Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymddeol o swydd: gwneud cais am gael gweithio ar ôl oed ymddeol

Mae gennych hawl i ofyn i'ch cyflogwr a gewch chi weithio y tu hwnt i ddyddiad eich ymddeoliad, ac mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais. Cael gwybod mwy ynghylch gwneud cais a beth y gallwch ei wneud os yw eich cais yn cael ei wrthod.

Gwneud cais

Rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu ynghylch dyddiad eich ymddeoliad ac am eich hawl i wneud cais i weithio y tu hwnt i ddyddiad eich ymddeoliad. Dylent wneud hyn o leiaf chwe mis, ond dim mwy na 12 mis, cyn dyddiad eich ymddeoliad.

Os ydych chi rhwng chwech a 12 mis o'r dyddiad yr ydych i fod i ymddeol:

  • dim ond ar ôl i'ch cyflogwr eich hysbysu o'ch hawl y cewch wneud cais
  • rhaid i chi wneud y cais o leiaf dri mis cyn y dyddiad y bwriadwch ymddeol

Fodd bynnag, os nad yw'ch cyflogwr wedi'ch hysbysu chwe mis cyn y dyddiad yr ydych i fod i ymddeol, gallwch wedyn wneud cais unrhyw adeg cyn ymddeol.

Rhaid i'ch cais fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi a ydych yn dymuno parhau i weithio:

  • am amser amhenodol
  • am gyfnod penodol
  • neu tan ddyddiad penodol

Trafod eich cais

Gall eich cyflogwr naill ai dderbyn eich cais neu drefnu i gyfarfod â chi i drafod y cais cyn gwneud penderfyniad. Dyma'ch cyfle i roi eich achos gerbron eich cyflogwr. Mae'n berffaith dderbyniol i'ch cyflogwr gynnig dyddiadau ymddeol a phatrymau gweithio eraill sy'n wahanol i'r rheini yr ydych chi wedi gofyn amdanynt.

Mae gennych hawl i gael rhywun i fynd gyda chi i’r cyfarfod. Gall y person hwnnw fod yn weithiwr neu'n gynrychiolydd o undeb llafur a gyflogir gan yr un cyflogwr.

Gall y person sy'n dod gyda chi:

  • annerch y cyfarfod ond ni chaiff ateb cwestiynau ar eich rhan
  • ymgynghori â chi yn ystod y cyfarfod

Ni chaiff ateb cwestiynau ar eich rhan.

Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i fynychu’r cyfarfod. Os nad yw'n bosib cynnal y cyfarfod o fewn cyfnod rhesymol gallai eich cyflogwr roi gwybod i chi am ei benderfyniad yn ysgrifenedig.

Cael gwybod beth yw'r canlyniad

Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'i benderfyniad mor fuan â phosib ar ôl y cyfarfod. Dylai pob penderfyniad gael ei roi yn ysgrifenedig a dylai bod dyddiad arno.

Os gwrthodir eich cais

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais neu'n argymell dyddiad ymddeol newydd sy'n gynharach na'r dyddiad yn eich cais gwreiddiol, gallwch ofyn am gyfarfod apêl. Y cyfarfod apêl yw'r cyfle olaf i chi roi eich achos gerbron eich cyflogwr.

Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'i benderfyniad ymhen amser sydd mor rhesymol â phosib ar ôl y cyfarfod apêl. Os derbynnir eich cais, neu os ceir cyfaddawd, dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi am y penderfyniad hwnnw. Dylai pob penderfyniad gael ei roi yn ysgrifenedig a dylai bod dyddiad arno.

Os gwrthodir eich apêl, mae'n orfodol i'ch cyflogwr eich hysbysu o hyn, ac o ddyddiad eich ymddeoliad, yn ysgrifenedig. Nid oes rhaid i'r cyflogwr roi rheswm dros wrthod eich cais. Ni chewch wneud cais arall.

Ble mae cael cymorth

Am fwy o wybodaeth am ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Additional links

Dathlu'r cyfraniad mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas

Dathliad o’r cyfleoedd, llwyddiannau a dyheadau pobl hŷn a’u cyfraniad i’n cymdeithas a’n heconomi

Allweddumynediad llywodraeth y DU