Ail gam y drefn ddisgyblu yw i'ch cyflogwr drefnu cyfarfod gyda chi i drafod y materion a godwyd ganddynt. Dylech fod yn ymwybodol bod y drefn hon yn newid o 6 Ebrill 2009 ymlaen.
Pan fydd eich cyflogwr wedi dilyn y cam cyntaf yn y drefn ddisgyblu sylfaenol statudol ac wedi anfon llythyr ysgrifenedig atoch yn nodi beth sydd wedi gwneud iddynt ystyried cymryd camau disgyblu, dylent drefnu cyfarfod.
Rhaid i'r cyfarfod (neu'r 'gwrandawiad') ddigwydd cyn y cymerir unrhyw gamau disgyblu. Os nad yw'ch cyflogwr wedi esbonio'r rhesymau dros eich disgyblu yn y llythyr, rhaid iddo esbonio hyn cyn y cyfarfod.
Dylai'r cyfarfod:
Os teimlwch nad oes gennych ddigon o amser i baratoi, gofynnwch i'ch cyflogwr am ragor o amser. Nid oes lleiafswm penodol o amser y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei roi ond dylai sicrhau eich bod yn gwybod beth yw pwrpas y cyfarfod (a pheidio â dweud 'dewch i fy swyddfa am sgwrs').
Mae gennych hawl i fynd â rhywun gyda chi i’r cyfarfod. Gall fod yn gydweithiwr neu'n gynrychiolydd o undeb llafur. Os nad ydych yn aelod o undeb, ac os nad oes cydweithiwr yn fodlon dod gyda chi, cewch ofyn am gael dod â rhywun arall. Os nad yw hyn yn rhywbeth y cytunir arno yn eich contract, gall eich cyflogwr wrthod.
Gall eich cydymaith gymryd nodiadau a siarad yn eich lle, ond ni chaiff ateb cwestiynau ar eich rhan.
Os na all eich cydymaith ddod i'r cyfarfod, er enghraifft oherwydd salwch, rhaid i'ch cyflogwr ohirio'r cyfarfod am hyd at bum niwrnod. Os bydd yn gwrthod, gallech ystyried mynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawl i gael rhywun gyda chi yn adran tri Cod Ymarfer Acas.
Cyn y cyfarfod, dylech fel arfer gael copïau o unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig gan eich cyflogwr. Dylech, ym mhob achos, gael eich hysbysu o natur yr achos yn eich erbyn. Fe allai eich cyflogwr adael i chi holi unrhyw dystion yn ystod y cyfarfod, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny. Fe allai eich cyflogwr ddewis peidio â datgelu pwy yw'r tyst. Efallai y gwnaiff eich cyflogwr adael i chi ddod â'ch tystion eich hun hefyd.
Paratowch yn ofalus, gan ateb unrhyw bwyntiau a godwyd yn y datganiad neu mewn esboniad pellach gan eich cyflogwr. Gallwch ysgrifennu'r hyn y mae arnoch eisiau ei ddweud a'i ddarllen yn y cyfarfod.
Yn y cyfarfod, bydd y cyflogwr yn esbonio'r gŵyn ac yn mynd drwy'r dystiolaeth; gallwch chithau wedyn roi eich safbwynt chi.
Dylech wneud y canlynol:
Os na allwch fynd i'r cyfarfod (er enghraifft os ydych yn sâl) byddai disgwyl i'ch cyflogwr aildrefnu'r cyfarfod o leiaf unwaith os oes modd. Os ydych yn dal yn methu mynd iddo, gall eich cyflogwr ddewis cynnal y cyfarfod yn eich absenoldeb. Mewn sefyllfa o'r fath, gallech geisio anfon datganiad ysgrifenedig neu gynrychiolydd o bosib a allai esbonio eich ochr chi.
Naill ai yn y cyfarfod neu'n fuan wedyn, dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi beth yw ei benderfyniad a pha gamau y mae am eu cymryd. Mewn rhai achosion, os byddwch yn codi ffaith neu fater pwysig newydd yn y cyfarfod fe allai eich cyflogwr ddirwyn y cyfarfod i ben er mwyn edrych ar y materion hynny. Dylai aildrefnu'r cyfarfod ar ddyddiad arall.
Efallai y gwneir hyn ar lafar, er y dylid ei gadarnhau'n ysgrifenedig, yn dibynnu ar y rheswm dros y cam disgyblu. Rhaid i'ch cyflogwr hefyd roi gwybod i chi am eich hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dyma enghreifftiau o benderfyniadau:
Gallai'r canlyniad hefyd fod yn unrhyw beth arall a allai ddatrys y broblem (er enghraifft cytundeb i gymryd rhan mewn proses gyfryngu rhyngoch chi a chydweithiwr yr ydych wedi bod yn cael problemau personol gydag ef/hi).
Dylai trefn ddisgyblu eich cwmni nodi sawl rhybudd llafar neu ysgrifenedig y mae angen eu cael cyn y rhoddir rhybudd terfynol neu ddiswyddo. Os mai rhybudd llafar a gawsoch, dylech gael rhybudd ysgrifenedig neu gadarnhad ysgrifenedig, yn dweud am beth y rhoddwyd y rhybudd ac am faint y bydd mewn grym.
Caiff eich cyflogwr roi unrhyw fath o rybudd sy'n briodol yn ei dyb ef neu hi. Er enghraifft, mewn achos o ddwyn neu drais efallai y bydd yn penderfynu rhoi rhybudd terfynol yn syth - neu ddiswyddo hyd yn oed. Dylai eich cyflogwr geisio gweithredu'n gyson bob amser ac felly, petai'n rhoi rhybudd llafar i eraill mewn sefyllfa benodol ni ddylai roi rhybudd terfynol i chi onid oes rheswm da dros wneud hynny.
Os cewch rybudd swyddogol heb lythyr cychwynnol a chyfarfod, dylech apelio (ac esbonio pam). Gallai hyn ddigwydd os yw'ch cyflogwr wedi trin achos o ddwrdio syml fel rhybudd llafar swyddogol.
Er mai'r camau mwyaf cyffredin yw rhybuddion neu ddiswyddo, mae'n bosib bod eich contract yn caniatáu cosbau eraill megis israddio neu wahardd heb dâl. Ni chaiff eich cyflogwr newid eich disgrifiad swydd fel cosb, na'ch dirwyo, oni chaniateir hyn gan eich contract.