Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol

Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen wirfoddol gan y Ganolfan Byd Gwaith sydd wedi’i gynllunio’n benodol i helpu rhieni unigol i mewn i waith.

Y Fargen Newydd

Mae’r Fargen Newydd yn anelu i’ch helpu i gael swydd os ydych allan o waith. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi hyfforddi, dysgu a gwneud profiad gwaith er mwyn i chi:

  • ddod yn fwy hyderus
  • cael sgiliau newydd
  • fod gwerth mwy i bobl sy’n chwilio am staff
  • dod o hyd i ac aros mewn gwaith

Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol

Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen wirfoddol sydd wedi’i gynllunio’n benodol i helpu rhieni unigol i mewn i waith. Mae’n cynnig pecyn o gefnogaeth i’ch helpu i symud tuag at ddyfodol mwy diogel i chi a’ch plant.

Os ydych yn dewis cymryd mantais o beth sydd ar gael drwy ymuno â’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol, bydd ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith yn eich arwain trwy’r camau i ddod o hyd i ac i wneud cais am swyddi. Bydd eich ymgynghorydd hefyd yn cynnig help ymarferol a chymorth ar sut i ddod o hyd i ofal plant a hyfforddiant. Bydd eich ymgynghorydd hefyd yn gallu dweud wrthych sut yr effeithir ar fudd-daliadau pan fyddwch yn dechrau gweithio ac yn eich helpu i wneud cais am fudd-daliadau mewn gwaith neu gredydau treth.

Eich dewis chi yn hollol yw cymryd rhan neu beidio. Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn darparu cymaint o help ag ydych ei angen i wneud y symudiad i mewn i waith.

Ymuno a’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol

Gallwch ymuno a’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol os ydych yn magu plant fel rhiant unigol, os yw’ch plentyn ieuengaf o dan 16 oed ac ni ydych yn gweithio, neu rydych yn gweithio llai ân 16 awr yr wythnos.

Rhagor o wybodaeth am Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol

I gael rhagor o wybodaeth am Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Additional links

Cyngor am yrfaoedd a dysgu am ddim

Ddim yn siŵr pa lwybr y dylech ei ddilyn? Cael cyngor diduedd ac am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU