Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am ddwy flynedd o leiaf a bod eich swydd yn cael ei dileu, mae'n bosib y bydd gennych hawl i dâl dileu swydd. Bydd faint mae gennych hawl iddo yn seiliedig ar eich tâl wythnosol, eich oed a'ch cyflogaeth ddi-dor gyda'ch cyflogwr.
Mae gennych hawl i dâl dileu swydd os ydych yn gyflogai sydd wedi gweithio'n ddi-dor i'ch cyflogwr am ddwy flynedd o leiaf a bod eich swydd yn cael ei dileu.
Caiff tâl dileu swydd ei dalu hefyd pan fydd contract cyfnod penodol o ddwy flynedd neu fwy yn dod i ben ac nad yw'n cael ei adnewyddu oherwydd achos o ddileu swydd.
Does dim rhaid i chi hawlio tâl dileu swydd gan eich cyflogwr - dylai eich cyflogwr ei dalu i chi'n awtomatig. Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi tâl dileu swydd i chi a chithau â hawl iddo, dylech ysgrifennu ato yn gofyn am dâl. Os yw'ch cyflogwr yn dal i wrthod talu neu os na all wneud y taliad gallech wneud apêl i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Nid oes gennych hawl i dâl dileu swydd os yw'ch cyflogwr yn cynnig parhau i'ch cyflogi, neu'n cynnig gwaith arall addas i chi, a chithau'n ei wrthod heb reswm da. Os byddwch yn gadael eich swydd am un newydd cyn diwedd eich cyfnod rhybudd, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich tâl hefyd.
Gallwch hawlio tâl dileu swydd gan eich cyflogwr os yw wedi terfynu'ch cyflogaeth dros dro am fwy na phedair wythnos yn olynol (neu chwe wythnos heb fod yn olynol mewn cyfnod o 13 wythnos). Dylech ysgrifennu at eich cyflogwr yn dweud wrtho eich bod yn bwriadu hawlio tâl dileu swydd. Rhaid gwneud hyn o fewn pedair wythnos i'r diwrnod diwethaf i chi beidio â gweithio yn y cyfnod pedair neu chwe wythnos.
O fewn saith niwrnod i gael eich llythyr, gallai eich cyflogwr anfon gwrth-rybudd atoch os yw'n credu bod eich gwaith arferol yn debygol o ddechrau o fewn pedair wythnos a pharhau am o leiaf 13 wythnos. Os nad yw'ch cyflogwr yn gwrthod eich cais o fewn saith niwrnod i'w gael, dylech ysgrifennu at eich cyflogwr eto yn rhoi eich rhybudd iddo.
Yn ogystal â sicrhau eich bod yn cael tâl dileu swydd, dylai eich cyflogwr hefyd sicrhau eich bod yn cael tâl drwy eich cyfnod rhybudd, neu daliad yn lle rhybudd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Arian a delir i chi gan eich cyflogwr yn lle eich rhybudd llawn yw tâl yn lle rhybudd. Bydd manylion y cyfnod rhybudd yn eich contract.
Pan delir tâl dileu swydd i chi rhaid i'ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi yn dangos sut mae'ch taliad wedi cael ei gyfrifo. Os nad yw'ch cyflogwr yn rhoi datganiad ysgrifenedig i chi dylech ysgrifennu ato i ofyn am un. Os nad yw'n darparu un ar ôl hynny, dylech geisio cyngor pellach gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas).
Os caiff eich cyflogwr ei wneud yn ansolfent neu os na all dalu eich tâl dileu swydd, gallwch wneud cais am daliad uniongyrchol gan y Gronfa Yswiriant Gwladol. I wneud hyn, yn gyntaf oll, rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogwr yn gofyn am eich tâl dileu swydd. Os yw'n dal yn methu eich talu dylech lenwi ffurflen RP1 sydd ar gael gan y Gwasanaeth Ansolfedd.
Nid oes gan rai cyflogeion hawl i gael taliadau dileu swydd. Mewn rhai sefyllfaoedd penodol gallai cyflogeion a ddylai fel arfer fod â hawl i dâl dileu swydd golli'r hawl hon gyda'u cyflogwr.
Os ydych chi'n wynebu colli eich swydd, efallai y dewch o hyd i swydd newydd yn rhywle arall cyn i'ch rhybudd dileu swydd ddod i ben. Os byddwch yn gadael y swydd sy'n cael ei dileu cyn i'ch cyfnod rhybudd ddod i ben, mae'n bosib y byddwch yn colli eich hawl i dâl dileu swydd.
Os cewch eich diswyddo am gamymddwyn:
Ni fyddai gennych hawl i dâl dileu swydd. Fodd bynnag, mae'n dal yn ofynnol i'ch cyflogwr ddilyn trefniadau diswyddo teg, fel arall, efallai y gallech ddwyn achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Dim ond mewn achosion o gamymddwyn difrifol y mae'r sefyllfa hon yn debygol o godi.
Os byddwch yn mynd ar streic yn ystod cyfnod dileu swyddi mae'r hawliau o ran dileu swydd yn dal yn berthnasol i chi. Fodd bynnag, gallai eich cyflogwr roi 'rhybudd o estyniad', sef cais i chi weithio'r diwrnodau na wnaethoch eu gweithio yn ystod y streic pan ddaw eich rhybudd i ben.
Os nad ydych yn cytuno i weithio'r dyddiau a gollwyd, gallai eich cyflogwr wrthod talu eich tâl dileu swydd.
Os ydych chi'n dod dan un o'r categorïau canlynol nid oes gennych hawl i dâl dileu swydd:
08457 47 47 47
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm
Os gwedir eich hawliau i chi, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor neu gefnogaeth ganddyn nhw hefyd.