Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd eich swydd yn cael ei therfynu dros dro. Yma, cewch wybod beth y mae hyn yn ei olygu a sut y byddwch yn cael eich talu yn yr amgylchiadau hyn.
Os nad oes gan eich cyflogwr ddigon o waith i chi, gallant ddweud wrthych am aros gartref. Os ydych o'r gwaith am o leiaf un diwrnod gwaith llawn, dyma derfynu cyflogaeth dros dro.
Efallai y bydd gan eich cyflogwr ddigon o waith i'ch rhoi ar amser-byr. Mae hyn yn golygu bod eich oriau gwaith yn cael eu torri.
Sefyllfa dros dro yw hyn - os nad oes eich angen mwyach i wneud eich gwaith, mae hyn yn cael ei ystyried yn ddileu swydd. Dan rai amgylchiadau gallwch wneud cais i ddod â'ch swydd i ben unwaith y bydd eich cyflogaeth wedi'i therfynu am gyfnod penodol
Nid oes gan gyflogwyr yr hawl gyffredinol i derfynu cyflogaeth gweithwyr heb dalu. Er bod gan eich cyflogwr fel arfer yr hawl i ddweud wrthych am beidio â dod i'r gwaith, mewn sawl achos bydd yn rhaid iddynt barhau i dalu eich cyflog llawn ichi.
Does dim terfyn uchaf i'r amser y gellir parhau i derfynu'ch cyflogaeth dros dro neu ostwng eich oriau gwaith, ond mae gan weithwyr sydd ond yn cael eu talu am y gwaith y maent wedi'i wneud hawl i adael a hawlio tâl dileu swydd ar ôl cyfnod penodol o amser (gweler isod).
Os yw'ch cyflogwr yn bod yn gwbl afresymol wrth derfynu'ch cyflogaeth dros dro, gallwch ystyried ymddiswyddo a hawlio diswyddiad oherwydd ymddygiad y cyflogwr (constructive dismissal). Dyma sefyllfaoedd lle y gallai hyn ddigwydd:
Dylech gael eich talu'n llawn onid yw'n rhan o'ch contract y gall eich cyflogwr derfynu'ch cyflogaeth dros dro heb gyflog (neu ar gyflog llai). Dylech gofio y gall rhywbeth fod yn rhan o'ch contract:
Os nad yw'n rhan o'ch contract, gallwch gytuno i newid eich contract os dymunwch (er enghraifft, efallai bod cyfnod o derfynu cyflogaeth dros dro yn well i chi na bod eich swydd yn cael ei dileu). Os ydych yn cytuno i newid eich contract i ganiatáu terfynu'ch cyflogaeth dros dro heb dâl, fe'ch cynghorir i ysgrifennu'r cytundeb ar bapur, gan nodi'n glir am faint y bydd y cytundeb yn para ac a allwch chi newid eich meddwl.
Beth bynnag y mae'ch contract yn ei ddweud, pan derfynir eich cyflogaeth dros dro bydd gennych hawl i gael eich talu pa un bynnag o'r canlynol sydd fwyaf:
Y tâl gwarant statudol yw'r lleiafswm y dylid ei dalu i chi pan derfynir eich cyflogaeth dros dro. Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Gwarant Statudol:
Gwneir taliadau gwarant am uchafswm o bum niwrnod mewn unrhyw gyfnod treigl o dri mis. Ar ôl y cyfnod hwnnw, dylech eu cael am bum niwrnod arall. Os ydych fel arfer yn gweithio llai na pum niwrnod yr wythnos, byddwch yn cael eich talu am y diwrnodau yn eich wythnos waith arferol.
Cyfrifir y taliadau gwarant drwy luosi nifer yr oriau gwaith arferol ar gyfer y diwrnod dan sylw gyda'ch tâl cyfartalog yr awr. Byddwch yn derbyn eich cyfradd ddyddiol neu'r terfyn uchaf o £20.40, pa un bynnag sydd leiaf. Golyga hyn bod y rhan fwyaf o bobl yn cael y terfyn uchaf o £20.40 y dydd.
Pan fydd y Tâl Gwarant wedi dod i ben, dylech fynd i'ch Canolfan Gwaith i holi am fudd-daliadau.
Os bydd eich cyflogwr yn terfynu'ch cyflogaeth dros dro, edrychwch i weld a gaiff wneud hyn dan eich contract neu yn unol ag arferiad. Os ydych yn cytuno i newid eich contract er mwyn caniatáu i'ch cyflogwr derfynu'ch cyflogaeth dros dro, gallwch wneud hynny. Opsiwn arall yw cytuno i gymryd rhywfaint o wyliau blynyddol yn ei le.
Os oes gan eich cyflogwr hawl i derfynu'ch cyflogaeth dros dro, sicrhewch fod eich cyflogwr yn gwybod y dylai roi Tâl Gwarant Statudol i chi. Os nad oes ganddo hawl, dylech gael eich tâl yn llawn (oni chytunwch i lai).
Os bydd eich cyflogwr yn terfynu'ch cyflogaeth dros dro heb dâl, a chithau o'r farn nad oes ganddo hawl i wneud hynny, neu os na fydd yn rhoi Tâl Gwarant ichi, gallwch fynd â'r mater gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon). Gall peidio â thalu am arian sy'n ddyledus i chi fod yn ddidyniad anghyfreithlon o gyflog.
Unwaith y bydd eich cyflogaeth wedi'i therfynu am gyfnod, dylech ystyried a ydych am adael a hawlio tâl dileu swydd.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.