Ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd, mae'n bosib y bydd angen mwy o gyngor a chymorth i'ch helpu i fynd i weithio. P'un ai a ydych chi'n rhiant unigol, yn anabl, yn gadael yr ysgol neu'r coleg, dros 50 oed, neu'n ddi-waith, mae cymorth ymarferol ar gael.
Gallwch chwilio drwy 400,000 a mwy o swyddi gwag y Ganolfan Byd Gwaith ar-lein. Drwy'r gwasanaeth chwilio am swyddi a sgiliau gallwch chwilio am swyddi, hyfforddiant, gwybodaeth am yrfa, gwaith gwirfoddol a darparwyr gofal plant ledled y DU.
Ceir llawer o sefyllfaoedd lle gallwch fod yn chwilio am waith, ac mae gan bawb wahanol anghenion, sgiliau a chyfrifoldebau. Ceir llawer o wahanol fathau o swyddi, ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael.
Newidiadau pwysig i fudd-daliadau i unig rieni
Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai unig rieni.
Golyga'r newidiadau hyn y gallai eich hawl i Gymhorthdal Incwm ddod i ben pan mae'ch plentyn ieuengaf yn cyrraedd 12 oed os dim ond am eich bod yn rhiant unigol yr ydych yn ei hawlio.
Yn hytrach na hynny, gyda chymorth y Ganolfan Byd Gwaith, bydd yn rhaid i chi wneud hawliad am fudd-dal arall ac os yw'r gallu gennych fe'ch anogir i chwilio am waith cyflogedig.
Mae hwn yn un o amryw o newidiadau i'r system fudd-daliadau i helpu pobl i gael y sgiliau ar gyfer gwaith ac i ddechrau gweithio mewn swydd â thâl.
Digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau
Mae cynghorwyr personol y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau. Mae hon yn ffordd wych o gwrdd â chyflogwyr lleol a chael gwybod beth allant ei gynnig, pa sgiliau y mae eu hangen arnynt a sut mae ffitio eich oriau o amgylch eich teulu. Mae digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eich dyfodol chi a'ch plant. Mae'n syniad da galw heibio, hyd yn oed os nad ydych yn barod i ddechrau gweithio ar unwaith - er mwyn i chi allu cynllunio eich dyfodol. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, os ydych wedi cael anaf difrifol neu'n gofalu am rywun, mae cymorth ar gael i chi. Mae cymorth a chyngor ar gael os nad ydych yn gallu gweithio, os ydych yn chwilio am waith neu'n meddwl ei bod yn bosib y byddwch yn chwilio am waith yn y dyfodol.
Gall symud o'r ysgol, o'r coleg neu'r brifysgol i fyd gwaith fod yn gam mawr. Hyd yn oed os oes gennych syniad da am ben draw'r daith, nid yw'r ffordd orau o gyrraedd yno bob amser yn glir. Ond mae llawer o gyfleoedd a help ar gael, gan gynnwys cael y profiad angenrheidiol a'r cymorth ariannol ar gyfer hyfforddi.
Os ydych chi'n ddi-waith, gall gymryd amser i ddod o hyd i swydd arall, waeth faint yw eich oed. Fodd bynnag, mae rhaglenni, adnoddau a gwybodaeth arbenigol ar gael i bobl dros 50 i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu ddysgu sgiliau newydd.
Beth bynnag y bo'ch amgylchiadau, os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n meddwl tybed sut y gallech chi wella'ch siawns o gael y gwaith rydych chi'n awyddus i'w gael, mae cyngor a chymorth ar gael.
Os na allwch neu os nad ydych am weithio amser llawn, ceir dewisiadau eraill. Dyma rai esiamplau:
Os ydych yn ddi-waith, gall hyfforddiant neu addysg bellach fod yn gam gwerthfawr at gyflawni nod hirdymor. Nid ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysgol yn unig y mae hyfforddiant. Ceir bob amser gyfle i ddatblygu gyrfa, dysgu crefft, neu weithio tuag at gymhwyster proffesiynol drwy hyfforddiant.
Gall cynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi sy'n seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a gall eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth y mae gennych hawl i'w chael. Efallai y bydd eich cynghorydd yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad. Gallwch holi hefyd a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ariannol tra'r ydych yn chwilio am waith.