Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dechrau yn yr yrfa rydych ei eisiau: pobl go iawn, storïau go iawn

Gall canfod swydd fod yn sialens ond gall meddu ar y sgiliau cywir gwneud byd o wahaniaeth. Canfyddwch pa cymorth hyfforddiant sydd ar gael, y sectorau gwahanol y gallwch weithio ynddynt a’r hyn y mae pobl eraill wedi’u cyflawni.

Sgiliau a hyfforddiant

Waeth pa gyfnod rydych wedi bod i ffwrdd o’r gwaith, gall hyfforddiant eich helpu:

  • gwella eich sgiliau
  • ennill cymwysterau newydd
  • magu eich hyder
  • cael sylw gan gyflogwyr

Help gyda hyfforddiant a dysgu

Gall diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhai newydd gynyddu eich siawns o ddod o hyd i swydd newydd.

Gall y Ganolfan Byd Gwaith eich cynghori ar eich opsiynau sgiliau. Efallai y gallwch gael cyrsiau am ddim yn dibynnu ar eich oed a’ch cymwysterau.

Mae hefyd nifer o sefydliadau eraill sy’n gallu eich tywys yn y cyfeiriad cywir.

Cymru

Mae gan Gyrfa Cymru fwy am swyddi, cyngor ar yrfaoedd a dewisiadau dysgu. Mae hefyd yn rhoi manylion am y rhaglen ReAct i’ch helpu i ail hyfforddi a dod o hyd i waith yn dilyn diswyddiad - ffoniwch 0800 101 901 neu ewch i’w gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod. Mae learndirect Cymru yn cynnig gwybodaeth am opsiynau dysgu sydd am ddim neu’n rhad - ymwelwch â’u gwefan am fwy o wybodaeth. Am help gydag ariannu ar gyfer hyfforddiant, ewch i wefan llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Lloegr

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Gyrfaoedd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ddysgu a gwaith am ddim - mae llinell gymorth gyfrinachol ar gael o 8.00 am i 10.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ar 0800 100 900 neu ewch i’w gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Mae ‘Nextstep’ yn cynnig gwasanaethau wyneb i wyneb sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor ar ddysgu, hyfforddiant a chael cymwysterau - am fwy o wybodaeth dilynwch y cyswllt isod i’w gwefan.

Os nad ydych yn sicr lle i gychwyn gyda sgiliau gallwch ffonio’r llinell gymorth ‘Our future. It’s in our hands’ ar 0800 011 30 30 neu ewch i’w gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod. 

Yr Alban

Mae Skills Development Scotland yn cyflwyno cefnogaeth i sgiliau, gyrfaoedd a dysgu – am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod neu ffoniwch 0845 8 502 502. Am fwy o wybodaeth am opsiynau dysgu sydd am ddim neu’n rhad – ymwelwch â learn direct Scotland drwy ddefnyddio’r cyswllt isod neu ffoniwch 0808 100 9000, mae mwy o wybodaeth am gefnogi dysgu ar gael yn ILA Scotland.

Hyfforddiant mewn sector benodol

Ydych chi wedi rhoi eich bryd ar weithio mewn diwydiant penodol, ond nad oes gennych yr arbenigedd ar hyn o bryd? Efallai eich bod yn teimlo bod diffyg sgiliau mewn rhai ardaloedd yn cyfyngu ar eich cyfleoedd gwaith. Gallai dysgu neu hyfforddiant fod yr ateb.

Gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i benderfynu pa fath o hyfforddiant sydd orau i chi. Gallant ddweud wrthych am gymorth gyda ffioedd cwrs, costau teithio a’r gost o ofalu am eich plant tra rydych yn hyfforddi.

Sut mae pobl wedi gwella eu sgiliau

Edrychwch sut mae pobl wedi goresgyn eu rhwystrau i waith, a’r effaith mae hyn wedi’i gael ar eu bywydau. Cymerwch olwg ar eu dyddiaduron fideo drwy ddilyn y cysylltiadau isod:

Siaradwch â’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith i ganfod mwy am gael y sgiliau cywir ar gyfer eich dyfodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU