Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithwyr llaw - gweithio'n ddiogel

Mae llawer o beryglon y gallech ddod ar eu traws wrth wneud gwaith llaw. Yn yr erthygl hon, edrychir ar y peryglon mwyaf cyffredin, sut mae lleihau'r risg o anaf yn y gwaith a beth yw cyfrifoldebau eich cyflogwr.

Anhwylderau Cyhyrysgerbydol

Anhwylderau cyhyrysgerbydol (MSDs) yw'r math mwyaf cyffredin o afiechyd sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn y DU, ac mae'r rhain yn cynnwys problemau fel poen yn rhan isa'r cefn, anafiadau i gymalau ac anafiadau straen ailadroddus. Mae'n bosib osgoi'r rhan fwyaf o anhwylderau fel hyn trwy wybod beth sy'n eu hachosi a sut mae'ch diogelu'ch hun.

Beth sy’n achosi anhwylderau cyhyrysgerbydol?

Dyma rai o'r pethau sy'n achosi anhwylderau cyhyrysgerbydol:

  • codi ailadroddus a chodi pethau trwm
  • plygu a thwistio, neu ailadrodd yr un symudiad yn rhy aml
  • gweithio mewn safle lletchwith neu anghyfforddus
  • defnyddio gormod o rym
  • gweithio'n rhy hir heb egwyl
  • gweithio dan amgylchiadau eithafol (er enghraifft, rhy boeth neu rhy oer)
  • defnyddio offer diffygiol, offer sydd wedi treulio neu'r offer anghywir ar gyfer y gwaith.
  • peidio â delio â symptomau'n ddigon buan

Sut mae atal anhwylderau cyhyrysgerbydol?

Yn bwysicach na dim, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol ar gyfer:

  • defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel
  • trin llwythi trwm neu letchwith

Dylech hefyd sicrhau eich bod:

  • yn cael egwyl yn rheolaidd
  • yn amrywio'ch gwaith er mwyn osgoi ailadrodd tasgau

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef o anhwylder cyhyrysgerbydol, gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • hysbysu eich cyflogwyr am y symptomau hyn cyn gynted ag y byddant yn ymddangos
  • cael y driniaeth iawn
  • cael digon o amser i wella'n iawn

Problemau cyffredin eraill

Gall problemau eraill godi yn y gwaith, gan gynnwys

Llithro a baglu

Mae 30 y cant o'r holl anafiadau mwyaf a gofnodir bob blwyddyn yn digwydd oherwydd llithro a baglu.

Disgyn o uchder

Mae disgyn o uchder yn berygl ym mhob sector o ddiwydiant.

Dirgryniad

Gall dirgryniad beri effeithiau hirdymor ar iechyd os na fydd rhywun yn delio â'r peth yn iawn.

Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i asesu pob un o'r peryglon hyn mewn asesiad risg. Yn ogystal â dweud wrthych am y peryglon, rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a chymryd camau gwarchod priodol i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r peryglon.

Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth godi a chludo

Gall codi a chludo achosi poen yn y cefn. Cyn codi neu gludo llwyth, dylech ystyried yn gyntaf a oes angen symud y llwyth o gwbl - mae'n bosib y gallwch chi wneud eich tasg gyda'r llwyth yn y fan a'r lle.

Os oes rhaid i chi ei symud, meddyliwch a allwch chi ddefnyddio peiriant i'ch helpu. Os nad oes modd gwneud hyn, mae sawl ffordd o leihau'r risgiau, gan gynnwys:

  • gwneud y llwyth yn llai neu'n haws ei godi
  • newid y ffordd y trefnir y gwaith fel nad oes rhaid cario'r llwyth mor bell, a lleihau faint o dwistio neu godi sy'n angenrheidiol
  • gofyn i'ch cyflogwyr wneud newidiadau i'ch man gwaith (ee cael gwell golau yno, gwneud y llawr yn fwy gwastad, neu wella'r tymheredd)
  • gwneud yn siŵr bod gennych yr hyfforddiant iawn i godi llwyth yn ddiogel

Cyfrifoldebau eich cyflogwyr

Mae'r Rheoliadau Gwaith Trin a Chodi â Llaw yn dweud ei bod yn rhaid i'ch cyflogwr:

  • asesu unrhyw waith trin a chodi â llaw peryglus nad oes modd ei osgoi
  • osgoi gwaith trin a chodi â llaw peryglus os oes modd
  • lleihau'r risg o anafiadau drwy drefnu ffordd arall o wneud y dasg

Beth i'w wneud ynghylch poen cefn

Os ydych chi'n dioddef o boen cefn, dylech ddal i symud gymaint ag y gallwch a rhowch gynnig ar dabledi lladd poen syml. Os nad yw'r boen yn mynd neu os yw'n gwaethygu, mynnwch sgwrs â'ch Meddyg Teulu.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymgyrch ynghylch poen cefn, o'r enw 'Better Backs'.

Os mai eich gwaith sy'n achosi'ch poen cefn, neu os yw'ch gwaith yn ei gwaethygu, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur) neu gynrychiolydd diogelwch, mae'n bosib y gallan nhw fod o help. Os nad yw hyn yn helpu, ceir cyngor cyfrinachol gan Linell Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055, ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Help ychwanegol os ydych chi'n anabl

Os ydych chi'n anabl, mae'n bosib y bydd angen mwy o help arnoch i wneud gwaith llaw. Gall eich cyflogwyr gael sgwrs gyda 'Chynghorydd Mynediad at Waith' drwy'ch Canolfan Waith leol a fydd o bosib yn gallu helpu i dalu am unrhyw newid sydd ei angen (ee darparu offer codi).

Beth i'w wneud nesaf

Er mwyn lleihau'r risgiau pan fyddwch yn gwneud gwaith llaw:

  • holwch a yw eich cyflogwr wedi cynnal asesiad risg
  • dilynwch yr argymhellion am weithio'n ddiogel i weithwyr llaw a gofynnwch i'ch cyflogwr drefnu hyfforddiant os oes angen
  • soniwch wrth eich cyflogwr am unrhyw broblemau

Ble mae cael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU