Mae llawer o resymau pam y gallai eich cyflogwr eich diswyddo. Mae rhesymau teg ac annheg dros ddiswyddo, ac mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig yn esbonio pam eich bod yn cael eich diswyddo. Beth bynnag yw'r rheswm dros eich diswyddo, rhaid i'ch cyflogwr hefyd weithredu'n deg o ran y drefn a ddilynir. Os na wneir hynny, gallai'r diswyddo fod yn annheg.
Fel arfer byddwch wedi gorfod gweithio am o leiaf blwyddyn i'r cyflogwr cyn y gallwch hawlio eich bod wedi'ch diswyddo'n annheg.
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gael rheswm da dros eich diswyddo, a rhaid iddo ddangos fod y rheswm yn cyfiawnhau'ch diswyddo. Dyma'r pum rheswm teg posibl ar gyfer diswyddo gweithiwr:
Mae hyn fel arfer yn golygu eich bod wedi torri un neu fwy o'ch telerau cyflogaeth, e.e.:
Dylai eich cyflogwr ddilyn trefn ddisgyblu deg cyn eich diswyddo am gamymddwyn.
Mae hyn yn golygu nad ydych yn gallu gwneud eich gwaith yn iawn (gan gynnwys am nad yw'r cymwysterau iawn gennych) neu nad ydych yn perfformio i'r safon ofynnol, e.e. oherwydd:
Dylai eich cyflogwr sicrhau eich bod yn cael hyfforddiant digonol i wneud eich swydd. Os ydych yn perfformio'n wael, dylech fel arfer gael rhybudd nad yw eich gwaith yn foddhaol a chael y cyfle i wella cyn y cymerir unrhyw gamau yn eich erbyn.
Os ydych yn sâl yn gyson (neu'n wael yn yr hirdymor), dylai'ch cyflogwr fel arfer ystyried unrhyw opsiynau eraill cyn penderfynu eich diswyddo. Er enghraifft, efallai y dylai ystyried ai'r swydd ei hun sy'n eich gwneud yn sâl ac a oes angen ei newid.
Dylech fod yn ymwybodol y gallwch dal gael eich diswyddo os ydych yn sâl.
Byddai disgwyl i'ch cyflogwr fel arfer roi cyfnod rhesymol o amser ichi wella o'ch salwch. Bydd yr union amser yn dibynnu ar bethau megis:
Os oes gennych anabledd (a all gynnwys salwch hirdymor), mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i geisio canfod ffordd o ddatrys y broblem drwy wneud 'addasiadau rhesymol' i ble a/neu sut yr ydych yn gweithio. Gall diswyddo oherwydd anabledd fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Mae hyn yn golygu nad oes mwy o waith ichi neu nad oes digon o waith ichi. Gall ddigwydd:
Byddai disgwyl i'ch cyflogwr eich dewis yn deg, ystyried cynnig gwaith arall ichi, ac i ymgynghori â chi'n briodol cyn dileu eich swydd.
Gall eich cyflogwr eich diswyddo os byddai'n torri'r gyfraith wrth barhau i'ch cyflogi - er enghraifft, os ydych yn gyrru yn eich swydd a chithau'n colli'ch trwydded yrru. Byddai disgwyl i'r cyflogwr geisio dod o hyd i waith arall addas ar eich cyfer cyn dewis eich diswyddo.
Mae'r pwyslais yma ar 'sylweddol' - mae'n berthnasol i sefyllfa lle mae gan eich cyflogwr reswm diymwad dros eich diswyddo. Byddai disgwyl i'r cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill cyn dewis eich diswyddo. Dyma resymau sydd wedi dod o fewn y categori hwn yn y gorffennol:
Rhaid i gyflogwyr ddilyn trefn ddiswyddo benodol cyn y gallant ddiswyddo'n gyfreithlon unrhyw weithiwr sydd wedi gweithio iddynt am 12 mis neu ragor. Os na wneir hynny, mae'r diswyddo'n annheg yn awtomatig.
Hyd yn oed os nad oes gennych 12 mis o wasanaeth, bydd y diswyddo'n annheg yn awtomatig oherwydd, er enghraifft:
Mae'n ymarfer da i gyflogwr roi rhesymau dros ddiswyddo. Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl cyfreithlon i ddatganiad ysgrifenedig gan eu cyflogwyr, sy'n nodi pam iddynt gael eu diswyddo, neu pam nad yw eu contractau cyfnod penodol wedi'u hadnewyddu. Fel arfer bydd angen ichi ofyn am hwn (ar lafar neu yn ysgrifenedig), a dylech ei gael gan eich cyflogwr o fewn 14 diwrnod i ofyn amdano.
Does gan y canlynol ddim hawl i gael rheswm ysgrifenedig:
Mae gan ferch a ddiswyddir a hithau'n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth hawl i gael rhesymau ysgrifenedig beth bynnag a does dim ots am ba hyd y mae wedi gweithio i'r cyflogwr. (Mae'r un peth yn wir ar gyfer person a ddiswyddir ac sydd ar absenoldeb mabwysiadu.)
Os oes gennych yr hawl hwn a'ch cyflogwr yn gwrthod rhoi rheswm ichi dros eich diswyddo, neu os na theimlwch fod y rheswm a roddwyd yn un iawn, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch ddefnyddio trefn gwyno'r cwmni i ddechrau i gwyno (ond does dim rhaid i chi wneud hynny).
Os teimlwch i'ch diswyddiad fod yn annheg, gallwch ystyried hawlio am ddiswyddo annheg.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.