Ble i chwilio am swyddi
Mae’r ceiswyr gwaith mwyaf llwyddiannus yn dangos dyfal barhad wrth chwilio am swyddi ac yn gwybod pob lle i chwilio am waith. Mae sawl ffordd y gallwch chwilio am swyddi, gan gynnwys ar-lein.
Caiff swyddi eu llenwi ar unwaith, felly mae’n bwysig i chi sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw gyfle.
Mae gan y wefan Directgov un o gronfeydd data swyddi gwag mwyaf Prydain, a chaiff ei ddiweddaru’n barhaus. Chwiliwch y gronfa ddata am swydd drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.
Mae sawl cwmni yn hysbysebu eu swyddi gwag ar wefannau eu hunain, gan gynnwys gwefannau recriwtio a byrddau swyddi ar-lein. Dewch i gael gwybod mwy am wneud cais am swydd ar-lein drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.
Os nad oes gennych fynediad i’r we yn eich cartref, gallwch barhau i’w ddefnyddio yn eich llyfrgell leol.
Gall ymgynghorwyr Canolfan Byd Gwaith roi gwybod i chi am swyddi yn eich ardal leol ac yn lleoedd eraill pe dymunech. Unwaith dewch o hyd i swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cais. Mae’n bosib y byddant yn ffonio’r cyflogwyr yno er mwyn trefnu cyfweliad neu ofyn iddynt anfon ffurflen gais atoch.
Ffoniwch 0845 6067 890. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw neu os oes gennych anawsterau ar eich lleferydd, defnyddiwch ffôn testun y Ganolfan Byd Gwaith – deialwch 0845 6044 022.
Dewch i wybod pa ddiwrnod y cyhoeddir y papur lleol a’r diwrnod y bydd yn hysbysebu swyddi. Mae papurau newydd hefyd yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gwmnïau sy’n symud i’ch ardal a’r rhai sy’n ehangu. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i wneud cais i’r cwmnïau hynny cyn iddynt hysbysebu, i weld a oes swyddi ar gael.
Efallai y byddwch am gysylltu â chwmni i gael ragor o fanylion am swydd ar ôl darllen erthygl yn y wasg leol. Defnyddiwch y cyswllt isod am ragor o gyngor ar sut i ysgrifennu llythyr.
Mae asiantaethau recriwtio yn hysbysebu swyddi tymor byr a hir dymor ac mae rhai yn arbenigo mewn meysydd arbenigol o waith. Os byddwch yn cofrestru gydag asiantaethau recriwtio yn eich ardal leol, cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi diweddaraf sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ar asiantaethau recriwtio dilynwch y cyswllt isod.
Gall pobl rydych yn eu hadnabod rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am chwilio am swydd. Mae’n werth chweil siarad â hwy am y math o waith rydych yn chwilio amdano, eich sgiliau a’ch profiad. Efallai y byddant yn gwybod am swydd addas neu’ch ystyried pan fyddant yn clywed am swyddi'r dyfodol. Efallai y byddant hefyd yn gallu rhoi gair da ar eich rhan yn y cwmni lle maent yn gweithio.
Mae digwyddiadau a chynadleddau rhwydweithio hefyd yn ffordd dda i chi gwrdd â phobl newydd. Cyn mynychu’r digwyddiad, dylech ystyried yr hyn rydych am gael ohono a hefyd cymryd ychydig gopïau o’ch CV gyda chi.
Ni chaiff nifer enfawr o swyddi gwag ei hysbysebu o gwbl, felly mae’n werth chweil i chi gysylltu â chwmni i ofyn os oes swydd ar gael. Un o’r manteision o wneud hynny yw’r tebygrwydd na fyddwch yn cystadlu yn erbyn grŵp mawr o bobl, fel petai eich bod wedi ateb i swydd a hysbysebwyd. Mae cyflogwyr yn gyfarwydd ag ymholiadau swyddi. Os gallant ddod o hyd i rywun heb hysbysebu, mae’n arbed arian ac amser iddynt.
Sut i ddefnyddio gwefannau cymdeithasu i gael swydd
Mae ambell gyflogwr bellach yn defnyddio gwefannau cymdeithasu megis Facebook a Twitter i recriwtio staff newydd.
I wneud y gorau o hyn, sicrhewch eich bod wedi ymgofrestru a’r safle cymdeithasu rhwydweithiol perthnasol a chreu proffil a fydd yn creu argraff dda ar ddarpar gyflogwyr.
Gwyliwch y ffilm 'Sut i ddefnyddio gwefannau Cymdeithasu i gael swydd' i gael gwybod mwy.
Gallwch hefyd chwilio am swyddi drwy Deledu Digidol Directgov, sydd ar gael ar Sky a Virgin Media.
Mae cofnodi eich chwiliad swydd yn syniad da ac yn eich helpu i gofio pwy rydych wedi mynd atynt, a pha ymateb y cawsoch. Gallwch hefyd nodi pa bapurau lleol sy’n hysbysebu swyddi; pa asiantaethau recriwtio rydych wedi cysylltu â hwy; pa gylchgronau masnach sydd ar gael a pha ffrindiau y gallai rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi.
Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, mae angen i chi brofi eich bod ‘wrthi’n chwilio am waith’. Bydd cadw cofnod o’ch chwiliad swydd yn eich helpu i ddangos eich bod yn gwneud y gorau i ddod o hyd i waith.
Darparwyd gan Jobcentre Plus