Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich hawliau os yw eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr

Os yw eich cyflogwr wedi mynd yn ansolfent, bydd gennych sawl dewis. Mae'r erthygl hon yn nodi beth i'w wneud os oes ar gyflogwr ansolfent arian i chi a sut mae ansolfedd yn effeithio ar eich statws cyflogaeth.

Beth yw ansolfedd?

Pan fo cyflogwr yn ansolfent, nid oes ganddo arian i dalu'i ddyledion yn llawn i bobl ac mae'n rhaid iddo wneud trefniadau arbennig i geisio talu'r dyledion hyn. Fel arfer, penodir ymarferydd ansolfedd neu dderbynnydd swyddogol i ddelio gyda'r ansolfedd.

Mathau o ansolfedd

Mae gwahanol enwau ar wahanol fathau o ansolfedd, ac ar gyfer y bobl sy'n ymdrin â'r rheini:

  • os mai cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yw'ch cyflogwr, mae ansolfedd yn golygu gweinyddiad, diddymiad, mynd i law'r derbynnydd, neu drefniant gwirfoddol gyda chredydwyr
  • os mai unigolyn sy'n eich cyflogi, mae ansolfedd yn golygu methdaliad (secwestru yn yr Alban) neu drefniant gwirfoddol gyda chredydwyr

Gellir cyfeirio at yr ymarferydd ansolfedd yn ôl un o'r termau canlynol yn dibynnu ar y math o ansolfedd:

  • gweinyddwr
  • diddymwr
  • derbynnydd
  • goruchwyliwr (trefniant gwirfoddol)
  • ymddiriedolwr (mewn methdaliad)

Sut i hawlio

Fel arfer, bydd yr ymarferydd ansolfedd yn anfon y ffurflenni priodol atoch ar gyfer hawlio unrhyw arian sy'n ddyledus i chi. Os na fydd hyn yn digwydd, ysgrifennwch at yr ymarferydd ansolfedd yn nodi beth yr ydych yn ei hawlio. Dylent ddweud wrthych sut i hawlio'r taliadau gan y Swyddfa Taliadau Dileu Swydd a Chyllid a Thollau EM.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r ymarferydd ansolfedd, edrychwch yn 'Beth i'w wneud nesaf' a 'Ble mae cael cymorth' isod.

Does dim sicrwydd mewn achos o ansolfedd y bydd yr holl ddyledion yn cael eu talu'n llawn. Dyna pam y mae trefniadau arbennig i sicrhau eich bod yn derbyn isafswm sylfaenol y dyledion sy'n ddyledus i chi gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.

Dylai gweithwyr yng Ngogledd Iwerddon gysylltu â'r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd ar rhadffôn 0800 585 811.

Pwy fydd yn talu ichi?

Swyddfeydd Taliadau Dileu Swydd y Gwasanaeth Ansolfedd sy'n gyfrifol am dalu'r hawliadau canlynol:

  • tâl dileu swydd
  • cyflogau (gan gynnwys dyfarniadau gwarchodol)
  • tâl gwyliau
  • tâl rhybudd
  • dyfarniad sylfaenol am ddiswyddo annheg
  • cyfraniadau pensiwn heb eu talu

Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am yr hawliadau canlynol (am hawliadau sy'n parhau ar ôl dyddiad yr ansolfedd) a gellir cael y ffurflenni hawlio gofynnol ar eu cyfer mewn unrhyw Ganolfan Gwaith:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth
  • Tâl Tadolaeth
  • Tâl Mabwysiadu

Beth y gallwch ei hawlio

  • dileu swydd (gweler yr adran ar ddileu swydd isod)
  • cyflog - hyd at uchafswm o wyth wythnos
  • tâl gwyliau - hyd at uchafswm o chwe wythnos
  • tâl rhybudd i ddigolledu - wythnos ar ôl gwasanaeth o un mis calendr yn codi i wythnos am bob blwyddyn o wasanaeth hyd at uchafswm o 12 wythnos (bydd enillion newydd yn cael eu hystyried)

Mae'r holl daliadau'n rhwym wrth uchafswm o £330 am wythnos o gyflog (£350 o 1 Chwefror 2009).

Dim ond os sicrheir digon o gronfeydd arian o asedau'r cwmni ar ôl i'r Gronfa Yswiriant Gwladol dalu y bydd unrhyw dâl sy'n parhau'n ddyledus yn cael ei gynnig.

Bydd rhai dyledion, gan gynnwys cyflogau a thâl gwyliau (hyd at bedwar mis o gyflog neu £800 - pa un bynnag yw'r lleiaf), yn cael eu hystyried yn 'ddyledion blaenoriaethol' pan fydd asedau'ch cyflogwr yn cael eu rhannu - sy'n golygu bod rhaid talu'r rhain cyn mathau eraill o ddyledion.

Beth mae 'tâl' yn ei gynnwys

Mae 'tâl' yn cynnwys comisiwn, goramser a thaliadau gwarant. Mae hefyd yn cynnwys taliadau statudol ar gyfer amser o'r gwaith, neu atal pobl o'u gwaith ar sail feddygol neu feichiogrwydd.

O ba ddyddiad y cyfrifir y taliadau?

Cyfrifir tâl gwyliau a chyflogau hyd at ddyddiad yr ansolfedd. Cyfrifir tâl dileu swydd a thâl rhybudd naill ai o'r dyddiad y daeth eich cyflogwr yn ansolfent yn ffurfiol neu pan ddaeth eich cyflogaeth i ben - pa un bynnag oedd olaf.

Pensiynau

Os ydych chi a gweithwyr eraill wedi bod yn talu i gynllun pensiwn yn y gwaith, gall ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am i rywfaint o gyfraniadau eich cyflogwr nad ydynt wedi'u talu gael eu talu i'r cynllun.

Dileu swydd

Os yw'ch cyflogwr yn ansolfent ac yn dileu eich swydd, efallai y gallwch hawlio tâl dileu swydd statudol.

I fod yn gymwys ar gyfer y taliad, rhaid i chi fodloni'r amodau hyn:

  • bod wedi'ch cyflogi'n ddi-dor gan eich cwmni am ddwy flynedd neu fwy
  • bod wedi gwneud cais ysgrifenedig i'ch cyflogwr neu fod wedi gwneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddyfarniad, o fewn chwe mis i'ch swydd ddod i ben

Trosglwyddo busnes ansolfent

Hyd yn oed os na all eich cyflogwr eich talu, efallai y bydd yn dymuno i chi barhau i weithio iddo tra'i fod yn ceisio gwerthu'r busnes. Os penderfynwch aros ymlaen a'i fod yn llwyddiannus, mae'r gyfraith yn diogelu'ch contract cyflogaeth, gan gynnwys unrhyw dâl sy'n ddyledus i chi.

Os byddwch yn parhau i weithio, a busnes eich cyflogwr yn cael ei drosglwyddo, mae'r perchennog newydd yn ysgwyddo'r ddyletswydd i dalu'r hyn sy'n ddyledus ichi.

Terfynu cyflogaeth dros dro (lay off)

Mae'n bosibl nad yw eich cyflogwr yn ansolfent yn swyddogol ond na all eich talu serch hynny. Mewn achos o'r fath, efallai y bydd yn gorfod eich anfon adref neu eich rhoi ar wythnos waith fer.

Gweithio i weinyddwr, derbynnydd neu ddiddymwr

Weithiau mae'n bosibl y bydd yr ymarferydd ansolfedd yn dal ati gyda'r busnes os, er enghraifft, bod siawns y gellir cael rhywfaint neu'r cyfan o'r busnes yn ôl ar ei draed, neu ei werthu i berchennog newydd. Os digwydd hyn efallai y gofynnir ichi barhau i weithio. Nid effeithir ar eich hawliau i dâl ansolfedd os bydd y cwmni'n cau'n ddiweddarach.

Beth i'w wneud nesaf

Os yw'r busnes yr ydych yn gweithio iddo wedi cau, bydd angen i chi ganfod a yw eich cyflogwr yn ansolfent neu mewn trafferthion yn unig. Mae Tŷ'r Cwmnïau yn cadw manylion masnachu ar ei gofrestr cwmnïau, a gallwch gael gwybodaeth am bobl sydd wedi'u dyfarnu'n fethdalwyr gan y Gwasanaeth Ansolfedd. Yng Ngogledd Iwerddon, cedwir y wybodaeth hon gan y Gofrestrfa Cwmnïau.

Os yw'r cwmni'n dal i fasnachu ond nad ydych chi'n cael eich talu, efallai y gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth fod didyniad anghyfreithlon wedi'i wneud o'ch tâl.

Os ydych yn anghytuno â'r swm a gawsoch o'r Gronfa Yswiriant Gwladol, gallwch fynd â'r mater at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble mae cael cymorth

I wneud ymholiadau cyffredinol ynghylch ansolfedd, ffoniwch Linell Gymorth y Gwasanaeth Ansolfedd ar 020 602 9848 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). I wneud ymholiadau am ddileu swyddi, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd ar 0845 145 0004 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Neu gallwch lenwi ffurflen ymholiad ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd.

I wneud ymholiadau am ddileu swyddi yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi ar rhadffôn 0800 585 811.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Gynghori ynghylch amodau eich contract

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU