Y Fargen Newydd 25 oed a throsodd
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Pobl 25 oed a throsodd yn rhaglen gan y Ganolfan Byd Gwaith sy’n anelu i’ch helpu i gael swydd os ydych allan o waith. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi hyfforddi, dysgu a gwneud profiad gwaith.
Bydd y Fargen Newydd 25 oed a throsodd yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw neu weithio i chi eich hun. Bydd yn eich helpu i wella’r sgiliau sydd gennych ac i ddysgu sgiliau newydd. Tra byddwch ar y Fargen Newydd 25 oed a throsodd byddwch yn cael help a chefnogaeth gan eich ymgynghorydd personol. Bydd yn eich helpu i edrych ar yr hyn y gallwch ei wneud, ac i adeiladu ar y sgiliau sydd gennych.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, a’ch bod yn 25 oed neu drosodd ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd 25 oed a throsodd er mwyn parhau i gael rhywfaint o’ch budd-daliadau.
Pan rydych yn ymuno a’r Fargen Newydd byddwch yn cael ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith a fydd yn eich helpu drwy bob cam. Byddant yn edrych ar sut rydych yn ymdopi ac yn eich helpu i gynllunio beth i’w wneud nesaf. Gallai hyn fod wyneb i wyneb neu dros y ffôn.
Dylech siarad â’ch ymgynghorydd personol os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth neu os oes gennych gwestiwn.
Y cam cyntaf o’r Fargen Newydd Pobl 25 oed a throsodd
Gelwir cam cyntaf y Fargen Newydd 25 oed a throsodd y ‘porth’. Bydd yn para am hyd at 16 wythnos. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i chwilio am waith. Byddant yn eich helpu i:
Yr ail gam o’r Fargen Newydd ar gyfer Pobl 25 oed a throsodd
Os na fyddwch yn dod o hyd i swydd yn ystod cam cyntaf y Fargen Newydd 25 oed a throsodd, byddwch yn ymuno â’r ail gam. Gelwir hwn yn ‘cyfnod gweithgaredd dwys’. Bydd yn para am o leiaf 13 wythnos.
Bydd eich ymgynghorydd personol yn gweithio gyda chi i benderfynu beth y byddwch yn ei wneud yn ystod y cam hwn. Gallech roi cynnig ar weithio mewn swydd, neu gallech wneud rhyw fath o hyfforddiant. Gallech hefyd gael help i weithio i chi eich hun. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i chwilio am swydd fel y gallwch ddechrau gweithio cyn gynted â phosibl.
Os ydych rhwng 25 a 59 oed, mae’n rhaid i chi gwblhau’r ail gam. Os ydych yn 60 oed neu drosodd, gallwch hefyd ddewis i gymryd rhan.
Gwneud y gorau o’ch cyfnod gweithgaredd dwys
Bydd yr hyn rydych yn ei ddewis i’w wneud ar gyfer eich cyfnod gweithgaredd dwys yn eich helpu i gael mwy o sgiliau ac felly bydd yn cynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i ddewis beth i’w wneud. Os na allwch ddewis, bydd eich ymgynghorydd personol yn dewis ar eich rhan ac yn eich hysbysu o’u penderfyniad mewn llythyr.
Tua diwedd y cyfnod gweithgaredd dwys, byddwch yn cael cyfarfod gyda’ch ymgynghorydd personol i benderfynu pa gymorth ychwanegol y gallwch ei gael i ddod o hyd i waith. Gallai hyn fod mwy o gymorth llawn amser neu gyfnod gweithgaredd dwys pellach.
Lwfans y Fargen Newydd
Pan fyddwch ar eich cyfnod gweithgaredd dwys, gallech gael Lwfans y Fargen Newydd. Mae hwn yr un swm â’ch Lwfans Ceisio Gwaith. Byddwch hefyd yn cael taliad wythnosol ychwanegol.
Ni fydd Lwfans y Fargen Newydd yn effeithio ar fudd-daliadau eraill (megis Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor a help tuag at gostau GIG) yr oeddech yn eu cael cyn dechrau eich cyfnod gweithgaredd dwys.
Y cam olaf o’r Fargen Newydd ar gyfer Pobl 25 oed a throsodd
Os nad ydych yn cael swydd pan fyddwch wedi cwblhau eich cyfnod gweithgaredd dwys, bydd angen i chi wneud cais newydd am Lwfans Ceisio Gwaith. Yn ystod y cam hwn, byddwch yn ymuno â rhaglen a elwir yn ‘dilyniant’ a all bara rhwng 6 a 13 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i geisio dod o hyd i swydd. Efallai y bydd rhaid i chi wneud cyrsiau byr er mwyn rhoi rhagor o sgiliau i chi.
Un o amcanion Y Fargen Newydd 25 oed a throsodd yw gwneud yn siw r eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag y byddech yn cael budd-daliadau. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i ganfod pa gyflog sydd ei angen arnoch mewn swydd er mwyn i chi beidio â cholli allan.
Sut y bydd gwaith yn effeithio ar fy mudd-dal
Os cewch waith drwy’r Fargen Newydd ar gyfer Pobl 25 oed a throsodd, gallwch gael rhywfaint o fudd-daliadau o hyd. Gall eich ymgynghorydd personol ddweud wrthych ba fudd-daliadau y gallech eu cael.
Fel rhan o’r Fargen Newydd ar gyfer Pobl 25 oed a throsodd, gallech gael mentor i roi help a chyngor ychwanegol i chi. Byddant yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw drwy wrando ar yr hyn sydd ei angen arnoch a’ch helpu i benderfynu beth ddylech ei wneud. Rhywun lleol fydd eich mentor. Gofynnwch i’ch ymgynghorydd personol os hoffech gael mentor.
I gael rhagor o wybodaeth am Y Fargen Newydd 25 oed a throsodd cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Darparwyd gan Jobcentre Plus