Y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion
Gall Y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion helpu cerddorion a chyfansoddwyr i gael mynediad at yrfaoedd ym mob math o gerddoriaeth, boed yn hunangyflogedig neu gweithio dan gytundeb.
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer cerddorion yn rhan o raglen orfodol y Fargen Newydd i bobl sy’n gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith. Mae ganddo gefnogaeth lawn y diwydiant cerddoriaeth; byddwch yn gallu siarad â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth a chael:
I gymryd rhan yn Y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion, mae’n rhaid i chi fod yn cymryd rhan yn Y Fargen Newydd ar gyfer pobl 25 oed a throsodd neu’r Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc, a’ch bod ar ddiwedd y cam ‘porth’.
Dylech drafod ymuno â’r rhaglen gyda’ch ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith os:
Mae’n rhaid i chi hefyd fod o ddifrif ynglŷn â dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth ac mae’n rhaid bod gennych rywfaint o brofiad fel offerynwr, canwr, ysgrifennwr caneuon, cyfansoddwr neu DJ.
Gallai fod diddordeb gennych mewn unrhyw fath o gerddoriaeth megis jazz, gwerin, clasurol, roc, pop, dawns, melanganu, canu gwlad, opera, rap, bandiau pres ac indie/amgen. Efallai eich bod yn chwilio am waith fel perfformiwr unigol neu mewn band, grŵp siambr neu gerddorfa.
Diwedd y cam ‘porth’
Os nad ydych yn gweithio erbyn diwedd y porth, bydd eich ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith yn trafod eich camau nesaf gyda chi. Byddant yn penderfynu a all y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion eich helpu chi. Os credant y gallai, gallech gael cyngor gan ddarparwr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth a chymorth i ddefnyddio llyfrau gwaith dysgu agored.
Llyfrau gwaith dysgu agored
Cewch y cyfle i ymgymryd ag ystod o dasgau a phrosiectau. Bydd y rhain ar ffurf llyfrau gwaith dysgu agored sydd wedi’u cynllunio gennym ni a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd y llyfrau gwaith yn eich helpu i weithio ar eich sgiliau cerddorol a busnes.
Bydd eich darparwr yn y diwydiant cerddoriaeth yn eich helpu i ddewis pa lyfrau gwaith i’w gwneud. Byddwch yn cadw cofnod o’ch cynnydd ac yn cwrdd â’ch darparwr yn rheolaidd. Os dymunwch, gallwch weithio tuag at ennill cymhwyster.
Gall unrhyw un gael mynediad at gyfres o ddeunyddiau dysgu agored o wefan deunyddiau dysgu’r Fargen Newydd ar gyfer cerddorion.
Bydd eich ymgynghorydd personol a’ch darparwr yn y diwydiant cerddoriaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi. Gallant roi help i chi ar unrhyw adeg y bydd eu hangen arnoch yn ystod eich amser ar y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion. Os byddwch yn gorffen y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion ac nad ydych wedi dod o hyd i waith, bydd eich ymgynghorydd personol yn dal i’ch cefnogi.
Tra byddwch ar y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion, byddwch yn cael swm sy’n gyfwerth â’ch Lwfans Ceisio Gwaith arferol. Byddwch hefyd yn cael taliad ychwanegol wythnosol ac unrhyw fudd-daliadau eraill rydych fel arfer yn eu cael.
Mae’r Fargen Newydd yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddod o hyd i swydd. I gael y gorau o’r rhaglen, mae’n rhaid i chi weithio gyda’ch ymgynghorydd personol drwy bob cam. Bydd angen i chi:
Os na wnewch yr holl bethau hyn, efallai ni fyddwch yn gallu gael Lwfans Ceisio Gwaith. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i ddeall yr hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud i barhau i gael eich budd-daliadau.
Ar ôl y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion gallech hefyd dreulio cyfnod masnachu ar brawf fel person hunangyflogedig. Defnyddir yr amser hwn yn paratoi ar gyfer gigs, cyngherddau, dysgu cerddoriaeth neu’n dod o hyd i gytundeb recordio. Gallech hefyd ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio i chi’ch hun. Gallwch gasglu enwau cyswllt, datblygu’r sgiliau a chael y profiad sydd eu hangen arnoch i fod yn hunangyflogedig heb golli eich budd-dal.
Un o amcanion y Fargen Newydd yw gwneud yn sir eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag y byddech yn cael budd-daliadau. Bydd eich ymgynghorydd personol yn eich helpu i ganfod pa gyflog sydd ei angen arnoch mewn swydd er mwyn i chi beidio â cholli allan.
Sut y bydd gwaith yn effeithio ar fudd-dal
Os cewch waith drwy’r Fargen Newydd, gallwch gael rhywfaint o fudd-daliadau o hyd. Gall eich ymgynghorydd personol ddweud wrthych pa fudd-daliadau y gallech eu cael.
I gael rhagor o wybodaeth am Y Fargen Newydd ar gyfer cerddorion cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Darparwyd gan Jobcentre Plus