Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trefn ddisgyblu: apeliadau a beth i'w wneud nesaf

Trydydd cam y trefniadau disgyblu yw eich hawl i apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr. Rhaid bod gennych sail dros apelio a bydd angen i chi ddechrau'r broses o fewn amser penodol. Dylech bob amser fod yn ymwybodol y bydd y trefniadau disgyblu yn newid o 6 Ebrill 2009 ymlaen.

Apelio

Rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych fod gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Os ydych yn dymuno mynd â'ch achos i Dribiwnlys Cyflogaeth (neu Dribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon), mae'n rhaid eich bod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad cyn gwneud eich hawliad (neu efallai y byddwch yn cael llai o iawndal).

O 6 Ebrill 2009 ymlaen, ni fydd yn ofynnol i'ch cyflogwr nac i chithau ddilyn y drefn statudol.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ni fydd y newidiadau o ran datrys anghydfodau yn berthnasol. I gael gwybod mwy am y trefniadau datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu.

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn credu:

  • bod y penderfyniad yn anghywir
  • bod trefn annheg wedi'i defnyddio
  • bod y gosb yn rhy llym
  • bod tystiolaeth newydd wedi dod i'r wyneb

Dylai eich sail dros apelio fod yn rhesymol. Fel arfer ni fydd eich teimladau personol, na mân wallau yn y drefn a ddilynwyd, yn newid y penderfyniad.

Mae'r broses apelio'n debyg i'r drefn ddisgyblu:

  • rydych yn ysgrifennu llythyr yn rhoi'ch rhesymau dros apelio
  • cynhelir cyfarfod, fel arfer gyda rheolwr ar lefel uwch na'r rheolwr a oedd yn y cyfarfod cyntaf. Mae gennych hawl i gael rhywun i fynd gyda chi i’r cyfarfod
  • gwneir penderfyniad terfynol

Sicrhewch eich bod yn gwybod y terfynau amser ar gyfer apelio - yn aml bydd y rhain yn y gweithdrefnau ysgrifenedig. Os na chewch chi ddigon o amser i apelio, gwnewch beth y gallwch, a darparwch unrhyw wybodaeth arall angenrheidiol yn nes ymlaen.

Mewn cwmnïau bach efallai na fydd yn bosib dod o hyd i rywun a chanddo fwy o awdurdod na'r person a wnaeth y penderfyniad disgyblu gwreiddiol. Yn yr achos hwn, dylai'r person hwnnw fod mor ddiduedd â phosib wrth wrando ar yr apêl, a dylai ddefnyddio'r cyfarfod fel cyfle i adolygu'r penderfyniad gwreiddiol.

Allwch chi ddim gwneud hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth yn erbyn rhybudd, er y gallech hawlio diswyddiad ffurfiannol os penderfynwch adael oherwydd y sefyllfa. A better approach is to suggest mediation or conciliation.

Gallwch hefyd wneud hawliad tor-contract drwy Lys Sifil os ydy'ch cyflogwr wedi torri telerau eich contract.

Pan fyddwch yn cyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth rhaid i chi wneud hynny o fewn tri mis fel arfer. Os yw'r hawliad Tribiwnlys yn deillio o rywbeth a ddigwyddodd cyn 6 Ebrill 2009 ac nad yw'r broses apelio wedi dod i ben o fewn y terfyn amser arferol, gallai'r Tribiwnlys ei ymestyn am dri mis arall. Os digwyddodd y digwyddiad y bwriadwch hawlio yn ei gylch cyn neu ar ôl 6 Ebrill 2009 ni fydd mwy o amser yn berthnasol. Os nad ydych yn sicr am y terfynau amser, dylech ofyn am gyngor gan arbenigwr.

O 6 Ebrill 2009 ymlaen, os oes gennych anghydfod sy'n debygol o droi'n achos Tribiwnlys Cyflogaeth, efallai y gall Acas gynnig gwasanaeth cymodi cyn-hawlio i chi am ddim. Dylech gysylltu â llinell gymorth Acas i gael gwybod a fyddai hyn yn addas i chi.

Ble mae cael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU