Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Fargen Newydd 50 oed a throsodd

Mae’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd yn rhaglen y Ganolfan Byd Gwaith sy’n cynnig cymorth a chyngor i bobl dros 50 oed i ddod o hyd i waith. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn cynnwys pwy all gymryd rhan, sut i ymuno a’r help y gallwch ei gael pan rydych yn dechrau swydd.

Y Fargen Newydd 50 oed a throsodd

Nod y Fargen Newydd 50 oed a throsodd yw eich helpu i ystyried y rhwystrau a all fod yn ei gwneud yn anodd i chi ddod o hyd i swydd os ydych yn ddi-waith. Mae’n cynnig ystod o gymorth i wella’ch rhagolygon cyflogaeth.

Gallwch ymuno â’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd os ydych dros 50 oed ac wedi bod yn cael o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol am y chwe mis diwethaf neu fwy:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Credyd Pensiwn

Gallwch hefyd ymuno os ydych wedi bod yn cael credydau Yswiriant Gwladol, Lwfans Gofalwr neu Lwfans Profedigaeth, neu os yw eich partner wedi bod yn cael budd-daliadau eraill ar eich cyfer am o leiaf chwe mis.

O fis Hydref 2009, mewn rhai ardaloedd bydd y Fargen Newydd yn cael ei disodli gan raglen wahanol o’r enw 'Y Fargen Newydd Hyblyg'.

Ymgynghorydd personol y Fargen Newydd 50 oed a throsodd

Pan fyddwch yn ymuno â’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd, cewch ymgynghorydd personol. Byddant yn dod o’r Ganolfan Byd Gwaith ac yn eich helpu ar bob cam o’r Fargen Newydd. Byddant yn edrych i weld sut rydych yn dod yn eich blaen ac yn eich helpu i gynllunio beth i’w wneud nesaf. Dylech siarad â’ch ymgynghorydd personol os ydych yn ansicr ynglŷn â rhywbeth neu os oes gennych gwestiwn.

Ymuno â’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd

Os ydych am gymryd rhan yn y Fargen Newydd 50 oed a throsodd, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith a threfnwch i gwrdd ag ymgynghorydd personol. Yn y cyfarfod hwn byddwch chi a’r ymgynghorydd personol yn penderfynu beth y dylech ei wneud nesaf. Efallai y byddwch yn cytuno bod angen i chi ddiweddaru eich sgiliau neu ddysgu sgiliau ar gyfer cyfweliadau am swydd.

Eich penderfyniad chi yw ymuno â’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Os ydych yn cymryd rhan, bydd eich ymgynghorydd personol yn dangos i chi sut y gallech fod yn well eich byd mewn gwaith nag os byddech yn aros ar fudd-daliadau.

Help pan fyddwch yn dechrau swydd

Unwaith y byddwch yn dod o hyd i swydd, gallech gael Credyd Treth Gwaith a Grant Hyfforddi mewn Gwaith. Gall eich ymgynghorydd personol eich helpu i wneud cais am y rhain.

Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl 50 oed a throsodd

Gall y Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl 50 oed a throsodd ychwanegu at eich cyflog pan fyddwch yn dechrau gweithio. Gallwch gael Credyd Treth Gwaith cyn belled ag y byddwch yn gweithio, ond gallwch gael y Credyd Treth Gwaith penodol ar gyfer pobl 50 oed a throsodd dim ond am flwyddyn yn unig.

Gallwch gael Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl os:

  • ydych yn 50 oed neu drosodd
  • byddwch yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • roeddech yn cael budd-daliadau ar gyfer pobl ddi-waith

Bydd y swm a gewch yn dibynnu arnoch chi a’ch teulu. Gofynnwch i’ch ymgynghorydd personol esbonio mwy.

Grant Hyfforddi mewn Gwaith

Unwaith y byddwch yn dechrau gweithio gallwch gael grant hyfforddi. Bydd y grant hwn yn eich helpu i ddiweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhai newydd. Gallwch ddefnyddio’r arian i dalu am hyfforddiant yn eich gweithle neu mewn coleg lleol. Gallech gael hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Additional links

Cyngor am yrfaoedd a dysgu am ddim

Ddim yn siŵr pa lwybr y dylech ei ddilyn? Cael cyngor diduedd ac am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU