Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithio hyblyg a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith: cyflwyniad

Mae’n bwysig cael cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd gartref. Drwy roi hawl i bobl ofyn am gael gweithio oriau hyblyg, y nod yw helpu cyflogwyr a gweithwyr i gytuno ar batrymau gweithio sy'n hwylus i bawb. Yma, fe gewch wybod beth yw gweithio hyblyg a sut mae gwneud cais am gael gwneud hynny.

Beth yw hyn?

Defnyddir y geiriau 'gweithio hyblyg' i ddisgrifio unrhyw batrwm gweithio sydd wedi'i addasu i gwrdd â'ch gofynion. Dyma'r mathau mwyaf cyffredin o weithio hyblyg:

  • rhan-amser: gweithio llai o oriau na'r arfer, llai o ddiwrnodau yr wythnos efallai
  • oriau hyblyg: dewis pryd i weithio (fel arfer bydd rhaid gweithio oriau craidd)
  • oriau dros flwyddyn: cyfrifir eich oriau dros y flwyddyn gyfan (yn aml iawn, bydd shifftiau penodol ac wedyn fe gewch chi benderfynu pa bryd i weithio'r oriau eraill)
  • oriau cywasgedig: gweithio'r oriau y cytunwyd arnynt dros lai o ddiwrnodau
  • amrywio oriau: gweithwyr yn yr un gweithle'n dechrau, yn cael amser egwyl ac yn gorffen ar wahanol adegau
  • rhannu swyddi: rhannu swydd a fwriadwyd ar gyfer un person gyda rhywun arall
  • gweithio gartref: gweithio yn eich cartref eich hun

Gallwch gyfuno unrhyw un o'r patrymau gweithio hyn i greu system sy'n hwylus i'ch amgylchiadau.

Help rhyngweithiol

Mae pecyn rhyngweithiol ar gael i'ch helpu i wneud cais

Os oes angen help arnoch gyda gweithio hyblyg, mae yna offerynnau rhyngweithiol i’ch helpu:

  • i gael gwybod os oes gennych hawl statudol i wneud cais
  • i ddewis y math o weithio sy’n addas i chi
  • i baratoi achos i argyhoeddi eich cyflogwr

Pwy gaiff ofyn am hyn?

Gall unrhyw un ofyn i'w cyflogwyr am drefniadau gweithio hyblyg, ond mae'r llywodraeth wedi cyflwyno hawl statudol er mwyn annog pobl i wneud cais am hyn. Cyn belled â'ch bod yn gyflogai (ond nid yn weithiwr asiantaeth neu yn y lluoedd arfog) a'ch bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am 26 wythnos yn ddi-dor cyn gwneud cais, mae gennych hawl statudol i ofyn:

  • os oes gennych blentyn dan chwech oed neu blentyn anabl dan 18 oed
  • os ydych yn gyfrifol am y plentyn fel rhiant/gwarcheidwad/gwarcheidwad arbennig/rhiant maeth/gofalwr maeth preifat neu fel deilydd gorchymyn preswylio
  • os ydych chi'n briod, yn bartner neu'n bartner sifil i un o'r rhain ac
  • os ydych chi'n gwneud cais i ofalu am y plentyn

Ar ôl 6 Ebrill 2007, mae gennych hefyd hawl statudol:

  • os ydych chi'n ofalwr sy'n gofalu, neu'n disgwyl y byddwch yn gofalu, am briod, am bartner, am bartner sifil neu berthynas, neu sy'n byw yn yr un cyfeiriad â'r person y gofelir amdano

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr roi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw gais a wnewch chi, ond does dim rhaid iddyn nhw gytuno, os oes rheswm busnes da dros beidio. Mae gennych yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg - ond nid yr hawl i'w cael.

Sut i wneud cais

Os oes gennych chi hawl statudol i wneud cais, yna rhaid i chi ddilyn proses benodol.

Hyd yn oed os nad oes gennych hawl, bydd y broses statudol yn ddefnyddiol i chi.

Hawliau eraill

Dyma'r hawliau eraill sy'n eich helpu i gael amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am eraill:

absenoldeb rhiant - gallwch drefnu eich bod yn cael cyfnodau o amser i ffwrdd o'r gwaith heb dâl i ofalu am blant ifanc

amser i ffwrdd ar gyfer y sawl sy'n ddibynnol arnoch - gallwch gael amser i ffwrdd heb dâl er mwyn delio gydag argyfwng teuluol

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU