Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i waith gwirfoddol yn y DU

Ydych chi wedi ystyried gwirfoddoli tra'ch bod yn chwilio am waith? Neu efallai yr hoffech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Gallai gwaith gwirfoddol agor drysau os ydych chi'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith. Mae'n ffordd wych o ymuno ag amgylchedd gweithio tra'n helpu pobl eraill. Fe allech chi:

  • ddatblygu sgiliau newydd
  • ennill profiad
  • cael hyfforddiant mewn meysydd gwaith newydd
  • archwilio gyrfa sydd o ddiddordeb i chi
  • cyfarfod â mwy o bobl a allai arwain at swydd
  • meithrin eich hyder
  • cael hwyl

Mae dewisiadau lu o ran y math o waith gwirfoddol sydd ar gael felly mae'n werth meddwl beth rydych chi'n awyddus i'w wneud a faint o amser sydd gennych i'w gynnig.

Os ydych chi'n derbyn budd-dal, fe allai gwaith gwirfoddol effeithio ar eich taliadau neu'ch credydau. Rhaid i chi holi yn y Ganolfan Byd Gwaith leol, eich Canolfan Gwaith neu'ch swyddfa Nawdd Cymdeithasol cyn i chi ddechrau.

Chwilio ar y we am waith gwirfoddol

Gallwch chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli ar y we drwy bob rhan o'r Deyrnas Unedig. I chwilio am waith gwirfoddol teipiwch beth rydych chi'n chwilio amdano ac ymhle yn y blwch chwilio. Er enghraifft, 'Rwy'n chwilio am waith gwirfoddol yng Nghaerdydd' neu 'Rwy'n chwilio am swydd wirfoddol yng Nghaernarfon'.

Unwaith i chi gael rhestr o'r cyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal, cewch ddewis y math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo drwy ddewis y ddolen 'dewis manylach' ar waelod y rhestr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU