Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pa yrfa sy'n addas i chi?

Gall dod o hyd i’r yrfa iawn roi boddhad mawr, felly mae’n werth ymdrechu i gynllunio gyrfa.  Dechreuwch drwy feddwl am yr hyn sy’n eich cymell, yna dewch o hyd i yrfaoedd sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau.

Dod o hyd i yrfa addas i chi

Er y gall fod yn demtasiwn edrych ar yrfaoedd penodol ar unwaith, yn aml mae'n syniad da treulio rhywfaint o amser i ddechrau yn meddwl am yr hyn sy'n eich cymell fel unigolyn.

Beth yw eich diddordebau, yn y gwaith a'r tu allan - a beth rydych yn chwilio amdano mewn gyrfa? Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar hyn, gallwch ddechrau creu llun o’ch swydd ddelfrydol – yna dewch o hyd i’r gyrfaoedd agosaf sy’n cyd-fynd â hi.

Cynllunio gyrfa: lle i ddechrau

Os nad oes gennych syniad clir o’r hyn rydych eisiau ei wneud, gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Ac os oes gennych yrfa mewn golwg, sut rydych yn gwybod eich bod wedi ystyried pob un o’ch dewisiadau?

Fel man cychwyn, dylech eistedd i lawr gyda darn o bapur a rhestru:

  • y cyrsiau rydych wedi eu dilyn yn y gorffennol, neu'n eu dilyn ar hyn o bryd
  • unrhyw swyddi rydych wedi'u cael, yn cynnwys gwaith gwirfoddol
  • diddordebau y tu allan i’r gwaith
  • unrhyw brofiadau arwyddocaol eraill, fel teithio

Yna gofynnwch i chi’ch hun:

  • pam y gwnaethoch ddewis eu gwneud
  • pa rannau y gwnaethoch eu mwynhau yn ofnadwy
  • pa rannau oedd yn rhwystredig neu'n ddiflas, yn eich barn chi
  • pa rannau yr oeddech orau yn eu gwneud
  • pa rannau oedd yn her i chi
  • beth mae pobl eraill wedi ei ddweud am eich cyfraniad
  • beth y mae pobl eraill wedi’i ddweud eich bod yn dda yn eu gwneud

Dylech ddechrau gweld rhai patrymau: y mathau o sgiliau rydych yn mwynhau eu defnyddio, y math o amgylchedd rydych yn perfformio orau ynddo a’r mathau o bobl rydych yn hoffi gweithio gyda nhw.

Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu i bennu meysydd gwaith y gallech eu mwynhau.

Mae llawer o ddulliau ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’ch sgiliau a’ch galluoedd. Mae rhai ohonynt yn cael eu rhestru ar y wefan Support4Learning.

Archwilio mathau o yrfaoedd

Unwaith y bydd gennych syniad o’r meysydd yr hoffech weithio ynddynt, y cam nesaf yw edrych ar rai o broffiliau gyrfaoedd. Bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth i chi am y cyfleoedd sydd ar gael mewn maes gwaith penodol – a pha sgiliau a chymwysterau fydd eu hangen arnoch fwy na thebyg.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am yrfaoedd mewn diwydiannau penodol gan y Cynghorau Sgiliau Sector. Gallwch ddod o hyd i’r cyngor ar gyfer y diwydiant y mae gennych ddiddordeb ynddo drwy’r rhwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes.

Help gyda chynllunio gyrfa

Gall siarad â chynghorydd gyrfa eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn disgwyl ei gael mewn gyrfa – a phenderfynu lle rydych am fod.

Cyngor gyrfaol dros y ffôn neu e-bost

Ffoniwch learndirect Careers Advice ar 0800 100 900. Gallwch hefyd drefnu galwad yn ôl gan gynghorydd, neu anfon cwestiwn dros e-bost.

Cyngor gyrfaol wyneb yn wyneb

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi gael cyngor wyneb yn wyneb am ddim gan eich gwasanaeth nextstep lleol.

Cynllunio gyrfa a chyngor i bobl ifanc:

Dilynwch y ddolen isod i gael awgrymiadau ar gynllunio gyrfa a ffynonellau cyngor os ydych o dan 20 oed.

Os ydych wedi graddio neu’n gweithio tuag at gymhwyster addysg uwch

Dilynwch y ddolen isod i gael ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd i raddedigion.

Cam nesaf: ystyriaethau gyrfa

Unwaith y bydd gennych syniad am y gyrfaoedd sy’n debygol o fod yn addas i chi, edrychwch ar 'Ystyriaethau gyrfa' i gael awgrymiadau ar bethau i'w hystyried tra'r ydych yn gwneud eich ymchwil - fel cyflog, lleoliad a chael y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU