Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch gweithwyr

Mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ddarparu gweithle iach a diogel. Fel gweithiwr/wraig, mae gennych chi hawliau ond hefyd mae gennych chi gyfrifoldeb am eich lles chi'ch hun a lles eich cydweithwyr. Mae'r erthygl yn esbonio beth yw'r cyfrifoldebau hyn, a sut mae cyflawni'r gofynion.

Eich hawliau

Fel gweithiwr/wraig, mae gennych hawliau dan y gyfraith i weithio mewn amgylchedd diogel ac iach, ac yn gyffredinol, ni all eich cyflogwyr newid na dileu'r hawliau hynny. Dyma'r hawliau pwysicaf:

  • cyn belled ag y bo modd, sicrhau bod unrhyw risg i'ch iechyd a'ch diogelwch yn cael ei rheoli'n iawn
  • bod unrhyw gyfarpar gwarchod a diogelwch personol sydd ei angen yn cael ei ddarparu ar eich cyfer am ddim
  • os ydych chi'n poeni'n rhesymol am eich diogelwch, rhoi'r gorau i weithio a gadael y llecyn gweithio, heb gael eich disgyblu
  • dweud wrth eich cyflogwyr am unrhyw bryderon sydd gennych am iechyd a diogelwch
  • cysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu â'ch awdurdod lleol os nad yw eich cyflogwyr yn barod i wrando ar eich pryderon, heb gael eich disgyblu
  • cael egwyliau yn ystod eich diwrnod gwaith, cael amser o'r gwaith yn ystod yr wythnos waith, a chael gwyliau blynyddol gyda thâl

Eich cyfrifoldebau chi

Eich cyfrifoldebau pwysicaf fel gweithiwr/wraig yw:

  • cymryd gofal rhesymol dros eich iechyd a'ch diogelwch eich hun
  • os oes modd, osgoi gwisgo gemwaith neu ddillad llac os ydych chi'n gweithio peiriannau
  • os oes gennych wallt hir neu os ydych chi'n gwisgo sgarff ar eich pen, cofiwch ei gadw'n dwt o'r ffordd (mae'n bosib y gallai fachu yn y peiriannau)
  • cymryd gofal rhesymol i beidio â pheri risg i bobl eraill - cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd - drwy'r hyn y byddwch yn ei wneud neu'n peidio â'i wneud wrth i chi weithio
  • cydweithredu gyda'ch cyflogwyr gan sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant priodol a'ch bod yn deall ac yn dilyn polisïau iechyd a diogelwch eich cwmni
  • peidio â tharfu ar unrhyw beth a ddarperir ar gyfer eich iechyd, eich diogelwch neu'ch lles na'u camddefnyddio
  • riportio anafiadau, straen neu afiechyd sy'n codi yn sgîl eich gwaith (mae'n bosib y bydd angen i'ch cyflogwyr newid eich ffordd o weithio)
  • sôn wrth eich cyflogwyr os digwydd rhywbeth a all effeithio ar eich gallu i weithio (ee mynd yn feichiog neu ddioddef anaf). Oherwydd bod gan eich cyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol dros eich iechyd a'ch diogelwch, mae'n bosib y bydd rhaid iddyn nhw eich atal o'r gwaith tra'u bod nhw'n cael ateb i'r broblem, ond fel arfer, os bydd hyn yn digwydd, byddwch chi'n cael eich talu.
  • os byddwch chi'n gyrru neu'n gweithio peiriannau, dweud wrth eich cyflogwyr os ydych chi dan feddyginiaeth sy'n eich gwneud yn gysglyd - dylent eich symud i swydd arall dros dro os oes un ar gael i chi.

Offer gwarchod personol

Rhaid i'ch cyflogwyr ddarparu offer gwarchod personol ar eich cyfer am ddim. Rhaid i chi ddefnyddio'r offer yn gywir a dilyn yr hyfforddiant a'r cyfarwyddyd a gawsoch.

Mewn rhai swyddi, gall peidio â defnyddio Offer Gwarchod Personol yn iawn fod yn sail dros gamau disgyblu neu hyd yn oed ddiswyddo. Fodd bynnag, cewch wrthod gwisgo Offer Gwarchod Personol os yw hynny'n peryglu'ch diogelwch (ee gallai offer o'r maint anghywir beryglu'ch diogelwch). Gofynnwch i'ch cyflogwyr neu i gynrychiolydd diogelwch y cwmni am y maint iawn (a rhaid ei ddarparu am ddim).

Mae gan Sikhiaid sy'n gwisgo tyrban yr hawl dan y gyfraith i wrthod gwisgo offer gwarchod y pen ar sail grefyddol, ond rhaid i Sikhiaid nad ydynt yn gwisgo tyrban wisgo offer i warchod eu pennau.

Os ydych chi'n poeni am iechyd a diogelwch yn y gwaith

Yn y lle cyntaf, dylech drafod eich pryderon gyda'ch cyflogwyr neu gyda'r bos sydd uwch eich pen. Mae'n bosib bod gan eich cwmni gynrychiolydd diogelwch, a'r person hwnnw fydd eich man cyswllt cyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith e.e. swyddog undeb llafur, mae'n bosib y gall eich helpu.

Rhaid i'ch cyflogwyr beidio â'ch gadael yn agored i unrhyw risg yn y gwaith y gellir ei hosgoi, ac os ydych chi wedi tynnu sylw at risgiau heb gael ateb, mae gwybodaeth gyfrinachol ar gael drwy ffonio llinell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 08453 450 055 (8.00 am - 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os bydd pethau'n mynd i'r pen, gallwch gysylltu â'r awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn eich gweithle (naill ai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu'ch awdurdod lleol). Mae gan arolygwyr iechyd a diogelwch bwerau i orfodi'r gyfraith.

Os dilynwch chi'r drefn hon, ni chaiff eich cyflogwyr eich disgyblu na'ch rhoi dan anfantais yn eich swydd (ee trwy wrthod talu i chi am yr amser pan wrthodoch chi weithio oherwydd y perygl, eich anwybyddu wrth ddyrchafu pobl ayb).

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU