Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch cyflogwyr

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr, a phobl eraill y gallai'r hyn a wnânt effeithio arnynt. Rhaid i gyflogwr wneud yr hyn sy'n rhesymol ymarferol ar gyfer sicrhau hyn. Golyga hyn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw beth a all achosi niwed, trwy reoli'r risgiau yn y gwaith.

Asesiadau risg

Mae gan eich cyflogwyr 'ddyletswydd gofal' i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles tra'ch bod yn y gwaith. Dylent ddechrau drwy wneud asesiad risg i weld a oes unrhyw beryglon posib i iechyd a diogelwch. Rhaid iddyn nhw benodi 'rhywun cymwys' sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch (fel arfer, un o'r perchnogion mewn cwmni llai, neu aelod o'r staff sydd wedi'i hyfforddi ym maes iechyd a diogelwch).

Busnes sy'n cyflogi pump o bobl neu fwy

I fusnesau sy'n cyflogi pump o bobl neu fwy, rhaid hefyd:

  • cadw cofnod swyddogol o ganlyniadau'r asesiad (rhaid i'ch cyflogwyr lunio cynllun i fynd i'r afael â'r risgiau)
  • cael polisi iechyd a diogelwch ffurfiol, gan gynnwys trefniadau i warchod eich iechyd a'ch diogelwch (dylech gael gwybod beth yw'r rhain)

Dyletswydd gofal cyflogwyr o safbwynt ymarferol

Rhaid i bawb sy'n cyflogi pobl, beth bynnag y bo maint y busnes:

  • sicrhau bod y gweithle'n ddiogel
  • atal unrhyw risg i iechyd
  • sicrhau bod offer a pheiriannau'n ddiogel i'w defnyddio, a bod arferion gweithio diogel wedi'u sefydlu ac yn cael eu dilyn
  • sicrhau bod pob deunydd yn cael ei drin, ei storio a'i ddefnyddio'n ddiogel
  • darparu cyfleusterau cymorth cyntaf digonol
  • dweud wrthych am unrhyw beryglon posib yn sgîl eich gwaith, am gemegau a sylweddau eraill a ddefnyddir gan y cwmni, a rhoi gwybodaeth, cyfarwyddiadau, hyfforddiant a goruchwyliaeth i chi yn ôl y galw
  • llunio cynlluniau argyfwng
  • sicrhau bod yr awyru, y tymheredd, y goleuo a'r toiledau a'r cyfleusterau ymolchi a gorffwys i gyd yn ateb gofynion iechyd, diogelwch a lles
  • sicrhau bod yr offer gweithio priodol yn cael ei ddarparu a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n iawn a'i gynnal a'i gadw'n rheolaidd
  • atal neu reoli sefyllfaoedd lle byddwch yn agored i sylweddau a allai niweidio'ch iechyd
  • cymryd rhagofalon yn erbyn y risgiau a berir gan sylweddau fflamadwy neu ffrwydrol, offer trydanol, sun a phelydredd
  • osgoi gwaith a allai fod yn beryglus yng nghyswllt trin a chodi llwyth â llaw (ac os nad oes modd ei osgoi, cymryd rhagofalon i leihau'r risg o niwed)
  • goruchwylio iechyd fel y bo'r galw
  • darparu dillad neu offer gwarchod am ddim (os nad oes modd dileu'r risgiau neu eu rheoli'n ddigonol drwy ddulliau eraill)
  • sicrhau bod yr arwyddion rhybuddio cywir wedi'u darparu a bod rhywun yn gofalu amdanynt
  • riportio damweiniau, anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus penodol naill ai i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu i'r awdurdod lleol, gan ddibynnu ar y math o fusnes

Gwneud y gweithle'n ddiogel ac yn iach

Er mwyn sicrhau bod eich gweithle'n ddiogel ac yn iach i weithio ynddo, dylai eich cyflogwyr:

  • sicrhau bod y llefydd gweithio'n cael eu hawyru'n iawn, gydag awyr iach a glân
  • cadw'r tymheredd yn gyfforddus (o leiaf 13 gradd C os yw'r gwaith yn gorfforol; 16 gradd C ar gyfer llefydd gwaith 'llonydd' (ee swyddfeydd) - nid oes terfyn uchaf)
  • goleuo adeiladau fel y gall y gweithwyr weithio a symud o gwmpas yn ddiogel
  • cadw'r gweithle a'r offer yn lân
  • sicrhau bod ystafelloedd gweithio'n ddigon mawr i bobl allu symud o gwmpas yn rhwydd (o leiaf 11 medr ciwb y person)
  • darparu gweithfannau addas ar gyfer y gweithwyr ac ar gyfer y gwaith
  • cadw'r gweithle a'r offer mewn cyflwr gweithio da
  • sicrhau bod lloriau, llwybrau, grisiau, ffyrdd ayb yn ddiogel i'w defnyddio
  • gwarchod pobl rhag disgyn o uchder neu i mewn i sylweddau peryglus
  • storio pethau fel nad ydynt yn debygol o ddisgyn ac achosi anaf
  • gosod dyfeisiau diogelwch ar ffenestri, drysau a gatiau sy'n agor os oes angen
  • darparu cyfleusterau ymolchi addas a dur yfed glân
  • os oes angen, darparu rhywle i weithwyr newid a storio'u dillad eu hunain
  • neilltuo llefydd i bobl gael amser egwyl ac i fwyta'u prydau, gan gynnwys cyfleusterau addas i fenywod beichiog a mamau sy'n bwydo o'r fron
  • gadael i weithwyr gael amser egwyl priodol a'r gwyliau y mae ganddynt yr hawl iddynt
  • sicrhau bod gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, neu oddi ar y safle, yn gallu gwneud hynny mewn modd diogel ac iach

Beth i'w wneud nesaf

Rydych chi hefyd yn gyfrifol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun yn y gwaith. Cewch wrthod gwneud rhywbeth nad yw'n ddiogel heb gael eich bygwth â chamau disgyblu. Os tybiwch nad yw'ch cyflogwyr yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau, mynnwch sgwrs â nhw'n gyntaf. Mae'n bosib y gallai cynrychiolydd diogelwch neu swyddog undeb llafur eich helpu gyda hyn. Os bydd pethau'n mynd i'r pen, mae'n bosib y bydd rhaid i chi riportio'ch cyflogwyr i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu i adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.

Os cewch chi'ch diswyddo am wrthod gwneud gwaith peryglus, mae'n bosib y bydd gennych hawl i ddwyn achos diswyddo annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU