Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trosglwyddo a meddiannu busnes (TUPE)

Os bydd y busnes yr ydych yn gweithio iddo yn newid dwylo, bydd angen i chi wybod sut y bydd hynny'n effeithio arnoch chi. Cael gwybod beth fydd e'n olygu i chi os bydd y busnes yn trosglwyddo i gyflogwr newydd, a chyfrifoldebau'ch cyflogwr i ymgynghori gyda chi.

Beth mae'n ei olygu

Os yw'r busnes yr ydych yn gweithio iddo yn newid dwylo, mae eich telerau ac amodau wedi'u diogelu dan y gyfraith - Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (TUPE). Bydd telerau ac amodau eich contract cyflogaeth presennol trosglwyddo’n awtomatig gyda'ch cyflogwr newydd. Golygir hyn byddwch fel arfer yn parhau i weithio am y cyflogwr newydd fel o’r blaen.

Sut y diogelir eich hawliau cyflogaeth eraill

Yn ogystal â'ch telerau ac amodau, diogelir hawliau cyflogaeth eraill hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw wyliau yr ydych wedi'u cronni ac unrhyw hawliadau yr ydych wedi'u gwneud yn erbyn y cyflogwr gwreiddiol (e.e. dan gyfreithiau gwahaniaethu).

Os nad ydych chi'n awyddus i weithio i'r cyflogwr newydd

Gallwch wrthod gweithio i'r cyflogwr newydd. Rhaid ichi roi gwybod i'ch cyflogwr presennol neu'r darpar gyflogwr eich bod yn gwrthwynebu'r trosglwyddo. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ymddiswyddo ar eich rhan chi ac allwch chi ddim hawlio ichi gael eich diswyddo'n annheg na chael tâl dileu swydd.

Beth sy'n digwydd os ydych yn cael eich cyflogi gan gonractwr?

Os ydych yn cael eich cyflogi gan gontractwr (e.e. mewn swydd arlwyo neu lanhau) sy'n colli contract i gontractwr arall, dylech ddod i'r gwaith fel arfer, oni ddywedir fel arall wrthych. Fel arfer byddwch chi a'ch contract cyflogaeth yn trosglwyddo'n awtomatig i'r contractwr llwyddiannus.

Os canfyddwch nad oes swydd ichi, gallwch ystyried dwyn achos o ddiswyddo annheg yn erbyn y ddau gyflogwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai hefyd y gallwch ddwyn achos am beidio ag ymgynghori cyn trosglwyddo o dan TUPE.

Hawl i ymgynghoriad

Rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr y gweithwyr ynghylch y trosglwyddo. Y rhain fydd naill ai swyddogion yr undebau llafur (os oes gennych undeb) neu gynrychiolwyr y gweithwyr a etholir fel arfer gan y gweithwyr.

Rhaid i chi gael gwybod:

  • pryd a pham fod y busnes yn cael ei drosglwyddo
  • beth fydd yr effaith ar y gweithwyr
  • a fydd unrhyw fesurau megis ad-drefnu'n digwydd, a sut y byddant yn effeithio arnoch

Rhaid rhoi'r wybodaeth mewn da bryd a rhaid i'r ymgynghori ddigwydd gyda'r nod o ddod i gytundeb. Os bwriedir ad-drefnu, gall eich cynrychiolydd gyflwyno'ch safbwyntiau chi. Rhaid i'ch cyflogwr ymateb i'r rhain a dweud pam os yw'n eu gwrthod.

Gall eich cynrychiolydd gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth os nad yw'r cyflogwr yn hysbysu'r gweithwyr ac yn ymgynghori. Dylai'r guyn lwyddo onid oedd amgylchiadau eithriadol yn atal eich cyflogwr rhag hysbysu ac ymgynghori (er enghraifft, digwyddiadau y tu hwnt i'w reolaeth).

Beth fydd yn digwydd os cewch eich diswyddo oherwydd bod y busnes yn cael ei drosglwyddo

Os cewch eich diswyddo mewn cysylltiad â'r trosglwyddo, mae hynny'n annheg yn awtomatig onid oes yr hyn a elwir yn rheswm 'economaidd, technegol neu drefniadol (ETO)' sy'n golygu newidiadau (h.y. mewn niferoedd neu rolau) yn y gweithlu. Mae dileu swydd yn enghraifft o reswm o'r fath.

Hawliau i daliadau dileu swydd

Ar ôl i'r trosglwyddiad ddigwydd, efallai y bydd eich cyflogwr newydd am leihau nifer y gweithwyr. Os ydych wedi'ch dewis i adael, neu os cewch eich diswyddo am reswm economaidd neu dechnegol, efallai y bydd gennych hawl i gael tâl dileu swydd.

Pensiynau

Mae eich hawliau pensiwn galwedigaethol (cwmni) yr ydych wedi'u cronni hyd at amser unrhyw drosglwyddo wedi'u diogelu gan y gyfraith. Os cynigiodd eich hen gyflogwr ichi ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol yn syth cyn y trosglwyddo, rhaid i'ch cyflogwr newydd gynnig i chi ymuno naill ai â

  • cynllun pensiwn galwedigaethol a fydd yn gorfod bodloni rhai amodau; neu
  • cynllun pensiwn rhanddeiliaid lle bydd y cyflogwr newydd yn talu o leiaf swm cyfatebol i gyfraniadau'r gweithwyr hyd at 6 y cant o enillion pensiynadwy

Os mai cynllun cyfraniadau penodol a gynigir, rhaid i'ch cyflogwr newydd dalu swm cyfatebol i gyfraniadau'r gweithiwr hyd at 6 y cant o dâl pensiynadwy.

Beth i'w wneud nesaf

Unwaith y bydd y busnes wedi'i drosglwyddo, sicrhewch eich bod yn cael datganiad cyflogaeth ysgrifenedig cyfredol. Dylai hwn roi enw'ch cyflogwr newydd a dweud nad yw eich telerau ac amodau wedi newid.

Peidiwch â dychryn os cewch P45 - yn aml y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw bod eich cofnodion treth yn cael eu diweddaru, nid eich bod allan o waith.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU