Mae cyflogwyr yn defnyddio trefn ddisgyblu i ddweud wrth weithwyr nad yw eu perfformiad neu eu hymddygiad yn unol â'r safon ddisgwyliedig a hefyd i annog gwelliant.
Weithiau trefn gwyno yw'r ffordd orau i'ch cyflogwr ddweud wrthych pan fo rhywbeth o'i le. Mae'n ei alluogi i esbonio'n glir pa welliant sy'n ofynnol a dylai roi cyfle i chi roi eich ochr chi i'r sefyllfa.
Rhaid i'r cyflogwr roi ei drefn gwyno ar bapur a dylai sicrhau ei bod ar gael yn hwylus (er enghraifft drwy roi manylion yn y llawlyfr staff). Dylai gynnwys y rheolau, pa berfformiad ac ymddygiad a allai arwain at gamau disgyblu, a pha gamau y gallai'r cyflogwr eu cymryd.
Yn ôl y gyfraith, rhaid cynnwys set o gamau sylfaenol mewn trefn gwyno - gelwir y rhain yn 'weithdrefnau sylfaenol statudol'. Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo a heb ddilyn y broses hon, os byddwch yn gwneud hawliad o ddiswyddo annheg, bydd y diswyddo fel arfer yn 'annheg yn awtomatig'. Fel arfer byddwch wedi gorfod gweithio i'r cyflogwr am o leiaf blwyddyn cyn y gallwch hawlio eich bod wedi'ch diswyddo'n annheg.
Yn ychwanegol at y gweithdrefnau sylfaenol statudol, mae camau eraill y byddai disgwyl i gyflogwr eu cymryd er mwyn bod yn rhesymol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) a'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA, Gogledd Iwerddon) wedi cyhoeddi cod ymarfer ar y drefn ddisgyblu. Allwch chi ddim mynd â'ch cyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) dim ond am nad yw wedi dilyn y cod, ond os gwnewch chi hawliad am ddiswyddo annheg, gellir rhoi ystyriaeth i'r cod.
Os oes gan eich cyflogwr drefn ddisgyblu sy'n ffurfio rhan o'ch contract, gallwch wedyn siwio am dor-contact os na fydd yn ei dilyn.
Yn ystod trefn ddisgyblu, os bydd eich cyflogwr yn gwneud rhywbeth sy'n ymddangos yn afresymol, dylech ddweud wrthynt (ar bapur) ac awgrymu ffyrdd o ddatrys y broblem. Efallai y bydd yn penderfynu bwrw ymlaen beth bynnag, ac felly gallech benderfynu defnyddio'r mater fel sail ar gyfer apelio.
Os byddwch yn wynebu camau disgyblu ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch bob amser gael cyngor am eich hawliau. Mae Acas a'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol yn darparu cyngor di-dâl a diduedd, ac efallai y gallwch gael cymorth gan undeb os ydych yn aelod.
Cyn cymryd camau disgyblu ffurfiol, efallai y bydd eich cyflogwr yn ceisio codi'r mater yn anffurfiol gyda chi i ddechrau. Dyma ffordd dda yn aml o ddatrys problem yn gyflym.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.