Y Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid
Os yw’ch partner yn hawlio budd-dal drosoch gallech ymuno â rhaglen Y Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid y Ganolfan Byd Gwaith. Cewch gymorth a chefnogaeth i chwilio am waith, yn cynnwys hyfforddiant a pharatoi am waith.
Mae’r Fargen Newydd yn anelu i’ch helpu i gael swydd os ydych allan o waith. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi hyfforddi, dysgu a gwneud profiad gwaith er mwyn i chi:
Os yw’ch partner yn hawlio budd-dal drosoch gallech ymuno a rhaglen Y Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid a chael ystod o gymorth. Gallech gael cynnig help yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar hyfforddiant, dod o hyd i waith a gofal plant, ac efallai y gallech gymryd rhan mewn cynlluniau eraill gan y llywodraeth. Mae’n rhaglen wirfoddol felly gallwch ddewis os ydych am gymryd rhan neu beidio.
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid ar gael i bartneriaid pobl sy’n hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
Gallwch hefyd ymuno â’r Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid os:
I gael rhagor o wybodaeth am Y Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Darparwyd gan Jobcentre Plus