Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawl gwyliau: faint fyddwch chi'n ei gael?

Fel arfer, bydd faint o wyliau gewch chi wedi ei nodi yn eich contract cyflogaeth. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi gronni'ch gwyliau cyn y gallwch eu cymryd.

Mae nifer y dyddiau y mae gennych hawl sylfaenol iddynt yn cynyddu. Os yw'ch blwyddyn wyliau'n dechrau ar 1 Hydref 2007 neu ar ôl hynny, yn ôl y gyfraith, mae gennych hawl sylfaenol i 4.8 wythnos y flwyddyn (24 diwrnod os ydych chi'n gweithio pum niwrnod yr wythnos); nid oes hawl statudol i gael gwyliau banc ar ben hyn. Os oes gennych flwyddyn wyliau nad yw'n dechrau ym mis Hydref, bydd gennych hawl i gyfran o'r dyddiau ychwanegol.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn rhoi mwy na'r 4.8 wythnos sylfaenol o wyliau i chi fel rhan o delerau eich cyflogaeth. Gallwch edrych yn eich contract neu yn llawlyfr y cwmni i weld faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt.

Nid oes gennych hawl i gael gwyliau ychwanegol, hyd yn oed heb dâl, oni bai fod eich contract yn ei ddarparu. Gall eich cyflogwr bennu ei reolau ei hun ynghylch unrhyw wyliau a roddir yn ychwanegol at y gwyliau sylfaenol y mae gennych hawl iddynt yn ôl y gyfraith. Ni chaiff eich cyflogwyr roi llai na'r lleiafswm cyfreithiol i chi.

Gweithwyr rhan-amser a gweithwyr asiantaeth

Os ydych yn weithiwr rhan-amser, bydd gennych chithau'r hawl i 4.8 wythnos o wyliau - 4.8 o'ch wythnosau gweithio arferol. Er enghraifft, os byddwch yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos bydd gennych hawl i o leiaf 9.6 diwrnod o wyliau (hynny yw, 4.8 wythnos o ddau ddiwrnod).

Ni ddylid trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol na gweithwyr amser llawn cyfatebol. Golyga hyn bod gofyn i gyflogwyr sy'n rhoi dyddiau ychwanegol o wyliau i weithwyr amser llawn roi dyddiau ychwanegol i weithwyr rhan-amser hefyd.

Os ydych yn weithiwr asiantaeth, mae'n rhaid i'ch asiantaeth adael i chi gymryd eich gwyliau gyda thâl.

Sut mae delio â rhan-ddiwrnodau

Gallai eich hawliau newydd gynnwys rhan-ddiwrnodau (er enghraifft, 9.6 diwrnod i rywun sy'n gweithio 2 ddiwrnod yr wythnos). Mae angen i chi ofyn i'ch cyflogwr sut maent eisiau i chi drin y rhan-ddiwrnodau hyn. Nid oes angen eu crynhoi i'r diwrnod llawn agosaf ond gall cyflogwr ddewis gwneud hynny os ydyn nhw'n dymuno. Fel arall, gallai eich cyflogwr argymell i chi gymryd diwrnod o wyliau llawn gan dalu'r cyflog sy'n ddyledus i chi am y rhan-ddiwrnod yn unig; gellid tynnu'r rhan-ddiwrnod o shifft diwrnod, fel eich bod yn gadael yn gynnar neu'n dod i mewn yn hwyr; neu gellid trosglwyddo'r rhan-ddiwrnod i'ch blwyddyn wyliau nesaf.

Cynyddu eto

Bydd yr hawl gwyliau'n cynyddu eto i 5.6 wythnos (28 diwrnod os ydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos) o 1 Ebrill 2009 ymlaen.

