Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trefn gwyno: Rhagarweiniad

Gallwch gwyno wrth eich cyflogwr, neu godi problemau gyda'ch cyflogwr, trwy drefn gwyno. Mae camau y bydd angen i chi eu cymryd os oes gennych gŵyn a phethau i'w hystyried wrth ddilyn trefn gwyno.

Pryd i ddefnyddio trefn gwyno

Gallwch godi problemau gyda'ch cyflogwr sy'n gysylltiedig â'r canlynol:

  • eich telerau cyflogaeth
  • tâl ac amodau gwaith
  • anghytundebau gyda chydweithwyr
  • gwahaniaethu
  • peidio â chael eich hawliau cyflogaeth statudol

Trefn gwyno yw un o'r ffyrdd o ddatrys problem yn y gwaith. Fodd bynnag, gallwch geisio cael sgwrs anffurfiol gyda'ch cyflogwyr cyn defnyddio'r drefn gwyno ffurfiol er mwyn gweld a fyddai hynny'n helpu.

Sut i wneud cwyn

Mae'n bosib fod gan eich cyflogwyr eu trefn gwyno eu hunain, dylech ddilyn y drefn hon os gallwch. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr cwmni am fwy o fanylion.

Rhaid cynnwys set o gamau sylfaenol mewn unrhyw drefn gwyno, a elwir yn 'weithdrefnau sylfaenol statudol'. Mae dwy o'r rhain:

  • y 'drefn safonol' - sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd a'r un y dylech ei dilyn os oes modd
  • y 'drefn wedi'i haddasu' - sy'n berthnasol i rai sefyllfaoedd lle mae cyflogaeth wedi dod i ben

Pam y dylech chi ddilyn trefn gwyno

Fel arfer, allwch chi ddim mynd at Dribiwnlys Cyflogaeth (neu Dribiwnlys yng Ngogledd Iwerddon) hyd nes i chi ddilyn y drefn sylfaenol statudol, oni theimlwch y byddwch yn wynebu harasio neu drais o wneud hynny. Efallai y byddwch yn cael dyfarniad llai os oes bai arnoch am beidio â dilyn y drefn.

Dim ond gyda phobl sy'n cael eu diffinio'n 'gyflogeion' y mae'n rhaid defnyddio trefn gwyno statudol, er y gall cyflogwyr eu hymestyn i bobl eraill, e.e. gweithwyr asiantaeth neu achlysurol os ydynt am wneud hynny.

Beth os bydd eich cyflogwr yn eich trin yn annheg am leisio cwyn?

Ddylech chi ddim cael eich diswyddo am leisio cwyn ddidwyll am un o'ch hawliau cyflogaeth statudol (e.e. am wahaniaethu neu am holi a ydych wedi derbyn y cyflog iawn). Ddylech chi ddim ychwaith ddioddef anfantais (e.e. peidio â chael dyrchafiad neu golli goramser) am leisio cwyn ddidwyll ynghylch eich hawliau cyflogaeth. Gallai gwneud y fath gwyn gyfri fel 'chwythu'r chwiban' ac mae'n bosib y gallwch gymryd camau yn erbyn eich cyflogwyr.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Labour Relations Agency (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth ar gyfer preswylwyr Gogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 47 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Trefn gwyno: cael gwybod mwy

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU