Treialon Gwaith a Gwaith ar Brawf
Mae Treial Gwaith a Gwaith ar Brawf yn wasanaethau gan y Ganolfan Byd Gwaith sydd wedi’u hanelu at helpu pobl sy’n ddi-waith. Mae Treial Gwaith yn dreial mewn swydd go iawn. Bwriad Cyflogaeth ar Dreial yw i’ch annog i wneud cais am swydd newydd.
Mae Treial Gwaith yn rhoi’r cyfle i chi i ddangos i gyflogwr mai chi yw’r person cywir i lenwi’r swydd. Mae’n hollol wirfoddol.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch gael Treial Gwaith os ydych wedi bod:
Cyn i chi gychwyn Treial Gwaith bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn edrych os ydych yn gymwys.
Sut mae’n gweithio
Os ydych yn penderfynu mynd ar Dreial Gwaith, byddwch yn:
Ni effeithir ar eich budd-daliadau os ydych:
Os ydych yn cael cynnig swydd ac yn penderfynu ei derbyn, nid yw hyn yn golygu y bydd eich holl fudd-daliadau yn dod i ben yn awtomatig. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu dweud wrthych am fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt tra rydych yn gweithio.
Trefnu eich treial gwaith eich hun
Os ydych am drefnu eich treial gwaith eich hun dylech ofyn i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf am gymorth.
Fel arfer bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi copi o’r llythyr ‘Treialon Gwaith: Rhowch gynnig iddo’ i chi. Dylech anfon hwn i’r cyflogwr gyda’ch ffurflen gais, llythyr cais neu CV.
Yna byddwch yn cael ymateb un ai gan y cyflogwr neu gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Os ydych yn cael cyfweliad am swydd
Os ydych mewn cyfweliad ac mae gan y cyflogwr bryderon os mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd, gallwch bob amser son am Dreialon Gwaith.
Yna gallwch ddangos copi o ‘Treialon Gwaith: Rhowch gynnig iddo’ i’r cyflogwr i adael iddynt wybod eich bod yn gymwys am dreial (gweler ‘Trefnu eich Treial Gwaith eich hun’, uchod). Dywedwch wrth y person sy’n cyfweld bod y llythyr yn dweud wrthynt am gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith os oes ganddynt ddiddordeb.
I ddarganfod mwy am Dreialon Gwaith dylech gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Fel arfer os ydych yn gadael swydd o’ch gwirfodd, heb reswm digonol, rydych yn colli hawl i fudd-dal. Fodd bynnag, mae Cyflogaeth ar Dreial yn eich caniatáu i adael swydd a gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith heb i’r rheswm dros i chi adael effeithio ar eich hawl i fudd-dal.
Mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn y swydd:
Os ydych yn cael eich diswyddo neu’n gadael swydd oherwydd camymddwyn efallai y byddwch yn parhau i golli budd-dal.
I ddarganfod mwy am Gyflogaeth ar Dreial dylech gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Darparwyd gan Jobcentre Plus