Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo rhaid iddo gael rheswm teg dros wneud hynny, e.e. oherwydd eich ymddygiad yn y gwaith. Yma cewch fwy o wybodaeth ynghylch beth sy'n rhesymau teg dros ddiswyddo, a pha hawliau cyflogaeth sydd gennych os cewch eich diswyddo.
Os yw’ch cyflogwr wedi’ch diswyddo oherwydd eich ymddygiad, fel arfer mae’n golygu eich bod wedi torri un neu ragor o delerau’ch cyflogaeth. Er enghraifft:
Dylai eich cyflogwr ddilyn trefn ddisgyblu deg cyn eich diswyddo am gamymddwyn.
Os yw’ch cyflogwr wedi’ch diswyddo ar sail eich gallu, gall olygu nad ydych yn cyrraedd y safon ofynnol neu na allwch wneud eich swydd yn iawn, a hynny efallai oherwydd nad oes gennych y cymwysterau priodol, er enghraifft:
Dylai eich cyflogwr sicrhau eich bod yn cael hyfforddiant digonol i wneud eich swydd. Os ydych yn perfformio'n wael, dylech fel arfer gael rhybudd nad yw eich gwaith yn foddhaol a chael y cyfle i wella cyn y cymerir unrhyw gamau yn eich erbyn.
Os ydych yn absennol oherwydd salwch yn gyson (neu ar absenoldeb salwch tymor hir), fel arfer dylai'ch cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill cyn penderfynu eich diswyddo. Er enghraifft, efallai y dylai ystyried ai'r swydd ei hun sy'n eich gwneud yn sâl ac a oes angen ei newid.
Gallwch dal gael eich diswyddo os ydych ar absenoldeb salwch.
Fel arfer, byddai disgwyl i'ch cyflogwr roi cyfnod rhesymol o amser i chi wella o'ch salwch. Bydd yr union amser yn dibynnu ar bethau megis:
Os oes gennych anabledd (gall hyn gynnwys salwch tymor hir), mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i geisio canfod ffordd o ddatrys y broblem. Rhaid iddo wneud ‘addasiadau rhesymol’ i ble a/neu sut yr ydych yn gweithio. Gall diswyddo oherwydd anabledd fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Math ar ddiswyddo yw dileu swyddi. Caiff swyddi eu dileu pan nad oes digon (neu ddim) gwaith bellach ar gyfer cyflogai mewn cwmni. Os yw’ch swydd yn cael ei dileu, mae gan eich cyflogwr lawer o gyfrifoldebau drosoch chi i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich diswyddo mewn ffordd deg.
Os bydd eich contract cyflogaeth yn dod i ben oherwydd eich bod yn ymddeol, mae hyn yn fath o ddiswyddo. Er mwyn i ymddeoliad fod yn ddiswyddiad teg, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ddilyn y drefn ymddeol gyfreithiol. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i chi gael o leiaf chwe mis o rybudd ymddeol. Os ydych yn dymuno dal ati i weithio ar ôl yr oedran ymddeol, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais.
Os yw’ch cyflogaeth wedi dod i ben neu y bydd yn dod i ben cyn yr oedran ymddeol a nodir yn eich contract cyflogaeth, ni ellir ei ystyried yn ymddeoliad.
Gall eich cyflogwr eich diswyddo os byddai'n torri'r gyfraith wrth barhau i'ch cyflogi – er enghraifft, os ydych yn gyrru yn eich swydd a chithau'n colli'ch trwydded yrru. Byddai disgwyl i'ch cyflogwr geisio dod o hyd i waith arall addas ar eich cyfer cyn dewis eich diswyddo.
Mae’r pwyslais yma ar ‘digonol’. Mae ‘rheswm digonol arall’ yn berthnasol i sefyllfa lle mae gan eich cyflogwr reswm diymwad dros eich diswyddo. Byddai disgwyl i'ch cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill cyn dewis eich diswyddo. Dyma resymau sydd wedi dod o fewn y categori hwn yn y gorffennol: