Gwybod eich hawliau cyflogaeth os ydych chi am ymddeol, neu os yw'ch cyflogwr yn dymuno i chi wneud hynny, gan gynnwys eich hawl i ofyn am gael gweithio ar ôl oed ymddeol.
Byddwch fel arfer yn cytuno ar y dyddiad y byddwch yn ymddeol gyda'ch cyflogwr. Gallwch gael llawer o wybodaeth i'ch helpu i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad yn yr adran i bobl dros 50.
Pan fyddwch chi, fel gweithiwr, yn tynnu tuag at derfyn cyfnod o weithio ac yn gadael y sefydliad sy'n eich cyflogi, fel arfer ar sail oed, dywedir eich bod yn ymddeol. At ddibenion hawliau cyflogaeth, eich 'oed ymddeol cyffredin' yw'r oed y bydd pobl sy'n gwneud yr un gwaith â chi yn ymddeol fel arfer (mae hwn yn gorfod bod yr un fath i ddynion a merched). Os nad oes gennych oed ymddeol cyffredin, yr oed diofyn, fel arfer, yw 65.
I gael oed ymddeol cyffredin sydd dan 65, mae'n ofynnol bod eich cyflogwr yn gallu cyfiawnhau'r oed hwnnw'n wrthrychol. Golyga hyn bod yr oed yn 'ffordd gyfatebol o gyflawni nod cyfreithlon'. O ran ymddeol, efallai y gall eich cyflogwr, er enghraifft, ddangos bod angen i'r oed fod yn is er mwyn diwallu gofynion iechyd a diogelwch na ellir eu cyflawni mewn unrhyw ffordd arall. Fodd bynnag, bydd yn anodd i gyflogwr gyfiawnhau oed ymddeol sy'n is na 65. Ni fydd eich cyflogwr yn syml yn gallu honni'r pethau hyn; bydd angen tystiolaeth.
Mae'r gyfraith ar wahaniaethu ar sail oed wedi'i chynllunio i annog eich cyflogwr i beidio â'ch gorfodi i ymddeol heblaw bod hynny'n briodol ac yn angenrheidiol. Fodd bynnag, mae gan eich cyflogwr hawl i'ch gorfodi i ymddeol pan fyddwch yn cyrraedd eich oed ymddeol cyffredin (neu'r oed ymddeol diofyn sef 65) cyn belled â'u bod yn dilyn y drefn gywir.
Mae'r drefn hon yn cynnwys:
Nid oes raid i'ch cyflogwr eich gorfodi i ymddeol cyn gynted ag y cyrhaeddwch eich oed ymddeol cyffredin (neu 65).
Os yw'ch cyflogwr yn eich gorfodi i ymddeol cyn eich oed ymddeol cyffredin (neu 65), gallai hyn olygu ei fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail oed ac yn eich diswyddo'n annheg.
Gallwch gael arweiniad personol ar y drefn ymddeol. Byddwch yn cael taflen ffeithiau bersonol yn egluro sut mae'r drefn ymddeol yn effeithio arnoch chi, yn dweud a yw eich cyflogwr wedi dilyn y drefn yn gywir ai peidio, ac yn nodi pryd y cewch wneud cais am weithio y tu hwnt i'ch oed ymddeol.