Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawl gwyliau: cymryd eich gwyliau

Pan fyddwch yn cymryd eich gwyliau sicrhewch eich bod wedi rhoi'r rhybudd cywir - a dylai'ch cyflogwyr sicrhau eu bod yn eich talu chi'n gywir.

Os ydych yn dymuno cymryd gwyliau

Rhaid i chi roi rhybudd ymlaen llaw i'ch cyflogwr eich bod am gymryd gwyliau. Dylai'r rhybudd hwn fod o leiaf dwywaith y cyfnod o wyliau yr ydych yn bwriadu ei gymryd o leiaf (e.e. dylech roi pythefnos o rybudd ar gyfer wythnos o wyliau).

Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am wyliau cyn belled ag y byddant yn rhoi rhybudd sydd o leiaf yr un mor hir â'r gwyliau a ofynnwyd amdano (felly i wrthod cais am wythnos o wyliau, byddai'n rhaid iddynt fod wedi dweud wrthych wythnos ymlaen llaw).

Gall eich contract bennu rheolau eraill am pryd y cewch gymryd eich gwyliau. Caniateir hyn ar yr amod nad yw'r rheolau'n eich atal rhag cymryd gwyliau o gwbl.

Os yw'ch cyflogwyr yn dymuno i chi gymryd gwyliau

Gall eich cyflogwr benderfynu pryd y cewch gymryd peth neu'r cyfan o'ch gwyliau. Er enghraifft, mae'n bosib y byddant angen i chi gymryd rhywfaint o'ch gwyliau dros wyliau banc, neu efallai y byddant angen i'r cwmni cyfan gymryd gwyliau dros y Nadolig.

Gall hyn fod yn eich contract cyflogaeth, neu'n arfer arferol a gronnwyd dros amser. Bydd rhaid i gyflogwyr roi'r un faint o rybudd a chi.

Sut y cyfrifir eich tâl gwyliau

Os yw eich tâl yn amrywio o wythnos i wythnos, dylai eich tâl gwyliau ddibynnu ar eich cyflog wythnosol cyfartalog dros y 12 wythnos flaenorol. Fel arall, dylech dderbyn eich cyflog wythnosol cyffredin (heb gynnwys goramser anwarantedig).

Tâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr

Dylid talu tâl gwyliau ar gyfer yr amser pan fyddwch yn cymryd eich gwyliau mewn gwirnionedd. Ni all eich cyflogwyr gynnwys eich tâl gwyliau yn eich cyfradd awr (a elwir yn dâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr). Os yw'ch contract cyfredol yn cynnwys tâl gwyliau yn rhan o'ch tâl fesul awr dylech chi a'ch cyflogwyr ail-drafod fel bod eich tâl gwyliau yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cymryd eich gwyliau.

Os ydych wedi derbyn peth tâl gwyliau yn rhan o’ch tâl fesul awr (ac mae hyn wedi’i wneud yn glir i chi), gall y taliadau hyn cael eu gosod yn erbyn tâl gwyliau dyfodol – fel na fyddwch yn cael eich talu dwywaith.

Salwch

Os byddwch chi'n sâl yn ystod eich gwyliau, nid oes hawl awtomatig i newid eich gwyliau yn absenoldeb oherwydd salwch, er y gallai eich cyflogwr fod yn gefnogol (a bydd rhaid i chi ddarparu tystysgrifau meddygol yn ôl y gofyn).

Os byddwch yn absennol oherwydd salwch am gyfnod hir, chewch chi ddim hawlio tâl gwyliau ar yr un pryd.

Pan fyddwch yn gadael eich swydd

Pan fyddwch yn gadael swydd - am ba bynnag reswm - mae modd i chi gymryd y dyddiau gwyliau y byddwch wedi'u cronni erbyn yr amser y byddwch yn gadael yn ystod eich cyfnod o rybudd, cyn belled ag y byddwch yn rhoi rhybudd cywir a bod eich cyflogwr yn cytuno.

Hefyd, bydd gennych yr hawl i gael eich talu am unrhyw wyliau statudol yr ydych wedi'u cronni ond nas cymerwyd.

Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau nag yr ydych wedi'u cronni, ni ddylai eich cyflogwr dynnu arian o'ch cyflog terfynol, onid yw hynny wedi'i gytuno arno o flaen llaw. Edrychwch yn eich contract i weld os oes unrhyw gytundeb o'r fath.

Os byddwch wedi bod yn sâl drwy gydol y flwyddyn wyliau, ni fydd hawl gyfreithiol i dderbyn unrhyw dâl gwyliau pan fyddwch yn gadael.

Os cewch chi drafferthion

Mae gwyliau'n hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ei rhoi i chi. Os bydd gennych broblemau yna darllenwch y wybodaeth am eich hawl sylfaenol i wyliau.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU