Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i ymgynghori â phob aelod o'r staff am faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle. Byddant yn gwneud hyn naill ai drwy sgwrsio'n uniongyrchol â'r gweithwyr neu â chynrychiolwyr diogelwch sy'n gweithredu ar ran y gweithwyr.

Cynrychiolwyr diogelwch

Os yw eich cyflogwyr yn cydnabod undeb llafur ar ran y gweithwyr sy'n gwneud eich gwaith chi, a bod yr undeb wedi penodi cynrychiolydd diogelwch (CD), rhaid i'ch cyflogwyr ymgynghori â'r CD. Os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, rhaid i'ch cyflogwyr nail ai ymgynghori'n uniongyrchol â chi, neu os oes cynrychiolydd diogelwch gweithwyr (CDG) wedi'i ethol, cysylltu â'r CDG neu â chi'n uniongyrchol.

Bydd eich CD yn cynnig help a chyngor cyfrinachol i chi. Gallant eich helpu i ddatrys problemau ac mae ganddynt ddyletswyddau cyfreithiol, gan gynnwys:

  • cynrychioli'r gweithwyr mewn sgyrsiau gyda'r cyflogwyr neu gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI) yng Ngogledd Iwerddon, neu asiantaethau eraill yn y maes gorfodi diogelwch neu amgylcheddol
  • archwilio cwynion, peryglon posibl a digwyddiadau peryglus
  • cynnal archwiliadau rheolaidd yn y gweithle
  • cymryd rhan mewn asesiadau risg yn y gweithle

Mae gan CDG lai o awdurdod cyfreithiol nag sydd gan CD. Dyma rai o'u dyletswyddau:

  • cynrychioli buddiannau gweithwyr mewn sgyrsiau gyda'r cyflogwyr drwy ymgynghori gyda HSE neu HSENI ac asiantaethau eraill yn y maes gorfodi diogelwch neu amgylcheddol
  • siarad â'r cyflogwyr am beryglon yn y gwaith a materion iechyd a diogelwch eraill

Rhaid i'ch cyflogwyr ymgynghori am iechyd a diogelwch

Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i:

  • ymgynghori am unrhyw beth a allai effeithio ar iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • rhoi cyfle i chi, os ydynt yn ymgynghori'n uniongyrchol â chi, neu i'ch CD, neu'ch CDG, y cyfle i leisio barn

Rhaid iddynt ystyried y farn hon wrth benderfynu.

Rhaid i'ch cyflogwyr ymgynghori ynghylch:

  • newidiadau mewn arferion neu weithdrefnau gweithio a allai effeithio ar eich iechyd a'ch diogelwch
  • trefniadau i ddefnyddio pobl gymwys i helpu'r busnes i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • darparu gwybodaeth am risgiau i iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • cynllunio hyfforddiant iechyd a diogelwch
  • materion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â thechnoleg newydd

Os na fydd eich cyflogwyr yn ymgynghori'n unol â'r gyfraith, bydd hynny'n drosedd.

Sut mae dod yn gynrychiolydd diogelwch?

Os yw eich undeb llafur yn cael ei gydnabod a'ch bod yn awyddus i ddod yn CD, mynnwch sgwrs ag ysgrifennydd eich cangen i gael gwybod sut mae cael eich ethol neu'ch penodi i gynrychioli'r gweithlu. Fel arfer bydd angen dwy flynedd o brofiad arnoch chi yn eich swydd bresennol neu waith tebyg.

Fel CD, bydd gennych yr hawl i:

  • ddefnyddio ffôn ac offer y swyddfa i wneud eich gwaith
  • amser rhesymol o'r gwaith gyda chyflog i gyfarfod â'r staff a chynrychiolwyr eraill ac er mwyn gwneud archwiliadau
  • amser o'r gwaith i gael hyfforddiant perthnasol (a chael eich talu am yr amser o'r gwaith os yw hynny yn ystod oriau gweithio arferol).

Rhaid i CDG gael ei ethol gan y gweithlu. Rhaid i gyflogwyr dddarparu hyfforddiant perthnasol i CDG ym maes iechyd a diogelwch a thalu amdano. Os bydd yr hyfforddiant hwnnw yn ystod eich oriau gweithio arferol, bydd gennych yr hawl i gael amser o'r gwaith gyda thâl.

Ydych chi wedi'ch gwarchod os byddwch chi'n riportio rhywbeth i'ch cynrychiolydd diogelwch ac yn cael eich cosbi amdano?

Dan y gyfraith, rydych wedi'ch gwarchod fel 'chwythwr chwiban' ynghylch diogelwch dan yr amodau hyn:

  • trosedd
  • os torrwyd dyletswydd dan y gyfraith
  • achos o gamweinyddu cyfiawnder
  • os oes perygl i iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn
  • niwed i’r amgylchedd
  • os oes gwybodaeth am unrhyw un o'r uchod yn cael ei chuddio'n fwriadol

'Public Concern at Work' yw'r prif awdurdod ym maes chwythu'r chwiban er budd y cyhoedd. Mae modd cysylltu â nhw ar 020 7404 6609 (9.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu e-bost: helpline@pcaw.co.uk.

Y cam nesaf

Os ydych chi am drafod mater iechyd a diogelwch yn y gwaith, holwch pwy yw eich cynrychiolydd diogelwch. Cysylltwch â chynrychiolydd eich undeb llafur neu ag ysgrifennydd eich cangen leol os ydych chi'n aelod o undeb. Fel arall, holwch eich rheolwr/wraig llinell.

Os ydych chi eisoes yn gynrychiolydd diogelwch, gwnewch yn siur eich bod wedi'ch hyfforddi'n briodol. Os nad yw'ch cyflogwyr yn fodlon rhoi amser i chi o'r gwaith i gael eich hyfforddi, neu os nad yw'n talu ichi am amser o'r gwaith, fe allwch fynd â nhw at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Os nad yw eich cyflogwyr yn dilyn y rheoliadau ar gyfer ymgynghori am iechyd a diogelwch, dylech ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

I gael cyngor am iechyd a diogelwch yn y gwaith, ffoniwch linell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (8.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU