Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfryngu mewn anghydfodau yn y gweithle

Gellir datrys problemau yn y gwaith mewn sawl ffordd heb fynd i lys neu Dribiwnlys Cyflogaeth - mae hyn yn cynnwys defnyddio gwasanaethau cyfryngu. Os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno i ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu gall hynny fod yn gynt ac yn llai costus na chymryd camau cyfreithiol.

Cyfryngu

Gyda'r broses gyfryngu, mae arbenigwr diduedd yn siarad â'r ddwy ochr ar wahân, yn ogystal â gyda'i gilydd os oes angen, ac yn eu helpu i ddod o hyd i ateb y gall y ddwy ochr ei dderbyn. Mae hyn fel arfer yn gynt na chymryd camau cyfreithiol, yn aml bydd y broses yn para llai na diwrnod a bydd bron bob amser yn llai costus ac yn peri llai o straen.

Rhaid i'r ddwy ochr gytuno i'r broses gyfryngu. Nid yw cyfryngu'n wasanaeth a geir am ddim, er mai'r cyflogwr fyddai'n talu fel arfer os byddwch chi'ch dau'n cytuno ar gyfryngu.

Mae'r cyfryngwr yn gwneud mwy na dim ond dweud wrthych beth y dylech ei wneud, mae hefyd yn rhoi cyngor ar y materion dan sylw, ac yn gofyn cwestiynau sy'n helpu pobl i edrych ar eu hymddygiad eu hunain.

Mae'n well defnyddio'r broses gyfryngu yn gynnar mewn anghydfod. Fe'i defnyddir weithiau fel rhan o drefn gwyno.

Mae gan rai cwmnïau eu cyfryngwyr cymwys eu hunain, ac mae sefydliadau megis y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) a'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yng Ngogledd Iwerddon, yn cynnig gwasanaethau cyfryngu proffesiynol. Defnyddir gwasanaeth Acas a'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yn bennaf ar gyfer y canlynol:

  • helpu i ddatrys anghytundebau rhwng gweithwyr, er enghraifft gwrthdaro rhwng personoliaethau
  • helpu i ddatrys problemau rhyngoch chi a'ch cyflogwr
  • gwrando ar apeliadau yn erbyn camau disgyblu, yn aml mewn cwmnïau llai

Bydd cynghorwyr llinell gymorth Acas yn gallu rhoi gwybod i chi ym mhle y gallwch fanteisio ar y gwasanaethau cyfryngu a gynigir ganddynt am dâl. O 6 Ebrill 2009 ymlaen, bydd Acas hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi sut y gallwch fanteisio ar gyrff cyfryngu cyfreithiol a phroffesiynol eraill.

Os byddwch yn bwrw ymlaen â'r broses gyfryngu, mae'n werth paratoi drwy nodi ar bapur y broblem, yr hanes a'r canlyniadau posib a fyddai'n dderbyniol gennych.

Nid yw cytundebau y deuir iddynt drwy gyfryngu'n gyfreithiol-rwym, oni chytunir ar hynny ymlaen llaw.

Ble mae cael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Efallai y gall cyfreithiwr neu asiantaeth gynghori eich helpu i benderfynu ar y llwybr gorau i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU