Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newid gyrfa

Ydych chi’n ystyried newid gyrfa? Weithiau gall fod yn anodd penderfynu a oes angen her newydd arnoch, neu a yw'n amser i chi symud i gyfeiriad cwbl wahanol.

Pa mor fodlon ydych chi gyda’ch gyrfa?

Gall meddwl am yr hyn rydych wedi’i gyflawni yn eich gyrfa hyd yn hyn fod yn lle da i ddechrau. Mae llwyddiant yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, ond efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • a ydych wedi mwynhau’r heriau rydych wedi’u hwynebu yn eich gwaith
  • a ydych wedi cael dyrchafiad o ganlyniad i’ch talentau
  • a ydych wedi cael cyflog sy’n eich galluogi i fyw fel y mynnwch
  • a ydych wedi meithrin arbenigedd yn eich maes gwaith
  • a ydych wedi creu effaith – yn eich sefydliad, neu’n fwy eang
  • a ydych wedi ennill parch cleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr

A yw’n bryd i chi newid gyrfa?

Dylai penderfynu a yw eich swydd bresennol wedi eich galluogi i ennill y llwyddiant yr hoffech ei gael roi syniad i chi p’un a yw’n amser am newid.

Os ydych yn credu y gallai newid gyrfa fod o fudd i chi, bydd angen i chi benderfynu a ydych eisiau:

  • rôl newydd yn eich sefydliad presennol
  • newid cyflogwr
  • gyrfa gwbl wahanol

Efallai y bydd gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol yn eich helpu i benderfynu ar hyn.

A ydych yn mwynhau’r tasgau bob dydd yn eich swydd?

Os nad ydych yn mwynhau'r gweithgareddau bob dydd yn eich swydd yn ddiweddar, ceisiwch ystyried beth allai fod wrth wraidd hyn - efallai eich bod wedi diflasu a bod angen her newydd arnoch. Efallai y dylech feddwl am symud i adran wahanol o fewn eich sefydliad - neu symud at gyflogwr gwahanol.

Os nad ydych yn mwynhau rhai pethau o'ch swydd o ddydd i ddydd o gwbl - neu os nad ydych yn cael y cyfle i ddefnyddio eich holl dalentau - gofynnwch i chi'ch hun a yw'r hyn rydych yn ei wneud yn arferol ar gyfer rhywun sydd yn eich maes gwaith chi. Os nad ydych yn fodlon â’r swydd ei hun, efallai na fydd symud adran neu symud cyflogwr yn gwella pethau. Mae’n bosib y byddwch am ystyried newid mwy radical.

A ydych yn cael eich ysgogi gan y bobl sy’n gweithio gyda chi?

Sut rydych yn cyd-dynnu gyda’ch cydweithwyr, rheolwyr, cleientiaid a phobl eraill yn eich gweithle?

Meddyliwch a oes unrhyw broblemau'n codi oherwydd gwrthdaro rhwng personoliaeth gydag unigolion penodol, diwylliant y gweithle - neu oherwydd natur y swydd ei hun.

Os ydych yn hoffi’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw ond nad ydych yn mwynhau’r gwaith ei hun, mae’n bosib y dylech ystyried newid eich rôl o fewn y sefydliad – neu chwilio am rôl wahanol gyda chyflogwr tebyg.

A ydych yn fodlon â’ch cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd?

Os ydych yn chwilio am waith sy’n cyd-fynd yn well gyda’ch bywyd teuluol, nid yw newid swydd yn angenrheidiol bob amser.

Mae technoleg yn ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl dreulio amser yn gweithio o'u cartrefi. Cofiwch y gallech fod â'r hawl i ofyn i'ch cyflogwr wneud trefniadau ar gyfer gweithio hyblyg (er y gallant wrthod os oes ganddynt reswm busnes da dros wneud hynny).

A ydych yn ystyried newid gyrfa?

Gweler ‘Dod o hyd i swydd yn awr’ i gael manylion am swyddi gwag ar hyn o bryd.

Os ydych yn credu mai newid gyrfa yn llwyr yw’r ateb, mae digon o wybodaeth a chanllawiau ar gael. Ewch i ‘Pa yrfa sy’n addas i chi?' i ddechrau arni.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU