Mae gan gyflogwr ddwy ffordd o ymgynghori â chi ynghylch dileu swydd:
Os yw'ch cyflogwr yn bwriadu dileu swyddi 20 neu fwy o weithwyr o fewn cyfnod o 90 diwrnod, dylai ymgynghori â'ch undeb llafur (neu gynrychiolydd etholedig y gweithwyr os nad oes gennych undeb) cyn y rhoddir rhybudd i neb.
Dylai'r ymgynghori gynnwys ffyrdd o osgoi sefyllfa o ddileu swyddi, a sut i gadw'r nifer a ddiswyddir cyn ised â phosibl a lleihau i'r eithaf yr effeithiau ar y rhai a ddiswyddir (e.e. drwy gynnig ailhyfforddiant). Dylai hyn ddigwydd o leiaf 30 diwrnod cyn y bydd y swyddi'n cael eu dileu neu 90 diwrnod os effeithir ar fwy na 100 o weithwyr.
Os na fydd hyn yn digwydd, gallwch chi (neu eich cynrychiolydd) fynd â'ch cyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth, a all ddyfarnu hyd at 90 diwrnod o dâl yn iawndal i bob gweithiwr.
Dylai eich cyflogwr wastad ymgynghori â chi yn unigol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys:
Os na fydd hyn yn digwydd, gall eich diswyddiad yn sgîl dileu swydd fod yn annheg.
Os oes gennych amheuon ynghylch y ffordd y mae'ch cyflogwr wedi cyfrifo'ch tâl dileu swydd statudol, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd ar 0845 1450 004