiwnlys Cyflogaeth (neu Dribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon), neu i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Gall yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) eich cynghori ar oriau cerbydau trwm a bysiau. Gallwch gysylltu â VOSA ar 08706 060 440.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar faterion Iechyd a Diogelwch o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Gallwch hefyd ffonio HSE Infoline ar 0845 345 0055 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU