Ardaloedd Cyflogaeth
Mae Ardaloedd Cyflogaeth yn rhaglen gan y Ganolfan Byd Gwaith sy’n cynnig help i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn hir dymor i ddychwelyd i weithio.
Mae Ardaloedd Cyflogaeth yn rhaglen sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol i gwsmeriaid Lwfans Ceisio Gwaith, rhieni unigol a phobl sy’n cael Credyd Pensiwn.
Mae Ardaloedd Cyflogaeth yn cael eu rhedeg yn yr ardaloedd canlynol:
Mewn ardaloedd eraill mae gan y Ganolfan Byd Gwaith rhaglenni’r Fargen Newydd sy’n cynnig cefnogaeth bellach.
Mae Ardaloedd Cyflogaeth yn rhaglen tair rhan sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol i chi ddychwelyd i weithio. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y rhaglen Ardaloedd Cyflogaeth os ydych:
Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i ymuno â rhaglen Ardaloedd Cyflogaeth yn gynharach os yw’ch amgylchiadau yn ei gwneud hi’n enwedig o anodd i ddod o hyd i waith.
Mae tair rhan i’r rhaglen Ardaloedd Cyflogaeth.
Cam un
Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn cam un, sy’n parhau am hyd at 28 diwrnod. Bydd eich ymgynghorydd personol Ardal Gyflogaeth yn eich helpu i benderfynu pa fath o waith rydych yn chwilio amdano ac yn deall beth allai fod yn eich rhwystro rhag cael y gwaith hwnnw. Gyda’ch gilydd byddwch yn cynllunio cynllun gweithredol a fydd yn rhestru'r pethau rydych wedi’u cytuno i’w gwneud fel rhan o’ch ymgais i ddod o hyd i waith.
Cam dau
Mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn rhan cam dau, sy’n parhau am hyd at 26 wythnos. Byddwch yn gweithredu’r gweithgareddau a restrir ar eich cynllun gweithredol gyda chefnogaeth gan eich ymgynghorydd personol Ardal Gyflogaeth.
Cam tri
Gallwch hefyd wirfoddoli i barhau ar Ardaloedd Cyflogaeth am hyd at 22 wythnos. Gallwch ddewis i ymuno â cham tri os nad ydych wedi dod o hyd i swydd yn ystod cam dau.
Os ydych yn rhiant unigol gallwch wirfoddoli am help gan Ardaloedd Cyflogaeth ar unrhyw adeg cyn belled:
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn gallwch wirfoddoli ar gyfer Ardaloedd Cyflogaeth ar unrhyw adeg cyn belled nad ydych yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos.
Am fwy o wybodaeth am Ardaloedd Cyflogaeth ac i edrych os ydych yn gymwys, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Darparwyd gan Jobcentre Plus