Mae Tribiwnlys Cyflogaeth yn delio ag anghydfodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â gwaith. Dewch i gael gwybod sut maent yn gweithio a sut mae gwneud hawliad.
Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn gwrando ar achosion sy'n ymwneud ag anghydfodau cyflogaeth. Maent yn llai ffurfiol na rhai llysoedd eraill, ond rydych yn rhoi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad, ac os byddwch yn dweud celwydd, gallwch eich cael yn euog o anudoniaeth (perjury). Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae ambell beth yn wahanol yn y gyfraith (gweler yr adran isod am Dribiwnlysoedd yng Ngogledd Iwerddon am fwy o fanylion).
Mae'r achosion gerbron panel o dri fel arfer - cyfeirir ato fel Tribiwnlys - sy'n cynnwys Barnwr Cyflogaeth cyfreithiol gymwys, a dau 'aelod lleyg' sy'n cynrychioli'r sector cyflogeion a'r sector cyflogwyr. Mae'r aelodau lleyg yn defnyddio'u profiad priodol ym maes cyflogaeth er mwyn cydbwyso'r trefniadau. Weithiau bydd y Barnwr Cyflogaeth yn rheoli'r gwrandawiad ei hun, er enghraifft, i wrando unrhyw ddadleuon cyfreithiol.
Ni chodir tâl am fynd â'ch achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Felly os nad ydych yn talu cynrychiolydd, megis cyfreithiwr, nid yw'n costio dim i wneud hawliad.
Cyn gwneud eich hawliad, mae'n rhaid i chi fel arfer ddilyn y trefniadau cwyno statudol i ddechrau. Tan 6 Ebrill 2009, ni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn derbyn eich achos fel arfer oni fyddwch wedi cyflwyno cwyn ysgrifenedig i'ch cyflogwr i ddechrau ac wedi aros 28 diwrnod cyn i chi wneud eich hawliad. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â gwaharddiad neu gamau disgyblu. Fodd bynnag, nid yw'r rheol hon yn berthnasol i'r camau disgyblu rydych yn credu a arweiniodd at gamwahaniaethu neu at gamau disgyblu anghyfreithlon lle nad oedd y rhesymau a roddodd y cyflogwr (er enghraifft ymddygiad neu allu) yn berthnasol i'r rhesymau y gweithredodd y cyflogwr arnynt.
Dim ond achosion sy'n gysylltiedig â hawliau penodol y gall Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu arnynt, felly sicrhewch eich bod yn gwybod beth rydych yn ei hawlio. Er enghraifft, os ydych yn cwyno am beidio â chael eich talu, fe'i gelwir yn 'ddidyniadau anghyfreithlon o gyflog'. Os yw'ch cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol oherwydd bod gennych anabledd, mae hyn yn 'wahaniaethu ar sail anabledd'. Os cawsoch eich trin mor wael gan eich cyflogwr fel y gorfodwyd chi i adael, dyma 'ddiswyddiad deongliadol' (constructive dismissal). I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr erthyglau ar y safle hwn sy'n cyfateb agosaf i'ch problem.
Mae bob amser yn well ceisio datrys problemau drwy drafodaeth. Cyn i chi gyflwyno eich hawliad, dylech gael cyngor arbenigol, yn bennaf er mwyn cael gwybod eich siawns o lwyddo. O 6 Ebrill 2009 ymlaen, os oes gennych anghydfod sy'n debygol o droi yn achos Tribiwnlys Cyflogaeth, efallai y gall y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) gynnig gwasanaeth cymodi cyn-hawlio i chi am ddim cyn i chi gyflwyno hawliad i'r Tribiwnlys. Dylech gysylltu â llinell gymorth Acas i gael gwybod a fyddai hyn yn addas i chi.
Rhaid i chi:
I ddechrau dylech lenwi ffurflen ET1, y gellir ei chael gan y canlynol:
Gall CAB eich helpu i lenwi'r ffurflen.
Defnyddiwch y ffurflen i roi gwybodaeth amdanoch eich hun, eich cyflogwr a'ch cwyn, a chadarnhewch eich bod wedi dilyn trefn gwyno eich cyflogwr pan fo'n briodol. Os ydych yn cwyno i chi gael eich diswyddo'n annheg does dim rhaid i chi fod wedi defnyddio trefn gwyno'r cyflogwr ond dylai'ch cyflogwr fod wedi defnyddio'r drefn ddisgyblu.
Anfonwch y ffurflen at swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth perthnasol a restrir yn y llyfryn 'Gwneud hawliad' sydd ar gael ar eu gwefan. Byddant yn anfon copi at eich cyflogwr, ac at Acas yn y rhan fwyaf o achosion. Yna bydd gan eich cyflogwr 28 diwrnod i ymateb.
Rhaid i'r rhan fwyaf o geisiadau i Dribiwnlys Cyflogaeth gael eu gwneud o fewn tri mis i ddyddiad y digwyddiad ond gall hyn amrywio. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad. Holwch ynghylch y terfyn amser sy'n berthnasol i'ch achos chi drwy ffonio llinell gymorth y Tribiwnlys Cyflogaeth ar 08457 959 775 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Bydd y tribiwnlys yn cadarnhau p'un ai a allant ddelio â'ch hawliad ai peidio. Os oes unrhyw amheuaeth, efallai y cynhelir gwrandawiad er mwyn egluro'r achos. Dim ond y Barnwr Cyflogaeth fydd yn bresennol yn y gwrandawiad fel arfer.
Os bydd y Barnwr Cyflogaeth yn credu nad yw eich hawliad yn debygol o lwyddo efallai y byddant yn gofyn i chi dalu blaendal o £500 fel amod ar gyfer parhau â'ch hawliad. Os byddwch yn colli eich achos mae'n bosibl y caiff y blaendal hwn ei ddefnyddio i ad-dalu costau neu dreuliau y bu'n rhaid i'r atebydd eu talu wrth amddiffyn yr achos.
Os bydd yr achos yn mynd yn ei flaen, gellir cynnal 'Adolygiadau cyn gwrandawiad' neu 'Drafodaethau Rheoli Achos' i fanylu ar unrhyw faterion a fydd yn weddill. Gall y Tribiwnlys hefyd ofyn i chi neu i'ch cyflogwr am ragor o wybodaeth am yr hawliad.
Ceisiwch setlo'ch hawliad cyn mynd at y Tribiwnlys Cyflogaeth - cofiwch, efallai na fyddwch yn ennill. Gallwch dynnu eich cwyn yn ôl fel arfer unrhyw bryd cyn y Gwrandawiad. Bydd Acas yn cynnig gwasanaeth cymodi di-dâl a diduedd i chi a'ch cyflogwr, hyd yn oed cyn i chi gyflwyno hawliad i'r Tribiwnlys. Mae'r cyfnod cymodi fel arfer yn saith wythnos mewn achosion megis hawliadau cyflog, yn 13 wythnos ar gyfer diswyddo annheg, ac yn benagored ar gyfer hawliadau gwahaniaethu. Ni fydd y cyfnodau cymodi sefydlog hyn yn berthnasol ar ôl 6 Ebrill 2009.
Yn wahanol i lysoedd eraill, fel arfer nid yw tribiwnlysoedd yn gorchymyn y naill ochr na'r llall i dalu costau oni fyddant yn penderfynu eich bod chi neu eich cyflogwr wedi gweithredu'n afresymol wrth ddod â'r achos ger ei fron, neu os oedd unrhyw gynrychiolwyr yn y gwrandawiad wedi ymddwyn yn afresymol.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.
Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan dwrnai neu asiantaeth gynghori.