Pan fyddwch chi'n gorffen mewn swydd, fel arfer, dylech roi neu gael rhybudd. Cewch wybod yma faint o rybudd y dylech chi neu eich cyflogwr ei roi, pa reolau sydd ynghylch y tâl y dylech ei dderbyn a'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau eraill.
Onid yw'ch contract yn dweud fel arall, gellir rhoi rhybudd ar lafar neu'n ysgrifenedig, er doeth fyddai ei gadarnhau o leiaf yn ysgrifenedig.
Bydd maint y rhybudd, fel arfer, wedi'i nodi yn eich contract gyda'ch cyflogwr. Os na, mae amod ymhlyg y dylech roi cyfnod rhesymol o rybudd. Bydd yr hyn sy'n 'rhesymol' yn dibynnu ar ba lefel y mae eich swydd ac ers pryd yr ydych yn gweithio yno.
Os ydych yn 'gyflogai', mae cyfnodau rhybudd statudol sy'n cael eu trin hefyd fel rhan o'r contract (gweler isod).
Y rhybudd statudol lleiaf y mae'n rhaid i chi ei roi yw wythnos os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fis neu fwy. Os yw'ch contract yn nodi mwy o rybudd nag wythnos, rhaid i chi roi'r cyfnod hwnnw.
Beth bynnag y dywed eich contract, rhaid i'ch cyflogwr roi o leiaf y cyfnod rhybudd statudol lleiaf ichi, sy'n dibynnu ar faint yr ydych wedi gweithio iddo.
Felly, er enghraifft, os oes gennych wasanaeth o chwe blynedd a hanner, mae gennych hawl i chwe wythnos o rybudd.
Mae contractau cyfnod penodol yn dod i ben yn awtomatig (heb rybudd) ar ddyddiad olaf y contract. Os yw'r cyflogwr am ddod â'r contract i ben yn gynharach, dylid rhoi rhybudd i'r gweithiwr.
Yn ystod y cyfnod rhybudd, bydd gennych, fel arfer, hawl i'ch tâl a buddiannau (e.e. car cwmni), fel y nodir yn eich contract cyflogaeth.
Mae 'hawl i isafswm cyflog yn ystod y cyfnod rhybudd' sy'n golygu eich bod yn cael eich tâl arferol hyd yn oed pan nad ydych yn y gwaith a'ch contract ddim yn dweud y byddwch yn cael eich talu. Os yw'r hawl hwn yn berthnasol i chi, mae'n golygu eich bod yn cael eich tâl arferol yn ystod y cyfnod rhybudd:
Gallwch gael cymorth ynghylch a yw hyn yn berthnasol i chi gan unrhyw un o'r ffynonellau cymorth a enwir ar ddiwedd yr erthygl hon.
Mae'n bosibl y cewch rybudd gan eich cyflogwr ac y dywedir wrthych am gadw o'r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd. Gelwir hyn yn 'garden leave' ac fe'i defnyddir yn aml i stopio gweithwyr rhag gweithio i gystadleuwyr am gyfnod o amser.
Mae'n ddefnyddiol i'ch cyflogwr oherwydd bod gweithiwr yn y sefyllfa honno'n dal yn rhwym wrth ddyletswyddau'i gontract (e.e. dyletswydd cyfrinachedd) tan ddiwedd y cyfnod rhybudd. Gellir hefyd ofyn iddynt ddod yn ôl i'r gwaith os oes angen. Mae gennych hawl i'ch tâl arferol yn yr amgylchiadau
Mae'r ddyletswydd i roi rhybudd yn rhan o'ch contract. Os nad ydych chi neu'ch cyflogwr yn rhoi'r rhybudd priodol, bydd gyfystyr â thorri contract. Gall hyn ddigwydd:
Mae gan eich cyflogwr hawl i'ch diswyddo heb unrhyw rybudd (diswyddo'n syth) os ydych wedi camymddwyn yn ddifrifol. Yn yr un modd, mae gennych hawl i ymddiswyddo, heb rybudd neu gyda rhybudd, pan fydd eich cyflogwr yn euog o dorri contract mewn modd difrifol (diswyddiad oherwydd ymddygiad y cyflogwr - constructive dismissal).
Os credwch nad oes gan eich cyflogwr sail dros eich diswyddo'n syth, gallwch ddwyn achos gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth am dorri contract. Gallwch hefyd ystyried dwyn achos am ddiswyddo annheg.
Os na roddwch rybudd priodol, byddwch yn torri'ch contract a gallai eich cyflogwr eich siwio am iawndal (er enghraifft, os oedd rhaid iddo dalu mwy i gael rhywun dros dro i wneud eich gwaith).
Os ydych am roi llai na'r rhybudd priodol, ceisiwch ddod i gytundeb gyda'ch cyflogwr ac, os oes modd, cael hwnnw ar bapur.
Gallwch ddewis cytuno i gyfnod rhybudd byrrach os dymunwch, bydd eich cyflogaeth yn dod i ben ar yr amser y cytunir arno, a dim ond am y cyfnod hynny y byddwch yn cael eich talu. Os nad ydych yn cytuno, gallai'ch cyflogwr fod yn torri'r contract a gallech fynd ag ef i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Yn fwy arferol, bydd eich cyflogwr yn rhoi iawndal i chi am beidio â chaniatau ichi fwrw'r cyfnod rhybudd llawn - gelwir hyn yn 'dâl yn lle rhybudd diswyddo'.
Tâl yn lle rhybudd diswyddo yw arian a delir i chi yn lle cael eich cyfnod rhybudd llawn. Gall gael ei bennu naill ai yn y contract fel opsiwn i'ch cyflogwr neu gellir ei dalu dim ond er mwyn gwarchod y cyflogwr rhag y posibilrwydd o orfod talu iawndal am dorri contract.
Os oes cymal tâl yn lle rhybudd diswyddo yn eich contract, bydd y swm a gewch yn cael ei nodi yno fel arfer. Os na, chi ddylai gytuno ar swm, weithiau efallai y byddwch yn fodlon derbyn swm bychan os yw gadael yn gynnar o fantais i chi.
Fel arfer bydd y swm a gewch yn cynnwys popeth y byddech wedi'i ennill yn ystod eich cyfnod rhybudd. Fel arfer bydd hyn yn cynnwys eich tâl sylfaenol a gall gynnwys pethau eraill megis comisiwn, a iawndal am golli buddiannau megis defnydd personol o gar cwmni neu ffôn, neu yswiriant meddygol.
Neu efallai y bydd eich cyflogwr yn penderfynu rhoi'r defnydd o fuddiannau megis car cwmni ichi am y cyfnod rhybudd. Os nad ydych yn teimlo bod y swm y mae'r cyflogwr yn ei gynnig i chi gymaint â'r hyn y byddech wedi'i ennill, gallwch barhau i ystyried dwyn achos o dorri contract.
Efallai fod eich cyflogwr am roi terfyn ar eich cyflogaeth, ond nad yw'n gallu rhoi iawndal i chi oherwydd ei fod yn ansolfent. Gall yr erthygl isod helpu.
Os ydych yn gweithio'ch cyfnod rhybudd, byddwch yn cael eich trethu ar y gyfradd arferol ar yr arian y byddwch yn ei ennill yn ystod eich cyfnod rhybudd.
Mae'r 'tâl yn lle rhybudd diswyddo' yn drethadwy dim ond os darperir ar ei gyfer yn eich contract neu os yw'n arferol. Fel arall, nid yw'n drethadwy onid yw'r 'tâl yn lle rhybudd diswyddo' ynghyd ag unrhyw dâl dileu swydd a iawndal arall yn dod i dros £30,000 ac, os bydd, bydd y swm dros £30,000 yn drethadwy ar y gyfradd arferol.
Os nad ydych wedi cael rhybudd priodol (er enghraifft, os dywedir wrthych fod eich cyflogaeth yn terfynu'n syth), dylech ofyn am dâl yn lle rhybudd diswyddo. Rhowch eich cais ar bapur, neu o leiaf gadarnhau unrhyw alwadau ffôn a wnaethpwyd ar bapur. Os ydych wedi gweithio i'r cyflogwr am flwyddyn o leiaf, gallech hefyd ofyn iddo am resymau ysgrifenedig dros eich diswyddiad.
Fel arfer dylech gyflwyno cwyn ysgrifenedig i'ch cyflogwr a rhoi cyfle iddynt ddatrys y broblem cyn dwyn achos o dorri contract yn eu herbyn.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Mynnwch gyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Cynghori ynghylch colli gwaith
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.