28 diwrnod

Bydd yr hawliau newydd wedi'u cyfyngu i uchafswm o 28 diwrnod. Felly er y cyfeirir atynt mewn wythnosau (4.8 wythnos ac yna 5.6 wythnos), os byddwch yn gweithio 6 diwrnod yr wythnos, bydd gennych hawl sylfaenol i 28 diwrnod o wyliau o 1 Hydref 2007 ymlaen ac ni fydd yn codi eto yn Ebrill 2009. Roedd nifer o gyflogwyr yn cynnig mwy o wyliau na'r gwyliau sylfaenol cyn y cynnydd hwn, ac maent yn parhau i wneud hynny.

Cronni a blynyddoedd gwyliau

Blynyddoedd gwyliau

Rhaid i chi gymryd 4 wythnos o'r gwyliau y mae gennych hawl iddo yn eich blwyddyn wyliau. Penderfyniad eich cyflogwr yw a gewch chi drosglwyddo unrhyw ddyddiau sydd dros ben (gan gynnwys y dyddiau ychwanegol newydd) i'ch blwyddyn wyliau nesaf.

Mae'n bosib fod gennych drefniant gyda'ch cyflogwyr ynghylch pryd y bydd eich blwyddyn wyliau'n dechrau (er enghraifft 1 Ionawr hyd at 31 Rhagfyr i bawb o fewn y sefydliad). Os nad oes gennych drefniant yna bydd eich blwyddyn yn dechrau:

  • ar 1 Hydref 1998 (os cychwynnoch chi weithio cyn hynny)
  • ar y dyddiad y cychwynnoch chi weithio (os cychwynnoch chi ar ôl 1 Hydref 1998)

Croniadau

Bydd rhai cyflogwyr yn rhedeg system 'gronni', lle mae hawliau gwyliau'n cronni dros y flwyddyn gyntaf y cyflogir rhywun. Golyga hyn y bydd gennych hawl i un rhan o ddeuddeg o'ch hawliad blynyddol am bob mis y byddwch yn gweithio. Felly, ar ôl chwe mis, bydd gennych chi'r hawl i hanner eich hawliad blynyddol.

Fel arfer, bydd cronni'n parhau yn ystod absenoldebau statudol fel absenoldeb mamolaeth

Trosglwyddo gwyliau

Os nad ydych yn cymryd yr holl wyliau mae gennych hawl iddo yn ystod eich blwyddyn wyliau, gallai eich cyflogwr roi caniatâd i chi drosglwyddo'r dyddiau sydd gennych dros ben i'r flwyddyn wyliau nesaf. Rhaid i chi gymryd o leiaf 4 wythnos o wyliau, felly dim ond y gwyliau sydd ar ben hynny (yn cynnwys y dyddiau ychwanegol newydd) y gellir eu trosglwyddo, a hynny'n unig gyda chaniatâd eich cyflogwr. Nid oes gennych hawl i drosglwyddo cyfnod absenoldeb o un flwyddyn wyliau i'r un nesaf.

Tâl yn gyfnewid am wyliau

Gallai rhai cyflogwyr gynnig talu am unrhyw wyliau ar ben y gwyliau sylfaenol nad ydych wedi eu cymryd yn ystod eich blwyddyn wyliau. Tan 1 Ebrill 2009 rhaid i chi gymryd 4 wythnos o wyliau ond gellir cyfnewid y gwyliau ychwanegol newydd o 0.8 wythnos (4 diwrnod os byddwch yn gweithio pum niwrnod yr wythnos) am dâl. Gan gychwyn o 1 Ebrill 2009, pan fydd yr hawl gwyliau sylfaenol yn codi i 5.6 wythnos (28 diwrnod os byddwch yn gweithio'n llawn amser), ni fydd modd i chi gyfnewid y gwyliau nad ydych wedi'i gymryd am dâl.

Os cewch chi drafferthion

Mae gwyliau'n hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ei rhoi i chi. Os bydd gennych broblemau yna darllenwch y wybodaeth am eich hawl sylfaenol i wyliau.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefy

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU