Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Damweiniau yn y gweithle

Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i'ch gwarchod ac i sôn wrthych am faterion iechyd a diogelwch sy'n effeithio arnoch. Hefyd, mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i riportio damweiniau a digwyddiadau arbennig, ac i dalu tâl salwch statudol neu dâl salwch contractaidd i chi, os oes gennych hawl iddo, os bydd angen i chi fod yn absennol oherwydd damwain yn y gwaith.

Riportio damwain yn y gwaith

Rhaid i'ch cyflogwyr riportio damweiniau difrifol, clefydau a digwyddiadau peryglus cysylltiedig â'r gwaith i Ganolfan Gyswllt Damweiniau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Rhaid iddynt riportio:

  • marwolaeth
  • anafiadau mawr (ee torri braich neu asennau)
  • digwyddiadau peryglus (ee sgaffaldiau'n dymchwel, nwy yn effeithio ar bobl)
  • unrhyw anaf arall sy'n atal cyflogai rhag gwneud ei waith arferol am fwy na thridiau
  • clefyd

Eich cyflogwyr sy'n gorfod cyflwyno'r adroddiad, ond os yw'r digwyddiad wedi effeithio arnoch chi, mae'n syniad da gwneud yn siur ei fod wedi cael ei riportio.

Pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gwaith?

Rhaid i'ch cyflogwyr wneud asesiad risg a beth bynnag sydd ei angen er mwyn gofalu am iechyd a diogelwch gweithwyr ac ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys penderfynu faint o bobl cymorth cyntaf sydd eu hangen, a pha fath o offer a chyfleusterau cymorth cyntaf y dylid eu darparu. Does gan bobl cymorth cyntaf ddim hawl statudol i gael tâl ychwanegol, ond bydd rhai cyflogwyr yn cynnig hyn.

Hefyd, rhaid i weithwyr gymryd gofal rhesymol dros eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain.

Cofnodi damweiniau

Dylid cofnodi unrhyw anaf yn y gwaith - gan gynnwys anafiadau bach - yn 'llyfr damweiniau' eich cyflogwyr. Rhaid i bawb sy'n cyflogi pobl (ac eithrio cwmnïau bach iawn) gadw llyfr damweiniau. Er budd y gweithwyr y mae hyn yn bennaf, gan ei fod yn cadw cofnod manwl o'r hyn sydd wedi digwydd, rhag ofn bod angen i chi fod yn absennol o'r gwaith er mwyn hawlio iawndal yn nes ymlaen. Ond mae cofnodi damweiniau hefyd yn help i'ch cyflogwyr weld beth sy'n mynd o'i le a chymryd camau i atal damweiniau yn y dyfodol.

Tâl salwch

Gan amlaf, os bydd angen i chi fod yn absennol oherwydd damwain yn y gwaith, dim ond yr hawl i dâl salwch statudol fydd gennych. Mae'n bosib y bydd gan eich cyflogwyr gynllun i dalu mwy am absenoldeb sy'n digwydd oherwydd damweiniau, neu mae'n bosib y byddan nhw'n penderfynu talu rhagor, gan ddibynnu ar beth sy'n digwydd.

Gwneud hawliad am anaf

Os ydych chi wedi cael anaf mewn damwain yn y gwaith a'ch bod yn meddwl bod eich cyflogwyr ar fai, efallai y byddwch chi am wneud cais am iawndal. Rhaid cyflwyno unrhyw hawliad fel hyn o fewn tair blynedd i ddyddiad y ddamwain, ac fel arfer, bydd angen i chi gael twrnai i'ch cynrychioli. Os ydych chi'n perthyn i undeb llafur, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu defnyddio'u gwasanaethau cyfreithiol. Fel arall, dylech gael sgwrs â thwrnai sy'n arbenigo ym maes anafiadau personol. Bydd rhai twrneiod yn fodlon ymladd eich achos ar sail 'dim ennill, dim ffi'.

Drwy'r gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr fod wedi'u hyswirio i dalu am hawliad llwyddiannus. Dylai eich cyflogwyr roi tystysgrif gydag enw eu cwmni yswiriant mewn man lle gall pawb ei weld yn y gwaith. Neu, rhaid iddyn nhw roi'r manylion i chi os bydd eu hangen arnoch.

Os ydych chi'n ystyried mynd â'ch cyflogwyr i gyfraith, cofiwch mai nod iawndal cyfreithiol yw eich rhoi chi yn y sefyllfa y byddech chi ynddi oni bai fod y ddamwain wedi digwydd - nid cael gafael ar arian 'am ddim' yw'r bwriad o gwbl. Hefyd, dylech feddwl am gostau a ffioedd y llys.

Beth i'w wneud nesaf os cewch chi ddamwain

  • cofiwch gofnodi unrhyw anaf yn y 'llyfr damweiniau'
  • os oes angen, gwnewch yn siur bod eich cyflogwyr wedi riportio'r ddamwain i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • darllenwch eich contract cyflogaeth neu'ch datganiad ysgrifenedig i gael gwybodaeth am dâl salwch neu dâl damweiniau
  • os oes anghydfod, ceisiwch ddatrys y peth gyda'ch cyflogwyr - dilynwch y ddolen isod i gael help i ddatrys problemau yn y gwaith
  • os oes problemau iechyd a diogelwch yn y gwaith, tynnwch sylw eich cyflogwyr neu'ch cynrychiolydd diogelwch gweithwyr atynt, a gofyn i rywun ddelio â nhw
  • os nad yw hyn yn digwydd, ffoniwch Linell Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (ar agor 8.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Ble i gael help a chyngor

Mae Llinell Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 0845 345 0055 (ar agor 8.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) yn cynnig cyngor a chanllawiau cyfrinachol

Allweddumynediad llywodraeth y DU