Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Fargen Newydd a rhaglenni eraill

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig nifer o wasanaethau a rhaglenni i helpu pobl ddi-waith, yn enwedig pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers tro, pobl ag anableddau a phobl eraill a all fod ag angen help ychwanegol i ddod o hyd i swydd.

Y Fargen Newydd

Un o raglenni'r llywodraeth ydy'r Fargen Newydd sy'n anelu at roi'r help a'r cymorth sydd ei angen ar bobl ddi-waith i gael gwaith.

Mae pawb sydd ar y Fargen Newydd yn cael ymgynghorydd personol a fydd yn bwynt cyswllt iddynt gydol y rhaglen. Bydd yr ymgynghorydd personol yn cymryd amser i ddod i'ch deall - eich profiadau, eich diddordebau a'ch nodau - fel y gellir paratoi cynllun er mwyn i chi gael swydd addas.

Mae nifer o raglenni ar gael dan y Fargen Newydd, ac mae manylion y rheiny i'w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.

Treial Gwaith

Bydd treial gwaith yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar swydd wag go iawn gyda chyflogwr. Bydd yn gyfle i chi ddangos i gyflogwr mai chi yw'r person iawn i lenwi'r swydd. Byddwch hefyd yn dal i dderbyn budd-daliadau ac fe allech gael eich costau teithio a'ch costau bwyd hefyd.

Cyflogi ar Brawf

Mae Cyflogi ar Brawf yn rhoi'r hyder i chi roi cychwyn ar swydd newydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n sicr sut y bydd pethau'n gweithio. Fydd eich budd-dal ddim mewn perygl os oes rhaid i chi adael y swydd, cyn belled â'ch bod wedi rhoi cynnig go iawn arni.

Llwybrau at Waith

Mewn rhai ardaloedd o'r wlad, os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm ar sail iechyd, fe allai Llwybrau at Waith eich helpu i ddychwelyd i weithio. Byddwch hefyd yn cael cymorth wedi'i deilwra'n arbennig gan gynghorydd personol, bydd cymorth yn y gwaith a gwasanaeth adsefydlu'r GIG ar gael i chi a byddwch hefyd o bosib â'r hawl i gael Credyd Dychwelyd i'r Gwaith. Os hoffech wirfoddoli i gymryd rhan mewn Llwybrau at Waith, rhaid i chi holi yn y Ganolfan Byd Gwaith leol yn eich ardal chi.

Additional links

Cyngor am yrfaoedd a dysgu am ddim

Ddim yn siŵr pa lwybr y dylech ei ddilyn? Cael cyngor diduedd ac am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU