Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i ddatrys problem yn y gwaith

Os oes gennych chi broblem yn y gwaith mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i geisio'i datrys, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Cyn gweithredu dylech geisio canfod beth yn union yw'r broblem a gwneud yn siŵr nad camgymeriad neu gamddealltwriaeth syml mohoni.

Ceisio datrys y broblem yn anffurfiol

Llinell gymorth Acas

08457 47 47 47
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm

Os penderfynwch fod gennych broblem go iawn, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â'ch rheolwr llinell, yr adran bersonél, cydweithwyr neu undeb llafur i weld a ellir datrys y mater yn anffurfiol. Mae'n syniad da cadw nodiadau, rhag ofn y bydd angen i chi sefydlu beth a drafodwyd yn ddiweddarach.

Gallwch hefyd siarad â chyfreithiwr, ond cofiwch y bydd yn rhaid talu am y gwasanaeth hwn fel arfer, ac efallai nad yw'n angenrheidiol ar y cam cynnar hwn.

Gwneud cwyn ffurfiol

Os na fydd y ffordd anffurfiol gyda'ch cyflogwr yn llwyddiannus, y cam nesaf yn fwy na thebyg fydd gwneud cwyn ffurfiol dan y drefn gwyno (os nad ydych, er enghraifft, wedi'ch diswyddo). Ar hyn o bryd, dylech ddilyn rhai camau sylfaenol statudol, ynghyd ag unrhyw rai eraill y mae'r cyflogwr wedi'u cynnwys yn ei drefn gwyno. Os nad oes gennych gopi o drefn gwyno'ch cyflogwr, gofynnwch am un.

O 6 Ebrill 2009 ymlaen, bydd y camau statudol hyn yn cael eu disodli a bydd Acas yn llunio arweiniad ar beth y dylech chi a'ch cyflogwr ei wneud. Bydd Cod Ymarfer statudol diwygiedig y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn pennu'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â'r hyn y dylai'r cyflogwr a'r cyflogai ei wneud er mwyn cyrraedd safon o ymddygiad sy'n rhesymol.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ni fydd y newidiadau o ran datrys anghydfodau yn berthnasol. I gael gwybod mwy am y trefniadau datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu.

Beth i’w wneud os na allwch chi ddatrys y broblem drwy'r drefn gwyno

Os na fydd y drefn gwyno'n gweithio, rhaid i chi wedyn benderfynu a ydych am fynd â'r mater ymhellach. Cyn i chi wneud hynny, mae'n bwysig deall eich hawliau a beth y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud. Ydy'ch cyflogwr yn torri'r gyfraith neu ai dim ond bod yn galed ac yn ddigydymdeimlad y mae?

Darllenwch yr erthyglau ar y safle hwn sydd debycaf i'ch problem chi. Efallai y byddai o gymorth cael datganiad o'r prif hawliau cyflogaeth sy'n berthnasol i chi. Er enghraifft, os ydy'ch cyflogwr yn ceisio newid patrwm eich shifftiau yn erbyn eich ewyllys, darllenwch yr erthygl ar newidiadau i amodau cyflogaeth.

Ffyrdd eraill o ddatrys problemau

Gallech hefyd roi cynnig ar ffordd arall o ddatrys eich problem, er enghraifft:

  • cyfryngu neu gymodi, lle bydd arbenigwr diduedd yn siarad â'r ddwy ochr ac yn eich helpu i ddod o hyd i ateb
  • cyflafareddu, lle bydd trydydd parti diduedd yn gwneud penderfyniad rhwng y ddwy ochr
  • cytundebau cyfaddawd gyda'ch cyflogwr, sydd fel arfer yn golygu rhoi iawndal am beidio â chyflwyno hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth sy'n gyfreithiol-rwym (neu am dynnu hawliad yn ôl)

Cofiwch nad oes angen i anghydfod yn y gwaith ddatblygu'n achos i Dribiwnlys Cyflogaeth ac y bydd datrys eich problem yn y gwaith mewn ffyrdd eraill, pan allwch chi, yn arbed cryn dipyn o amser, arian a straen i chi.

Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a Llysoedd Sifil

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys eich problem ac nad ydynt wedi gweithio, efallai y gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth (neu Dribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).

Mae Tribiwnlys Cyflogaeth yn debyg i lys anffurfiol sy'n delio ag anghydfodau ym maes hawliau cyflogaeth. Mae Llysoedd Sirol hefyd yn delio â rhai materion sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, megis tor-contract. Dylech hefyd holi a all Tribiwnlys Cyflogaeth ddelio â'ch problem ai peidio cyn penderfynu a yw hynny'n werth y drafferth ac, o bosib, y gost. Cofiwch: dylech gael cyngor bob amser cyn cymryd camau cyfreithiol.

Cyn gwneud eich hawliad, fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddilyn y trefniadau cwyno statudol yn gyntaf. Tan 6 Ebrill 2009, ni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth fel arfer yn derbyn eich achos oni fyddwch wedi cyflwyno cwyn ar bapur ac wedi aros 28 diwrnod cyn cyflwyno'ch hawliad.

Nid yw'r rheol hon yn berthnasol os yw'ch cwyn yn ymwneud â chamau disgyblu neu gwyno, oni bai:

  • eich bod un ai'n meddwl bod y camau disgyblu'n enghraifft o wahaniaethu anghyfreithiol
  • neu nad oedd y sail a ddefnyddiodd eich cyflogwr (ee eich ymddygiad neu'ch gallu) yn wreiddiol dros eich disgyblu yn berthnasol i'r sail a ddefnyddiodd eich cyflogwr i weithredu

Yn y sefyllfaoedd hyn rhaid i chi gyflwyno'r gŵyn ar bapur ac aros 28 diwrnod cyn cyflwyno'ch hawliad i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Dim ond achosion sy'n gysylltiedig â hawliau penodol y gall Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu arnynt, felly sicrhewch eich bod yn gwybod beth yr ydych yn ei hawlio. Er enghraifft, os ydych yn cwyno am beidio â chael eich talu, fe'i gelwir yn 'ddidyniadau anghyfreithlon o gyflog'. Am fwy o wybodaeth darllenwch yr erthyglau ar y safle hwn sydd debycaf i'ch problem chi.

Ble mae cael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

O 6 Ebrill 2009 ymlaen, efallai y gall Acas gynnig gwasanaeth cymodi cyn-hawlio am ddim i chi os oes gennych anghydfod sy'n debygol o droi'n achos Tribiwnlys Cyflogaeth. Dylech gysylltu â llinell gymorth Acas i gael gwybod a fyddai hyn yn addas i chi.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU