Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithio hyblyg a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith: y broses ymgeisio statudol

Os byddwch yn gymwys i'r hawl statudol i wneud cais am weithio oriau hyblyg, yna rhaid i chi ddilyn proses benodol.

Gwneud eich cais

Rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig o leiaf bythefnos cyn pen-blwydd eich plentyn yn chwech oed (yn 18 os yw eich plentyn yn anabl).

 Mae'n rhaid i'ch cais:

  • fod yn ysgrifenedig (naill ai ar bapur, e-bost neu ar ffacs)
  • fod wedi'i ddyddio
  • nodi bod y cais wedi'i wneud dan yr hawl statudol i ofyn am batrwm gweithio hyblyg
  • roi manylion y patrwm gweithio hyblyg yr ydych yn gwneud cais amdano, gan gynnwys y dyddiad pryd y byddwch eisiau dechrau
  • egluro'r effaith yr ydych chi'n ei feddwl y bydd y patrwm gweithio newydd yn ei gael ar eich cyflogwyr, a sut y gellir delio gyda'r fath effaith
  • gadarnhau bod gennych gyfrifoldeb dros fagu'r plentyn a mai chi yw naill ai mam, tad, rhiant mabwysiadu, gwarcheidwad neu riant maeth y plentyn neu eich bod wedi priodi neu'n bartner i un ohonynt
  • neu gadarnhau mai chi sy’n gofalu, neu’n disgwyl i ofalu, am briod, partner, partner sifil neu berthynas sy’n byw yn yr un cyfeiriad â chi
  • nodi a ydych wedi gwneud cais yn y gorffennol, ac, os felly, pryd

 Gallwch wneud cais un ai:

  • drwy lenwi ffurflen a gewch chi gan eich cyflogwyr
  • drwy lenwi ffurflen safonol
  • drwy anfon yr un wybodaeth mewn llythyr neu e-bost

Byddai'n syniad da crybwyll manteision gweithio hyblyg i'r busnes yn eich cais. Dim ond un cais y flwyddyn y cewch ei wneud a bydd unrhyw newid y cytunir iddo'n barhaol, oni fyddwch chi'n cytuno fel arall

Tynnu cais yn ôl

Os byddwch yn penderfynu tynnu'ch cais am weithio oriau hyblyg yn ôl, dylech roi gwybod i'ch cyflogwyr cyn gynted â phosib, ac yn ysgrifenedig, er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaethau.

Ystyrir eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl:

  • Os collwch chi ddau gyfarfod y bydd eich cyflogwyr yn eu trefnu gyda chi ynghylch eich cais, neu
  • os gofynnir i chi am wybodaeth a chithau heb ei darparu

Trafod eich cais

Rhaid i'ch cyflogwyr gyfarfod â chi i drafod eich cais o fewn 28 diwrnod. Os yw'r sawl a fyddai fel arfer yn ystyried eich cais yn absennol oherwydd gwyliau neu salwch, bydd y terfyn 28 diwrnod fel arfer yn dechrau pan fyddan nhw'n dychwelyd.

Bydd gennych yr hawl i ddod â chydweithiwr/wraig i'r cyfarfod gyda chi.

Yn y cyfarfod mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn cynnig dewisiadau eraill i'r patrwm gweithio a ofynnwyd amdano gennych chi, neu hwyrach gyfnod treial. Eich dewis chi fydd cytuno â hynny ai peidio. Cofiwch ei bod yn bosib na all eich cyflogwyr gytuno gyda'ch cais ond fe allant gytuno i gyfaddawd.

Dylai eich cyflogwyr sicrhau eu bod yn ystyried eich cais yn iawn, gan fod yn ofalus i osgoi gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd (er enghraifft, gwahaniaethu ar sail rhyw).

Cael gwybod beth yw'r canlyniad

Rhaid i'ch cyflogwyr roi gwybod i chi beth yw eu penderfyniad o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod. Os byddwch chi a'ch cyflogwyr yn cytuno, mae'n bosibl ymestyn y cyfnodau hyn (er enghraifft, os oes rhaid i'ch cyflogwr/wraig siarad â rhywun sydd i ffwrdd ar wyliau, neu fod eich cyflogwr/wraig yn absennol oherwydd salwch ar ôl i chi wneud cais).

Os gwrthodir eich cais

Os gwrthodir eich cais, rhaid i'ch cyflogwyr esbonio pam. Rhaid iddynt roi rheswm o'r wyth a amlinellir yn y gyfraith, ynghyd ag esboniad pam bod y rheswm hwn yn berthnasol.

Hefyd, bydd gennych hawl i apelio. Dylai eich cyflogwyr gynnal cyfarfod i drafod yr apêl o fewn 14 diwrnod ar ôl i chi roi rhybudd eich bod am apelio. Rhaid iddynt eich hysbysu am eu penderfyniad o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod.

Os gwrthodir eich apêl

Os gwrthodir eich apêl, holwch eich cyflogwyr rhag ofn bod rhywun wedi camddeall y drefn neu'r ffeithiau. Os nad oes, gallwch gwyno dan y drefn gwyno yn eich contract cyflogaeth.

Gallwch hefyd fynd â'ch cyflogwyr i Dribiwnlys Cyflogaeth neu, os yw hynny'n well gennych chi a'ch cyflogwyr, fynd â'r mater at gymodwyr. Gallwch wneud y math hwn o guyn swyddogol os yw'ch cyflogwyr wedi methu â dilyn y broses yn gywir (er enghraifft, drwy beidio â chynnal cyfarfodydd gyda chi neu drwy wrthod eich cais ar sail ffeithiau anghywir).

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae'r gyfraith yn eich gwarchod os cewch eich diswyddo neu os byddwch chi ar eich colled (er enghraifft, gwrthod dyrchafiad neu hyfforddiant i chi) o ganlyniad i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg, cael trefniadau o'r fath neu gwyno amdanynt. Os digwydd hyn, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU