Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn gwneud eich cais a'ch cyfweliad am swydd yn llwyddiannus - mae gwybodaeth a chyngor ymarferol wedi cael eu rhoi at ei gilydd er mwyn eich cynorthwyo i baratoi.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i swydd y dymunwch fynd amdani, y cam nesaf yw gwneud cais am y swydd. Efallai y bydd llawer o bobl eraill hefyd yn gwneud cais am yr un swydd felly mae'n bwysig eich bod yn creu argraff dda. Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd mae'n debyg y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais neu anfon curriculum vitae (CV) ynghyd â llythyr eglurhaol. Efallai y bydd modd i chi hefyd wneud cais am swydd ar-lein gan ddefnyddio ffurflen gais electronig, sy'n ffordd ardderchog i chi ddangos eich sgiliau TG.
Os cewch wahoddiad i fynd i gyfweliad mae hyn yn golygu eich bod wedi croesi'r rhwystr cyntaf. Mae'n bwysig eich bod yn paratoi eich hun ar gyfer y cyfweliad i wneud yn siur eich bod yn gwneud yn fawr o'r cyfle. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gynllunio'ch siwrnai er mwyn sicrhau y byddwch yn cyrraedd y cyfweliad yn brydlon. Bydd y mwyafrif helaeth o gyfweliadau am swyddi yn gwbl syml - byddwch yn mynychu'r cyfweliad a bydd popeth yn mynd yn hwylus, ond, er mwyn eich diogelwch personol, dylech gofio rhai rheolau synnwyr cyffredin bob amser.